Yn ystod yr haf llynedd, fe fuon ni wrthi yn casglu atgofion pobl o’r parc a’r palas dros y degawdau. Bydd yr atgofion yma yn cael eu cadw a’u rhannu ar wefan ‘Casgliad Y Werin’.
Fel rhan o brosiect ‘Treftadaeth 15 Munud Digidol’ a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth Y Loteri Genedlaethol, fe ddaeth criw o bobl ifanc at ei gilydd i greu ffilm fer, wedi ei selio ar y storiâu a gasglwyd. Fe gafodd y criw gyfle i ddysgu am greu storiâu, sgriptio a phob agwedd o ffilmio dros 6 diwrnod prysur ar ddiwedd gwyliau’r haf. Creuwyd parodi gomedi arswyd wedi ei selio ar fywyd y tri Esgob diwethaf i fyw yn y palas. Diolch i Akron Film Production a’r actorion a gymerodd rhan a diolch hefyd i’n gwirfoddolwraig Dilys a fu’n ddigon parod i fod yn rhan o’r hwyl! Diolch hefyd i Amgueddfa Sir Gâr a fuodd yn rhan o’r prosiect a chaniataodd i’r ffilmio mewnol cael ei wneud yn yr Hen Balas.
Gobeithio y wnewch chi fwynhau gwylio ‘Clerygion Yn Cecru’!
(N.B. Darn o ffuglen yw’r ffilm ac nid yw’n cynrychioli gwir hanes y safle)
Clerygion Yn Cecru