enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Ymweld

Pryd mae’r Parc ar agor?

Rydyn ni ar agor 365 diwrnod y flwyddyn, o doriad gwawr tan fachlud haul. Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor rhwng 9yb a 5yp, 7 diwrnod yr wythnos (pan fo’r caffi ar agor).

Oes angen talu?

Nac oes! Mae mynediad a pharcio yn rhad ac am ddim.

Beth yw’r cyfeiriad?

Ein cyfeiriad yw: Parc Yr Esgob, Hen Balas Yr Esgob, Abergwili, Sir Gaerfyrddin SA31 2JG

Cliciwch yma am Gyfarwyddiadau ar Google Maps. 

 

Beth sydd i weld a gwneud?

Mae dros 800 mlynedd o hanesgarddwriaeth a bywyd gwyllt i’w ganfod ym Mharc yr Esgob – yn cynnwys gerddi newydd hardd sy’n gyfeillgar i beillwyr, coed aeddfed, coetir yn gyfoethog o fywyd gwyllt, ac ystumllyn mewn ADdGA (Pwll yr Esgob) a gorlifdir Waun Fawr.

Dyma ein 10 Uchaf o bethau i’w gwneud yn y Parc

Os oes gennych ychydig oriau, neu hanner diwrnod …

Mae Parc yr Esgob yn lle bendigedig i fynd am dro, i gyfarfod â ffrindiau neu i ymlacio a hamddena ar y borfa neu ar ein meinciau newydd. Gall ymwelwyr o bell ac agos dreulio hanner diwrnod yno’n hawdd – gyda chinio neu de prynhawn yn y caffi. Yn ogystal â phaneli dehongli i’w dilyn ledled y Parc, gallwch ddarganfod mwy am hanes, garddwriaeth a bywyd gwyllt y Parc yn ein canolfan ymwelwyr. Neu archebwch daith dywys.

Os oes gennych ddiwrnod cyfan …

Dewiswch awr neu ddwy heulog yn y Parc i ddilyn y paneli dehongli, neu archebwch daith i weld y tu fewn i’r ardd furiog, cyn cael cinio yn y caffi. Treuliwch y prynhawn yn darganfod hanes difyr Sir Gaerfyrddin yn yr Amgueddfa.

Beth sydd yma ar gyfer teuluoedd?

Mae croeso yma i deuluoedd. Ewch am dro i’r caffi (ar agor rhwng 9yb a 5yp, 7 diwrnod yr wythnos) neu dewch â phicnic, ymwelwch ag ardaloedd gwahanol y Parc a mwynhau’r awyr agored! Mae yna foncyff ffawydd mawr yn Yr Ardd Goetir i chi allu cerdded drosto a rhaffau sgramblo i brofi eich sgiliau dringo. Chwiliwch am fywyd gwyllt yn cynnwys elyrch, cwtieir, hwyaid a chrehyrod gleision ym Mhwll yr Esgob. Gyda thipyn bach o lwc, efallai y gwelwch chi las y dorlan neu ddwrgi!

Mae digon o le i blant allu mwynhau eu hunain a llu o feinciau hardd newydd i gael hoe i fwynhau byrbryd a gwerthfawrogi golygfeydd o Ddyffryn Tywi. Mae toiledau hygyrch ar gael yn y ganolfan ymwelwyr.

Lawrlwythwch lwybrau a gweithgareddau i’r teulu yma neu casglwch gopi o’n canolfan ymwelwyr.

Darllennwch fwy am Gadw’n Ddiogel yn y Parc

Ydy’r parc yn hygyrch ar gyfer ymwelwyr anabl?

Mae sicrhau fod y safle mor gynhwysol â phosib yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae ein prif lwybrau newydd yn llydan, yn wastad ac yn hwylus ar gyfer cadeiriau olwyn gan ein bod yn croesawu ymwelwyr a gwirfoddolwyr anabl yn gyson. Yn sgil cyfyngiadau’r safle, ym mhen mwyaf dwyreiniol y safle, mae’r llwybrau drwy’r coed wedi eu ffurfio o gerrig mwy ac felly’n anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn – ond gellir mynd am gylchdaith dda o gwmpas y lle ar sgwter neu mewn cadair olwyn. Does dim grisiau ar y bont newydd i’r Waun Fawr, na chwaith yn ein caffi, sydd yn cynnwys toiled hygyrch.

Oes mynediad i gŵn?

Mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ac ar dennyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu baw eich ci a’i roi mewn bag a’i waredu yn y biniau sy’n cael eu darparu.

Beth sy’n digwydd yn y Parc?

Mae gennym raglen fywiog o ddigwyddiadau, cyrsiau a gweithdai – o weithdai celf i blant i gyrsiau garddio, ac adfywiad o Sioe Parc yr Esgob.

Edrychwch i weld Beth sy’n Digwydd ar hyn o bryd.

Beth sydd ar agor ac ar gael i archebu?

Mae’r Parc ar agor yn ystod oriau dydd, ac mae gyda ni gaffi, canolfan ddysgu, toiledau hygyrch  ac wedi’u lleoli yn hen adeiladau allanol yr Esgob – y llaethdy, pantri, bragdy a’r golchdy.

Rydyn ni hefyd yn cynnal teithiau cyson o gwmpas y safle yn cynnwys yr Ardd Furiog o’r 18fed ganrif, nad yw ar agor fel arfer i ymwelwyr – cysylltwch â ni i ddarganfod mwy os nad oes unrhyw deithiau wedi’u rhestru.

Ydy’r ardd furiog ar agor?

Dim ond ar gyfer teithiau tywys a dyddiau agored arbennig y mae’r Ardd Furiog ar agor. Archebwch daith neu ddarganfod mwy am ein digwyddiadau.

Alla i ddod â grŵp neu ddechrau clwb yn y Parc?

Rydyn ni’n croesawu grwpiau a gallwn gynnig teithiau tywys a chyflwyniadau preifat, a buasem wrth ein bodd yn gweld gwirfoddolwyr yn sefydlu clybiau rheolaidd. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.

Sut alla i gymryd rhan?

Fel elusen, ni fyddai’n bosib i ni barhau â’n gwaith o gynnal a chadw’r Parc heb dîm o wirfoddolwyr ymroddedig – felly mae gwir angen eich help arnom.

Edrychwch yma i weld sut y gallwch chi Gefnogi ein Gwaith.

Lle bendigedig i grwydro, ymlacio ac ymgolli mewn hanes a natur.