{"id":2054,"date":"2021-06-12T09:12:18","date_gmt":"2021-06-12T09:12:18","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=2054"},"modified":"2026-01-06T11:46:05","modified_gmt":"2026-01-06T11:46:05","slug":"wildlife","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wildlife\/","title":{"rendered":"Bywyd Gwyllt"},"content":{"rendered":"<figure id=\"attachment_2316\" aria-describedby=\"caption-attachment-2316\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption alignright\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-2316 size-medium\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/hedgehog-300x194.jpg\" alt=\"Mae draenog gyda phigau yn cropian ymhlith dail sych, brigau a glaswellt ar y ddaear. Mae ei drwyn yn agos at y ddaear wrth iddo chwilio drwy'r dail.\" width=\"300\" height=\"194\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/hedgehog-300x194.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/hedgehog-768x495.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/hedgehog.jpg 1000w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2316\" class=\"wp-caption-text\">(c) Emma Reardon<\/figcaption><\/figure>\n<p>Mae gwarchod a chyfoethogi cyfleoedd i fflora a ffawna allu ffynnu\u2019n ganolog i\u2019n holl waith ym Mharc yr Esgob.\u00a0Mae ein hadeiladau a\u2019n parcdir yn gartref i gymaint o wahanol rywogaethau \u2013 a thrwy gyfrwng ein gwaith rydyn ni\u2019n monitro\u2019r hyn sydd gyda ni a sut y maen nhw\u2019n gwneud eu cartref ar y safle, gan nodi unrhyw newidiadau yn ystod y tymhorau, a chynnig y cyfleoedd gorau iddyn nhw allu ffynnu.<\/p>\n<p>O ddyfrgwn i ystlumod, rhuddnadroedd i lyswennod, elyrch a gleision y dorlan \u2013 mae darganfod pwy sy\u2019n byw yn y Parc yn hudol!<\/p>\n<h2>Ystlumod ym Mhantri\u2019r Esgob<\/h2>\n<p>Rydyn ni wrth ein boddau fod nifer o ystlumod yn galw adeiladau allanol yr Esgob yn gartref \u2013 mae nythfeydd bridio\u2019r ystlumod Natterer a chlwydau llai o ystlumod hirglust, ystlumod lleiaf a soprano yn fathau cyffredin a chyfarwydd, ond mae yma hefyd glwyd o hyd at saith ystlum pedol mwyaf prin ar y safle a gafodd eu gwarchod drwy gydol y broses adeiladu drwy gyfrwng agoriadau a luniwyd yn arbennig yn y to er mwyn sicrhau na fydden nhw\u2019n cael eu haflonyddu.\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wildlife\/the-bishops-park-bats\/\">Darllen mwy am ein hystlumod.<\/a><\/p>\n<h2><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2654 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bat-roof.jpg\" alt=\"Lluniad technegol pensaern\u00efol yn dangos strwythur to gyda gwahanol adrannau, drychiadau, a golygfeydd manwl o drawstiau, trawstiau, dimensiynau, ac elfennau adeiladu, pob un wedi'i labelu \u00e2 mesuriadau a nodiadau. \" width=\"856\" height=\"470\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bat-roof.jpg 856w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bat-roof-300x165.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bat-roof-768x422.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 856px) 100vw, 856px\" \/>Yn y Parc<\/h2>\n<p>Mae llawer o goed aeddfed yn goroesi yn y <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/y-parc\/\">prif Barcdir<\/a>, ac ochr yn ochr \u00e2\u2019r coed brodorol yn cynnwys yr ywen, y geiriosen wyllt a\u2019r dderwen. Drwy fabwysiadu trefn dorri porfa sy\u2019n garedig i fywyd gwyllt, rydyn ni wedi gwella\u2019r cyfleoedd i flodau gwyllt ffynnu ac roedden ni wrth ein boddau \u00e2\u2019r amrywiaeth a welwyd yn sgil y drefn newydd hon yn 2021 \u2013 yn cynnwys briallu, llysiau\u2019r wennol, clychau glas, cribellau melyn, effros blodau mawrion, rhwyddlwyni\u2019r mynydd, briwylys y gwrych a nifer o redynnau yn cynnwys y Dryopteris felix-mas a thafod yr hydd yn ogystal \u00e2\u2019r pidyn y gog nodweddiadol.\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/y-parc\/\">Darllen mwy am y Parc.\u00a0<\/a><\/p>\n<h2><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2517 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/woodland-garden.jpg\" alt=\"Yn edrych i fyny ar goed tal wedi'u gorchuddio \u00e2 mwsogl, eu canghennau'n ymestyn allan tuag at awyr las glir, gyda golau'r haul yn hidlo trwy ddail gwyrdd. \" width=\"1000\" height=\"667\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/woodland-garden.jpg 1000w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/woodland-garden-300x200.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/woodland-garden-768x512.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/>Bywyd Gwyllt y Coetir<\/h2>\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/woodland\/\">Coetir\u00a0<\/a>ym Mharc yr Esgob yn cynnwys amrywiaeth o goed aeddfed brodorol ac anfrodorol ac mae yno orchudd canopi sydd bron yn gyflawn \u2013 y man delfrydol i ymlacio mewn cysgod brith a sylwi ar fywyd gwyllt. Yn 2021, cafodd nifer o focsys adar ac ystlumod newydd eu gosod \u2013 a byddwn ni\u2019n monitro eu defnydd drwy gydol y flwyddyn.<\/p>\n<p>Yn ganolog i\u2019n Gardd Goetir newydd mae coeden ffawydd anferth, a dorrwyd i lawr rai blynyddoedd yn \u00f4l wedi iddi ansefydlogi yn sgil effaith ffyngau. Bellach mae\u2019n gartref i sawl math o ffwng diddorol yr hoffem ddysgu mwy amdanyn nhw.<\/p>\n<p>Yn anffodus, yn sgil effaith andwyol gwyw ynn ledled Parc yr Esgob, bu\u2019n rhaid torri ein coed ynn, ond mae\u2019r rhywogaethau brodorol sydd ar \u00f4l yn cynnwys ffawydd, coed derw coesog, coed gwern, coed celyn ochr yn ochr \u00e2 choed anfrodorol megis coed derw bythwyrdd, castanwydd y meirch ac ambell goeden gonwydd fel y llarwydden Japaneaidd. Rydyn ni hefyd wedi torri rhai o rhywogaethau anfrodorol ymledol o\u2019r isdyfiant, yn cynnwys y rhododendron a choed llawrgeirios a llawrgeirios Portiwgal, er mwyn i ni allu gwerthfawrogi fflora llawr dwysach drwy gydol y flwyddyn yn ogystal \u00e2 iorwg, mwsog a rhedyn, yn cynnwys tafod yr hydd a gwrychredyn caled. <u>Darllen mwy am y coetir<\/u>.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2696 size-large\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-07-Early-July-c-Caryl-THomas-6-1024x577.jpeg\" alt=\"Cae glaswelltog gyda rhesi o wair wedi'i dorri wedi'i bentyrru mewn tomenni bach, wedi'i ffinio \u00e2 choed a gi\u00e2t bren ar y chwith. Mae bryn coediog yn y cefndir o dan awyr gymylog, gymylog. \" width=\"1024\" height=\"577\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-07-Early-July-c-Caryl-THomas-6-1024x577.jpeg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-07-Early-July-c-Caryl-THomas-6-300x169.jpeg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-07-Early-July-c-Caryl-THomas-6-768x432.jpeg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-07-Early-July-c-Caryl-THomas-6.jpeg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<h2>Y Waun Fawr<\/h2>\n<p>Pan gymeron ni awenau safle\u2019r\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/waun-fawr\/\">Waun Fawr<\/a>\u00a0nid oedd wedi\u2019i ffermio ar gyfer cadwraeth ac o ganlyniad gellid ei ddisgrifio fel \u2018glastir rhywogaethol dlawd\u2019 (doedd yno ddim llawer o flodau gwylltion na mathau gwahanol o weiriau brodorol). Rydyn ni nawr yn newid y modd y mae\u2019r waun yn cael ei rheoli er mwyn sicrhau y gall bywyd gwyllt ffynnu yma, ac yn gyffrous iawn, yn 2021, cawsom gyfraniad o wair gwyrdd o ddolydd <u>Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las<\/u> <u>Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru<\/u>. Roedd y gwair yma\u2019n cynnwys hadau gwahanol rywogaethau o flodau gwyllt a ddylai weithio\u2019n dda ar ein gorlifwaun. Croeswn ein bysedd am ddigonedd o fflora ar y Waun Fawr yn 2022!\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/waun-fawr\/\">Darllen mwy am y Waun Fawr<\/a>.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-3105 size-large\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Ysgol-Abergwili-School-Jack-1024x768.jpg\" alt=\"Llun wedi'i dynnu \u00e2 llaw o gacynen gyda streipiau du, melyn a gwyn yn eistedd ar ganol oren blodyn melyn gyda chysgodi gwyrdd golau yn y cefndir.\" width=\"1024\" height=\"768\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Ysgol-Abergwili-School-Jack-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Ysgol-Abergwili-School-Jack-300x225.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Ysgol-Abergwili-School-Jack-768x576.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Ysgol-Abergwili-School-Jack.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p>Diolch i Jack o Ysgol Abergwili am y llun hyfryd hwn o beilliwr<\/p>\n<h2>Coed y Waun Fawr<\/h2>\n<p>Mae tair hen goeden dal ar y Waun: pisgwydden dail bach ger y cornel gorllewinol; derwen goesog hynafol ger y canol a chastanwydden y meirch ychydig i\u2019r gogledd-ddwyrain wrth honno. Mae gofod mawr y tu mewn i foncyff yr olaf y gellid ei ddefnyddio\u2019n ymarferol gan y dylluan wen, a gallai\u2019r ddwy olaf fod yn gartref i amrywiaeth o infertebratau a ffyngau.<\/p>\n<p>Ceir coed hefyd ar hyd y ffiniau, ac er nad oes trwch o gloddiau, maen nhw bellach wedi tyfu\u2019n rhesi o goed helyg, masarn, ynn a llwyfenni llydanddail.<\/p>\n<h2>Bywyd Gwyllt yn yr HA-HA<\/h2>\n<p>Cyn i\u2019r Ymddiriedolaeth ddechrau ar y safle, roedd canop\u00efau coed yn bargodi\u2019n gysgod dros yr Ha-ha, yn ogystal ag ambell goeden oedd yn tyfu ar y Waun. Roedd ymyl y llinell ganopi\u2019n cael ei ddominyddu gan ddinad cyffredin a ffromlys chwarennog, tra bod y rhan fwyaf o\u2019r ffos ei hun yn dir noeth. <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/the-ha-ha\/\">Darllen mwy am sut yr ydym yn gwarchod bywyd gwyllt yn yr Ha-ha.\u00a0\u00a0<\/a><\/p>\n<h2>Llysywen ar y Waun<\/h2>\n<p>Ym mhen dwyreiniol y Waun Fawr, mae cwlfer mawr yn arwain o dan y trac amaethyddol cyfagos sy\u2019n rhedeg oddi yno ar hyd y ffin ddeheuol. Gwelwyd llysywen Ewropeaidd yma yn ystod ein harolwg Ecolegol ym mis Mehefin 2019.<\/p>\n<h6><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2490 size-large\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20201119_135446-1024x474.jpg\" alt=\"Mae pwll coetir wedi'i amgylchynu gan goed noeth a mwsoglyd \u00e2 gwreiddiau troellog, yn adlewyrchu yn y d\u0175r llonydd. Mae golau'r haul yn hidlo trwy'r canghennau, ac mae dail syrthiedig yn gorchuddio'r ddaear yn y blaendir. \" width=\"1024\" height=\"474\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20201119_135446-1024x474.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20201119_135446-300x139.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/h6>\n<h2>Pwll yr Esgob<\/h2>\n<p>Caiff Pwll yr Esgob, sy\u2019n ystumllyn a glustnodwyd fel Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (ADdGA), ei ystyried fel yr enghraifft gorau o ystumllyn yng ngorllewin Cymru. Mae\u2019n gartref i amrywiaeth o blanhigion ymylol a dyfrol, yn ogystal ag adar d\u0175r, nadroedd y gwair a dyfrgwn (sy\u2019n bresennol ar hyd y Tywi a\u2019i llednentydd). Cofnodwyd gw\u00e2l yn y gorffennol ar ynys Pwll yr Esgob ond dydyn ni ddim wedi gweld rhai\u2019n ddiweddar \u2013 ydych chi? Rhowch wybod!<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/bishops-pond\/\">Darllen mwy am fywyd gwyllt Pwll yr Esgob.\u00a0<\/a><\/p>\n<h6><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-3084 size-large\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-08-Aug-c-Caryl-Thomas-3-1024x577.jpg\" alt=\"Mae coeden fawr, grom yn sefyll mewn gardd werdd, ffrwythlon gyda phot brown wedi'i droi drosodd wrth ei waelod. Mae'r cefndir yn cynnwys glaswellt tal, llwyni, ac awyr rhannol gymylog.\" width=\"1024\" height=\"577\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-08-Aug-c-Caryl-Thomas-3-1024x577.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-08-Aug-c-Caryl-Thomas-3-300x169.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-08-Aug-c-Caryl-Thomas-3-768x433.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-08-Aug-c-Caryl-Thomas-3.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/h6>\n<h2>Yr Ardd Furiog<\/h2>\n<p>Wedi\u2019i gadael i dyfu\u2019n wyllt am flynyddoedd lawer cyn ymyrraeth yr Ymddiriedolaeth, rydyn ni wrthi\u2019n gwneud popeth posibl i sicrhau fod bywyd gwyllt yn ffynnu yma. Gyda\u2019r muriau cerrig hynafol, strwythurau cerrig palmant a brics\/cerrig yn cynnwys hen bwll trochi (ar gyfer llenwi caniau d\u0175r i ddyfrhau\u2019r llysiau), mae\u2019n bosib fod rhai infertebratau ac amffibiaid dyfrol yn byw yma.<\/p>\n<p>Cofnodwyd brogaod cyffredin, llyffantod cyffredin a rhuddnadroedd yma ddwywaith, yn ogystal \u00e2 sawl nyth fawr morgrug melyn y dd\u00f4l.<\/p>\n<p>Dydyn ni ddim yn si\u0175r eto os yw\u2019r selar adfeiledig, a arferai fod yn gartref i foeler system wresogi\u2019r ty\u0302 gwydr, yn cael ei ddefnyddio gan ystlumod!<\/p>\n<h2>Cynllun Rheolaeth Ecolegol<\/h2>\n<p>Fel rhan o adfer y Parc, gwnaethom asesiad o\u2019r bywyd gwyllt sy\u2019n bodoli yma eisoes \u2013 gan adnabod cyfleoedd i gyfoethogi\u2019r safle ar gyfer bioamrywiaeth. Casglwyd y canfyddiadau at ei gilydd yn ein <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/1581_03h_Management-Plan_LGB_140520-1.pdf\">Cynllun Rheolaeth Ecolegol 2019 (lawrlwytho pdf)<\/a>, a luniwyd gan Laurence Brooks a Rebecca Bohane o Ecology Planning.\u00a0Noda ragnodiadau rheoli manwl ar gyfer cynefinoedd presennol a chreu\/addasu cynefinoedd arfaethedig o fewn y Parc, y Waun a\u2019r Ardd Furiog.<\/p>\n<h6><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2556 size-large\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Nov-21-wildlife-watch-v-web-1024x768.jpg\" alt=\"Mae person sy'n gwisgo siaced las, het ffwr, menig a sach gefn yn sefyll yn yr awyr agored yn yr hydref, yn dal darn o bapur a beiro, wedi'i amgylchynu gan ddail wedi cwympo a choeden \u00e2 dail oren a melyn. \" width=\"1024\" height=\"768\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Nov-21-wildlife-watch-v-web-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Nov-21-wildlife-watch-v-web-300x225.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Nov-21-wildlife-watch-v-web.jpg 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/h6>\n<h2>Cymryd Rhan!<\/h2>\n<p>Rydyn ni\u2019n cynnal\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/category\/wildlife\/monthly-wildlife-watch\/\">teithiau cerdded bywyd gwyllt misol<\/a>\u00a0i fonitro newidiadau yn y Parc \u2013 gan gofnodi pa adar sydd i\u2019w gweld, newidiadau i\u2019r coed, ac ar y ddaear a\u2019r mathau o fflora a ffawna sydd i\u2019w gweld \u2013 o\u2019r blagur cyntaf i ymddangos i\u2019r hyn sy\u2019n nofio ar y pwll. Buasem wrth ein boddau\u2019n croesawu mwy o wirfoddolwyr i helpu gyda hyn \u2013\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/contact\/\">cysylltwch os hoffech gymryd rhan!<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gwarchod a chyfoethogi cyfleoedd i fflora a ffawna allu ffynnu\u2019n ganolog i\u2019n holl waith ym Mharc yr Esgob. Mae ein hadeiladau a\u2019n parcdir yn gartref i gymaint o wahanol rywogaethau \u2013 a thrwy gyfrwng ein gwaith rydyn ni\u2019n monitro\u2019r hyn sydd gyda ni a sut y maen nhw\u2019n gwneud eu cartref ar y safle, gan nodi unrhyw newidiadau yn ystod y tymhorau, a chynnig y cyfleoedd gorau iddyn nhw allu ffynnu. O ddyfrgwn i ystlumod, rhuddnadroedd i lyswennod, elyrch a gleision y dorlan \u2013 mae darganfod pwy sy\u2019n byw yn y Parc yn hudol!<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2554,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":23,"footnotes":""},"categories":[85,79],"tags":[118,62,106,30,103,71,130,146,104,134,133,129],"class_list":{"0":"post-2054","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"category-featured-tabs","7":"category-wildlife","8":"tag-ystumlod","9":"tag-adar","10":"tag-coot","11":"tag-ducks","12":"tag-fungi","13":"tag-nature","14":"tag-otters","15":"tag-pollinators","16":"tag-swan","17":"tag-trees","18":"tag-wildflowers","19":"tag-wildlife","20":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2054","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2054"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2054\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5267,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2054\/revisions\/5267"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2554"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2054"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2054"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2054"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}