{"id":2211,"date":"2021-08-19T16:36:51","date_gmt":"2021-08-19T16:36:51","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=2211"},"modified":"2026-01-05T08:52:26","modified_gmt":"2026-01-05T08:52:26","slug":"gardd-jenkinson","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/explore-the-park\/gardd-jenkinson\/","title":{"rendered":"Gardd Jenkinson"},"content":{"rendered":"<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-1056 size-large\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-1024x552.jpg\" alt=\" Mae map hanesyddol du a gwyn yn dangos yst\u00e2d fawr gydag ardaloedd wedi'u labelu ar gyfer palas, eglwys, gerddi, caeau, llwybrau, a thiroedd cyfagos. Mae llinellau manwl yn dynodi ffyrdd, coed, a nodweddion d\u0175r.\" width=\"1024\" height=\"552\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-1024x552.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-300x162.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-768x414.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-250x135.jpg 250w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-150x81.jpg 150w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson.jpg 1333w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Mynedfa deilwng i Esgob<\/h2>\n<p>Cyn i\u2019r Ymddiriedolaeth gymryd awenau\u2019r safle yn 2018 man digon anystywallt oedd hwn, gyda phorfa garw\u2019n tyfu\u2019n wyllt, a llwyni a chwyn wedi ymledu a chuddio\u2019r cwrt tenis o ddechrau\u2019r 20fed ganrif islaw! Gan mai dyma\u2019r ardal oedd yn croesawu ymwelwyr i\u2019r safle ar gyfer yr Ymddiriedolaeth ac<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/visit\/carmarthenshire-museum\/\"> Amgueddfa Sir Gaerfyrddin<\/a>\u00a0, roedd hi\u2019n amlwg fod angen i ni greu rhywbeth arbennig a fyddai\u2019n creu argraff barhaol. Rhywbeth a fyddai hefyd yn adlewyrchu ein hanes a\u2019n treftadaeth, wrth bwysleisio ein cydflaenoriaethau ar gyfer y dyfodol \u2013 cymuned, cadwraeth a chynaliadwyedd.<\/p>\n<h2>Ysbrydoliaeth o hanes<\/h2>\n<p>Dechreuodd yr Ymddiriedolaeth ar y gwaith yn 2019, ar y cyd \u00e2\u00a0<a href=\"https:\/\/www.tacp.co.uk\/\">TACP, penseiri tirwedd o Gaerdydd<\/a>, er mwyn datblygu cynllun a fyddai\u2019n cyffroi ymwelwyr, gan eu denu o\u2019r fynedfa hanesyddol i\u2019r ganolfan ymwelwyr newydd yn hen adeiladau allanol y Palas. Yna, yn 2021, comisiynwyd\u00a0<a href=\"https:\/\/afan-group.com\/\">Afan Landscape<\/a><u>s<\/u> i ddod \u00e2\u2019r cynlluniau a\u2019r delweddau\u2019n fyw.<\/p>\n<p>Heb unrhyw gofnodion o\u2019r hyn a blannwyd yn wreiddiol gan yr Esgob Jenkinson, mae ein Prif Arddwr, Piers Lunt, wedi troi at amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol (yn cynnwys <em>An Encyclopaedia of Plants<\/em>\u00a0o 1843 gan\u00a0<a href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/John_Claudius_Loudon\">John Claudius Laudon<\/a>) am ysbrydoliaeth er mwyn datblygu cynllun plannu a fyddai\u2019n gyfarwydd i\u2019r Esgob Jenkinson a\u2019i arddwyr.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2677 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-Garden-by-Caryl-Thomas2.jpeg\" alt=\"Gardd wedi'i thirlunio gyda llwybrau graean troellog, meinciau pren, planhigion gwyrdd, blodau, a chefnogaeth planhigion pren, wedi'i hamgylchynu gan goed a gwyrddni toreithiog o dan awyr rhannol gymylog. \" width=\"1280\" height=\"721\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-Garden-by-Caryl-Thomas2.jpeg 1280w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-Garden-by-Caryl-Thomas2-300x169.jpeg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-Garden-by-Caryl-Thomas2-1024x577.jpeg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-Garden-by-Caryl-Thomas2-768x433.jpeg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1280px) 100vw, 1280px\" \/><\/p>\n<h2>Yr ardd heddiw<\/h2>\n<p>Mae gan ardd heddiw nifer o nodweddion amlwg y gall ymwelwyr eu mwynhau, yn cynnwys clawdd ffawydd a osodwyd i gynnig golygfeydd deniadol i mewn i\u2019r ardd ac ymlaen i\u2019r Parc. Yng nghanol yr Ardd mae dau forder perlysiau, sy\u2019n cynnwys cymysgedd o blanhigion ar gyfer coginio a meddyginiaeth, gan gysylltu\u2019r cynllun \u00e2 hanes garddio cegin gynaliadwy yn y Palas, wrth gynnig profiad synhwyraidd i ymwelwyr. Mae bylbiau gwanwyn amrywiol, yn cynnwys saffrwm, wedi eu plannu rhyngddyn nhw hefyd.<\/p>\n<blockquote><p>Mewn cylch o gwmpas yr ardd berlysiau mae pedwar border cymysg, gyda m\u00f4r o flodau lluosflwydd lliwgar a rhosod treftadaeth yn eu canol, sy\u2019n denu\u2019r llygad.<\/p><\/blockquote>\n<p>Dewiswyd y planhigion yma\u2019n ofalus i adlewyrchu, mor agos \u00e2 phosib, y rhai a fyddai ar gael i arddwyr yr Esgob Jenkinson yn ystod y 1830.<\/p>\n<h2>Gardd Jenkinson drwy\u2019r tymhorau<\/h2>\n<p>Yn ystod y Gwanwyn, bydd myrdd o rywogaethau o diwlipau a saffrwm yn gwthio\u2019u pennau drwy\u2019r pridd, gan ddod \u00e2\u2019r Ardd yn fyw tra bod y mwyafrif o blanhigion eraill yn dal yng nghwsg. Erbyn yr haf, bydd lil\u00efau undydd yn ffrwydro\u2019n felyn, gan adlewyrchu lefelau uwch o heulwen wrth i\u2019r dyddiau ymestyn. Ganol haf ac mae\u2019r rhosod yn eu llawn dwf, gydag arogleuon y lliwiau coch tanbaid a\u2019r magenta cyfoethog yn denu. Daw s\u00ear Tsieina, blodau-pigwrn blewog a blodau tisian i ddisgleirio\u2019n danllyd yn yr ardd ddiwedd yr haf yn erbyn cefndir o borfeydd addurnol ac artisiogau gl\u00f4b. Yn ystod y gaeaf, mae\u2019r clawdd ffawydd yn cynnal dail eurfrown, tra bod y pren bocs bythwyrdd yn cynnig therapi gwyrdd cyfoethog drwy\u2019r misoedd mwyaf llwm, oer a gwlyb.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2450 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/achillea-1000-by-500.jpg\" alt=\"Llun agos o glwstwr o flodau melyn bach gyda gwlithod ar eu petalau, wedi'u hamgylchynu gan goesynnau gwyrdd a chefndir gwyrdd aneglur. \" width=\"1000\" height=\"500\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/achillea-1000-by-500.jpg 1000w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/achillea-1000-by-500-300x150.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/achillea-1000-by-500-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/p>\n<p>Ond nid ar lefel y ddaear a\u2019r llygad yn unig y bwriedir i\u2019r dyluniad ennyn diddordeb gydol y flwyddyn.<\/p>\n<p>O edrych i fyny fe welwch ddau bergola\u2019n gyforiog o rosod a barf-yr-hen-\u0175r, gyda physt rhwyllwaith yn arwain allan ohonyn nhw ac arnyn nhw goed afal a gellyg a ddewiswyd ar sail eu haddasrwydd i\u2019n hinsawdd ni, yn cynnwys amrywiaethau treftadaeth Gymreig.<\/p>\n<h2>Bywyd gwyllt a harddwch<\/h2>\n<p>Ond ni fwriadwyd yr ardd erioed i fod yn wledd i\u2019r llygad yn unig. Un o fanteision anhysbys o ddefnyddio mathau hanesyddol o blanhigion yw\u2019r ffaith eu bod fel arfer yn well o lawer ar gyfer bywyd gwyllt na\u2019u cymheiriaid modern, uchelrywiog.<\/p>\n<blockquote><p>A chyda gwenyn yn heidio at y cloddiau derwen y ddaear a phys p\u00ear, glo\u00ffnnod byw yn bwydo ar dderwen fendigaid, ddail crach a blodau-pigwrn blewog, a llu o infertebratau\u2019n cwtsho mewn coesynnau a adawyd i sefyll dros y gaeaf, mae\u2019r bywyd gwyllt sy\u2019n rhannu\u2019r rhan hon o\u2019r ardd yn rhoi gymaint o bleser i ni \u00e2\u2019r planhigion eu hunain.<\/p><\/blockquote>\n<p>Rydyn ni\u2019n cynyddu\u2019r boblogaeth o flodau gwyllt cynhenid yma hefyd, gyda chylch o ddolydd wedi\u2019u creu o\u2019r newydd o gwmpas yr ardd wedi\u2019u plannu \u00e2 bylbiau gwanwyn cynhenid. Dewch n\u00f4l dro ar \u00f4l tro i weld sut maen nhw\u2019n datblygu, a gweld beth \u2013 neu pwy \u2013 fydd i\u2019w gweld yno yn ystod y tymor tyfu.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2471 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson.jpg\" alt=\" Llun agos o wely gardd gyda blodau gwyllt tal, tenau a phlanhigion gwyrdd yn tyfu mewn pridd, gyda llwybr carreg troellog a gwyrddni aneglur yn y cefndir.\" width=\"1280\" height=\"852\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson.jpg 1280w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson-300x200.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson-768x511.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1280px) 100vw, 1280px\" \/><\/p>\n<h2>Eiliad i ymlacio a mwynhau<\/h2>\n<p>Hyderwn y gallwch oedi am eiliad neu dair i ymlacio ar un o\u2019n meinciau derw newydd yng Ngardd Jenkinson. Amsugnwch yr awyrgylch a garddwriaeth hanesyddol; mwynhewch arogleuon a harddwch y planhigion o\u2019ch cwmpas; gwrandewch ar hymian tyner y borderi sy\u2019n fyw gan beillwyr, yn yr ardd hon sydd wedi\u2019i hadfer mor ofalus.<\/p>\n<p>A chyn mentro ymlaen ar daith ddarganfod o gwmpas y\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/y-parc\/\">Parc<\/a>, y\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/woodland\/\">Coetir<\/a>\u00a0a\u2019r\u00a0Waun Fawr, beth am alw yn y ganolfan ymwelwyr am baned a chacen \u2013 neu rywbeth mwy efallai \u2013 a chasglu map o\u2019r Parc i\u2019ch helpu ar eich taith o gwmpas y safle.<\/p>\n<p>Mae digon o bethau i\u2019w gweld a\u2019u gwneud ym Mharc yr Esgob drwy gydol y flwyddyn.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>&nbsp; &nbsp; Mynedfa deilwng i Esgob Cyn i\u2019r Ymddiriedolaeth gymryd awenau\u2019r safle yn 2018 man digon anystywallt oedd hwn, gyda phorfa garw\u2019n tyfu\u2019n wyllt, a llwyni a chwyn wedi ymledu a chuddio\u2019r cwrt tenis o ddechrau\u2019r 20fed ganrif islaw! Gan mai dyma\u2019r ardal oedd yn croesawu ymwelwyr i\u2019r safle ar gyfer yr Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/explore-the-park\/gardd-jenkinson\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Gardd Jenkinson&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":2680,"parent":1403,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":48,"footnotes":""},"categories":[91,95],"tags":[57,26,21,135,125,58,146,136,24],"class_list":{"0":"post-2211","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"category-explore-the-park","7":"category-jenkinson-garden","8":"tag-coeden-afalau","9":"tag-ffawydd","10":"tag-esgob-jenkinson","11":"tag-flowers","12":"tag-garden-history","13":"tag-pear-tree","14":"tag-pollinators","15":"tag-spring-bulbs","16":"tag-spring-flowers","17":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2211","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2211"}],"version-history":[{"count":14,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2211\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5186,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2211\/revisions\/5186"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1403"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2680"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2211"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2211"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2211"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}