{"id":2045,"date":"2021-06-11T17:30:13","date_gmt":"2021-06-11T17:30:13","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=2045"},"modified":"2026-04-01T14:46:37","modified_gmt":"2026-04-01T14:46:37","slug":"horticulture","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/horticulture\/","title":{"rendered":"Garddwriaeth"},"content":{"rendered":"<p>Mae garddwriaeth yn elfen allweddol o\u2019n treftadaeth yma ym Mharc yr Esgob, ac yn rhan fawr o\u2019r gwaith adfer parhaus. Drwy ddatgelu gorffennol garddwriaethol y safle, ein bwriad yw deall sut y gall dulliau a thechnegau hanesyddol y gorffennol gael eu defnyddio i lywio dyfodol mwy cynaliadwy, ar gyfer pobl a bywyd gwyllt sy\u2019n rhannu\u2019r lle unigryw ac arbennig yma.<\/p>\n<h2>Cynllun Newydd yr Esgob John Jenkinson<\/h2>\n<p>Roedd y cyfnod rhwng 1825 a 1840 yn gyfnod o newid mawr ym Mharc yr Esgob.\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/the-abergwili-bishops\/\">Yr Esgob John Jenkinson<\/a>\u00a0oedd yn byw yn y Palas ar y pryd ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y gerddi a\u2019u datblygiad, wedi\u2019i ysbrydoli gan arddull arddwriaethol tirwedd John Claudius Laudon. Wrth ailgynllunio\u2019r safle, gwnaeth ymdrech ymwybodol i gyfuno rhai o\u2019r elfennau mwy urddasol anffurfiol, a etifeddwyd gan yr Esgob Arglwydd George Murry, gyda rhai mwy amlwg ffurfiol. Amlinelliad prin o\u2019r cynllun newydd yma a etifeddwyd yn ei dro gan<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/home\/about-the-trust\/\"> Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob<\/a>\u00a0yn 2018, gyda\u2019r bwriad o\u2019i\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/home\/about-the-restoration\/\">adfer i\u2019w ogoniant blaenorol.<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2472 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson2.jpg\" alt=\"Llun agos o wely gardd gyda blodau gwyllt tal, tenau a phlanhigion gwyrdd yn tyfu mewn pridd, gyda llwybr carreg troellog a gwyrddni aneglur yn y cefndir. \" width=\"1000\" height=\"666\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson2.jpg 1000w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson2-300x200.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson2-768x511.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/>Ond er bod ein gwaith adfer yn canolbwyntio ar ail-greu rhai o nodweddion penodol yr ardd a\u2019r dirwedd a gr\u00ebwyd gan yr Esgob John Jenkinson yn yr 1830au, mae llinach arddwriaethol y safle\u2019n mynd n\u00f4l yn gynharach fyth, gan i\u2019r gerddi newid tipyn dros y canrifoedd. Gwelwyd darganfyddiadau a thrawsnewidiadau garddwriaethol newydd a chyffrous yn sgil y newidiadau hynny.<\/p>\n<p>O\u2019r tai gwydr Fictoraidd yn yr <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/walled-garden\/\">Ardd Furiog<\/a>, i\u2019r\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/the-ha-ha\/\">Ha-ha<\/a>, a\u2019r llu o goed urddasol ledled <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/y-parc\/\">y Parc,<\/a>\u00a0roedd trigolion y safle\u2019n aml ar flaen y gad o safbwynt dylunio ac arloesi ym maes gerddi a thirwedd.<\/p>\n<p>Felly, gan geisio bod mor driw \u00e2 phosibl wrth ail-greu\u2019r gerddi\u2019n rhywbeth y byddai\u2019r Esgob Jenkinson yn eu hadnabod, rydyn ni hefyd yn ceisio parhau \u00e2\u2019r ysbryd arloesol a fyddai wedi\u2019i yrru \u2013 fel nifer o\u2019r Esgobion eraill a fu\u2019n byw yma \u2013 wrth greu eu hyst\u00e2d hardd.<\/p>\n<h2><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2525 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-walled-garden-1280-x-600.jpg\" alt=\"Mae oedolyn h\u0177n mewn crys oren yn cerdded trwy ardd, yn cario dau gan ddyfrio, a welir trwy fwa carreg. Mae gwyrddni toreithiog a golau haul i'w gweld yn y cefndir. \" width=\"1280\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-walled-garden-1280-x-600.jpg 1280w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-walled-garden-1280-x-600-300x141.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-walled-garden-1280-x-600-1024x480.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-walled-garden-1280-x-600-768x360.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1280px) 100vw, 1280px\" \/>Adnewyddu a Gwarchod<\/h2>\n<p>Gall y Parc nawr ymhyfrydu mewn nifer o ardaloedd di-st\u0175r, pob un \u00e2\u2019i phriodweddau garddwriaethol arbennig a chymaint i gynnig i ymwelwyr. Cynlluniwyd<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/gardd-jenkinson\/\">\u00a0Gardd Jenkinson<\/a>\u00a0ar lun gardd ffurfiol yr Esgob Jenkinson a adeiladwyd yno cynt, gyda rhosod, blodau lluosfwydd, perlysiau a chloddiau ochr yn ochr \u00e2\u2019i gilydd. Mae\u2019r\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/woodland-garden\/\">Ardd Goetir<\/a>, man hamddenol i oedi i fwynhau golygfyedd o Ddyffryn Towy, yn cynnwys coed a llwyni brodorol a hanesyddol. A bydd yr\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/walled-garden\/\">Ardd Furiog,<\/a>\u00a0sy\u2019n adfywio\u2019n raddol wedi blynyddoedd lawer o esgeulustod, un diwrnod yn chwarae r\u00f4l ganolog o safbwynt cynaliadwyedd Parc yr Esgob, gan ddarparu cynnyrch ar gyfer y caffi a lleoliad ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau addysgol.<\/p>\n<h2><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-3220 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tad.jpg\" alt=\"Mae person mewn crys siec a menig yn penlinio ar y ddaear, yn plannu planhigion ifanc mewn gardd. Mae potiau planhigion bach wedi'u trefnu o'u cwmpas, ac mae coed \u00e2 dail prin yn y cefndir. \" width=\"1280\" height=\"852\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tad.jpg 1280w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tad-300x200.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tad-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tad-768x511.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1280px) 100vw, 1280px\" \/>Mae\u2019r stori\u2019n parhau<\/h2>\n<p>Mae\u2019r holl ardaloedd yma\u2019n adrodd hanes Parc yr Esgob yn eu ffyrdd eu huain, ond mae\u2019r stori\u2019n dal i barhau. Ar adeg pan mae cynaliadwyedd a gweithio gyda natur yn flaenoriaethau pwysig, mae garddwriaeth ym Mharc yr Esgob mewn sefyllfa berffaith i roi lle canolog i\u2019r rhain.<\/p>\n<p>Cyn belled ag y bo modd, rydyn ni\u2019n garddio\u2019n organig, gan ddefnyddio nerth b\u00f4n braich i reoli chwyn, ac annog cydbwysedd byd natur drwy ddarparu cynefin hanfodol ac adnoddau bwyd ar gyfer amrywiaeth o fflora a ffawna.<\/p>\n<p>Dros amser, ein bwriad hefyd yw cynnig cyrsiau mewn dulliau garddio sylfaenol y gall pobl eu mabwysiadau a\u2019u defnyddio yn eu gerddi eu hunain.<\/p>\n<p>Yn bwysicaf oll, bwriad gerddi Parc yr Esgob yw cynnig amgylchedd hardd, ymlaciol ac ysgogol i bobl allu dysgu am ein hanes byw a chael mynd yn agosach at amrywiaeth arbennig o fywyd gwyllt ar garreg eu drws yn Sir Gaerfyrddin.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2526 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-wildflowers-1280-x-600.jpg\" alt=\"Mae tair menyw ifanc yn gorwedd ar y glaswellt ymhlith blodau gwyllt melyn, yn gwenu ac yn siarad gyda'i gilydd ar ddiwrnod heulog gyda choed ac adeilad yn y cefndir. \" width=\"1280\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-wildflowers-1280-x-600.jpg 1280w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-wildflowers-1280-x-600-300x141.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-wildflowers-1280-x-600-1024x480.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-wildflowers-1280-x-600-768x360.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1280px) 100vw, 1280px\" \/><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae garddwriaeth yn elfen allweddol o\u2019n treftadaeth yma ym Mharc yr Esgob, ac yn rhan fawr o\u2019r gwaith adfer parhaus. Drwy ddatgelu gorffennol garddwriaethol y safle, ein bwriad yw deall sut y gall dulliau a thechnegau hanesyddol y gorffennol gael eu defnyddio i lywio dyfodol mwy cynaliadwy, ar gyfer pobl a bywyd gwyllt sy\u2019n rhannu\u2019r lle unigryw ac arbennig yma.<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":2448,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":31,"footnotes":""},"categories":[85,80],"tags":[135,123,71],"class_list":{"0":"post-2045","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"category-featured-tabs","7":"category-horticulture","8":"tag-flowers","9":"tag-horti","10":"tag-nature","11":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2045","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2045"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2045\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5437,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2045\/revisions\/5437"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2448"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2045"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2045"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2045"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}