{"id":2052,"date":"2021-06-12T09:11:34","date_gmt":"2021-06-12T09:11:34","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=2052"},"modified":"2026-01-04T16:53:49","modified_gmt":"2026-01-04T16:53:49","slug":"history","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/history\/","title":{"rendered":"Hanes"},"content":{"rendered":"<blockquote><p>Mae Parc a Gerddi\u2019r Esgob wedi bod yn fan dysg, ffydd a golygfeydd hardd ers cannoedd o flynyddoedd.<\/p><\/blockquote>\n<p><span style=\"font-size: 1em;\">Mae Parc a Gerddi\u2019r Esgob yn gyforiog o hanes. O\u2019r coed hynafol sydd wedi bod yn cadw llygad ar bopeth yma ers canrifoedd, i\u2019r Ardd Furiog sydd wedi darparu bwydydd egsotig a blodau ar gyfer bwrdd yr Esgob i\u2019r ystumllyn a thirwedd gyfnewidiol gorlifdir Dyffryn Tywi, i <\/span><a style=\"font-size: 1em;\" href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/the-old-bishops-palace\/\">Balas canoloesol yr Esgob<\/a><span style=\"font-size: 1em;\">\u00a0y mae\u2019r Parc yn ei gwmpasu a\u2019r bobl fu\u2019n byw ac yn gweithio yma.<\/span><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1053 size-full\" style=\"font-size: 16px; font-style: italic; font-weight: bold;\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray.jpg\" alt=\"Mae map hen ffasiwn yn dangos caeau, yr Hen Afon, plotiau tir wedi'u labelu, llwybrau troellog, eglwys, ac adeiladau wedi'u lliwio'n goch. Mae enwau a rhifau wedi'u hysgrifennu \u00e2 llaw yn nodi perchnogion eiddo a lleoliadau. Mae coed ac ardaloedd cysgodol yn dynodi nodweddion tirwedd. \" width=\"1062\" height=\"605\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray.jpg 1062w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-300x171.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-768x438.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-1024x583.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-250x142.jpg 250w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-150x85.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 1062px) 100vw, 1062px\" \/>Mae\u2019r cydweithio rhwng staff yr amgueddfa a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth wedi llwyddo i gasglu straeon am <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/the-abergwili-bishops\/\">Esgobion Tyddewi<\/a>, eu\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/history\/the-old-bishops-palace\/\">palas<\/a>\u00a0a\u2019r gerddi Abergwili a\u2019r cymunedau fu\u2019n byw ac yn gweithio yma. Mae\u2019r gwaith hwn yn dal i barhau ac rydyn ni bob amser yn gweithio tuag at ychwanegu at ein deunydd archifol a rhannu straeon am y Palas a\u2019r Parc \u2013 felly os hoffech chi ymchwilio neu gyfrannu \u2013\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/support-us\/volunteer\/\">cysylltwch \u00e2 ni!<\/a><\/p>\n<h2><strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-989 size-medium\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/foxe289-253x300.gif\" alt=\" Portread du a gwyn o ddyn mewn dillad hanesyddol, yn gwisgo cap, gwisg gyda llewys llydan, a choler wen. Mae ganddo fwstas, barf bigfain, a mynegiant difrifol.\" width=\"253\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/foxe289-253x300.gif 253w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/foxe289-126x150.gif 126w\" sizes=\"auto, (max-width: 253px) 100vw, 253px\" \/><\/strong>Pam adeiladu yma?<\/h2>\n<p>Cyn creu <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/the-old-bishops-palace\/\">Palas yr Esgob,<\/a>\u00a0bu\u2019r esgobion yn ddylanwad ar fywydau pobl Abergwili. Ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, penderfynodd\u00a0<a href=\"https:\/\/biography.wales\/article\/s-BEC0-THO-1293\">Yr Esgob Thomas Bek<\/a>\u00a0adeiladu coleg eglwysig yn Abergwili \u2013 un o bedair tref yn Sir Gaerfyrddin oedd yn eiddo i Esgobion Tyddewi. Does neb yn si\u0175r pam Abergwili \u2013 ond mae\u2019n rhaid bod y cysylltiadau trafnidiaeth da \u00e2 Chaerfyrddin, y dref hynaf yng Nghymru lle mae pobl yn dal i fyw, yn un o\u2019r rhesymau pennaf.<\/p>\n<h2>Man teilwng ar gyfer Esgob<\/h2>\n<p>Cafwyd coleg yn Abergwili tan ganol y 16<sup>eg<\/sup>\u00a0ganrif, pan benderfynodd <a href=\"https:\/\/biography.wales\/article\/s-BARL-WIL-1499\">Yr Esgob William Barlow,<\/a>\u00a0o sylweddoli pa mor anghysbell oedd Tyddewi fel lle i fyw, symud y coleg i Aberhonddu er mwyn iddo allu troi Abergwili\u2019n gartref newydd iddo. Bu\u2019r palas yn gartref i Esgobion Tyddewi am y 431 mlynedd nesaf.<\/p>\n<h2>Cartref y Dadeni Cymreig<\/h2>\n<p>Yn 1561 trodd\u00a0<a href=\"https:\/\/biography.wales\/article\/s-DAVI-RIC-1501\">Yr Esgob Richard Davie<\/a><u>s<\/u> y lle\u2019n <em>gartref y Dadeni Cymreig<\/em>. Daeth artistiaid ac awduron a beirdd i Abergwili yn cynnwys\u00a0<a href=\"https:\/\/biography.wales\/article\/s-SALE-WIL-1520\">William Salesbury<\/a>, prif ysgolhaig cyfnod y <em>Dadeni<\/em> yng Nghymru. Tra\u2019n aros yn Abergwili a gweithio gyda\u2019r Esgob Davies, lluniodd y cyfieithiadau Cymraeg cyntaf o\u2019r <a href=\"https:\/\/www.library.wales\/discover\/digital-gallery\/printed-material\/william-salesburys-new-testament\">Testament Newydd<\/a>\u00a0a\u2019r Llyfr Gweddi Gyffredin. Drwy greu <a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Bible_translations_into_Welsh\">Beibl Cymraeg<\/a>\u00a0helpodd i sicrhau parhad yr iaith Gymraeg i\u2019r dyfodol.<\/p>\n<h2>Datblygu\u2019r Parc a\u2019r Gerddi<\/h2>\n<p>Yn y cyfamser, digon diweddar yn hanes y safle yw tystiolaeth am y gerddi a\u2019r parcdir yn Abergwili. Hyd yn oed yn y rhestr o eiddo dan berchnogaeth Esgob Tyddewi a luniwyd yn 1326 ni cheir s\u00f4n am fodolaeth yr Ardd na\u2019r Parc. Nid tan gofnodion yr Esgob Ottley yn 1713 y ceir y cyfeiriad cyntaf at erddi Abergwili. <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/history-park-gardens\/\">Dysgwch am ddatblygiad y Parc a\u2019r Gerddi<\/a>.<\/p>\n<h4><strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1141 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/IMG_4439.jpg\" alt=\" Pwll tawel wedi'i orchuddio \u00e2 padiau lili'r d\u0175r, wedi'i amgylchynu gan goed gwyrddlas a glaswellt o dan awyr las glir. Mae'r olygfa'n adlewyrchu heddwch natur ar ddiwrnod heulog.\" width=\"640\" height=\"480\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/IMG_4439.jpg 640w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/IMG_4439-300x225.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/IMG_4439-200x150.jpg 200w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/IMG_4439-150x113.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 640px) 100vw, 640px\" \/><\/strong><\/h4>\n<h2>Tirwedd\u00a0<a href=\"https:\/\/dyffryntywi.org.uk\/\">Dyffryn Tywi<\/a><\/h2>\n<p>Un o\u2019r nifer o esgobion i ymgymryd ag adnewyddu\u2019r palas a\u2019r safle oedd\u00a0<a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Lord_George_Murray_(bishop)\">Yr Esgob Arglwydd George Murray<\/a>\u00a0a wnaeth newidiadau sylweddol ar ddechrau\u2019r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma\u2019r adeg, o ganlyniad i lifogydd difrifol 1802, y newidiodd yr Afon Tywi ei chwrs i ffwrdd wrth Barc yr Esgob ymhellach i\u2019r de ar draws llawr y dyffryn, gan adael ond ystumllyn lle\u2019r arferai\u2019r afon fod. Rhoddwyd yr enw \u2018<em>Pwll yr Esgob\u2019<\/em> ar yr ystumllyn hwn sy\u2019n gorwedd ym mhen dwyreiniol Parc yr Esgob, ac yn hafan ar gyfer bywyd a phlanhigion gwyllt.<\/p>\n<h2>Gerddi Pleser yr Esgob Jenkinson<\/h2>\n<p>Ond ychydig flynyddoedd wedi adnewyddiad Murray yn 1825, pan ddaeth\u00a0<a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/John_Jenkinson_(bishop)\">John Jenkinson<\/a> yn esgob, roedd y Palas unwaith eto yn cael ei ddisgrifio yn agos at fod yn adfail. Ar ei gost ei hun, trefnodd yr Esgob Jenkinson i\u2019r adeilad gael ei adnewyddu\u2019n llwyr mewn arddull Elisabethaidd gan ailfodelu\u2019r tir o gwmpas mewn modd deniadol gyda golygfannau drwy\u2019r coed ledled ac ar hyd y dyffryn. Yn y 1840au, dywedwyd ei fod wedi \u2018<em>ychwanegu llawer i harddwch a phleser y gerddi drwy welliannau synhwyrol.\u2019<\/em> Y dyluniad hwn, a gofnodwyd mewn cynllun o\u2019r Palas a\u2019r gerddi yn 1843, sydd wedi\u2019i ddefnyddio i arwain y gwaith adnewyddu ac i ysbrydoli cynllun gardd fynediad newydd Jenkinson.<\/p>\n<figure id=\"attachment_1575\" aria-describedby=\"caption-attachment-1575\" style=\"width: 1000px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1575 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/cedarcarylthomas.jpg\" alt=\" Mae coeden fawr, hen gyda changhennau ymledol yn sefyll ar lawnt werdd o flaen adeilad carreg llwyd hanesyddol, wedi'i hamgylchynu gan goed yr hydref o dan awyr rhannol gymylog.\" width=\"1000\" height=\"563\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/cedarcarylthomas.jpg 1000w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/cedarcarylthomas-300x169.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/cedarcarylthomas-768x432.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/cedarcarylthomas-150x84.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1575\" class=\"wp-caption-text\">Hawlfraint Caryl Thomas 2020 &#8211; Y goeden gedrwydd o Libanus ym Mharc yr esgobion, Abergwili<\/figcaption><\/figure>\n<h2>Pobl y Palas<\/h2>\n<p>O ganol y 19<sup>eg<\/sup>\u00a0ganrif ymlaen, mae mwy o dystiolaeth o aelwyd yr Esgobion wedi goroesi, ac nid yn unig gwragedd a phlant. Er enghraifft, yn 1861, cofnoda\u2019r cyfrifiad howsgiper, cogydd, prif nyrs, 2 forwyn, morwyn cegin, is nyrs, morwyn laeth a throedwas yn byw yn y palas yn ogystal \u00e2\u2019r Esgob Connop Thirlwall a\u2019i or-neiaint a\u2019i or-nith 5, 3 a 2 oed, a dau ohonyn nhw wedi eu geni yn Abergwili.<\/p>\n<h2>Helpwch ni i ddarganfod mwy am y Parc<\/h2>\n<p>Mae mwy o straeon am y Palas, y gerddi a\u2019r bobl fu\u2019n byw a gweithio yma wedi eu darganfod gan ein gwirfoddolwyr ac rydyn ni\u2019n ychwanegu at yr archif hon yn barhaus ac yn cyhoeddi deunydd newydd ar ein gwefan. I helpu neu gyfrannu,\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/support-us\/volunteer\/\">cysylltwch \u00e2 ni! <\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Parc a Gerddi\u2019r Esgob yn gyforiog o hanes. O\u2019r coed hynafol sydd wedi bod yn cadw llygad ar bopeth yma ers canrifoedd, i\u2019r Ardd Furiog sydd wedi darparu bwydydd egsotig a blodau ar gyfer bwrdd yr Esgob i\u2019r ystumllyn a thirwedd gyfnewidiol gorlifdir Dyffryn Tywi, i Balas canoloesol yr Esgob\u00a0y mae\u2019r Parc yn ei gwmpasu a\u2019r bobl fu\u2019n byw ac yn gweithio yma.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2462,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":51,"footnotes":""},"categories":[85,12],"tags":[92,138,125,124],"class_list":{"0":"post-2052","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"category-featured-tabs","7":"category-history","8":"tag-esgobion","9":"tag-palas-yr-esgob","10":"tag-garden-history","11":"tag-history","12":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2052","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2052"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2052\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5179,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2052\/revisions\/5179"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2462"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2052"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2052"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2052"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}