{"id":2485,"date":"2021-11-09T16:32:57","date_gmt":"2021-11-09T16:32:57","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=2485"},"modified":"2026-01-04T16:40:12","modified_gmt":"2026-01-04T16:40:12","slug":"walled-garden","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/explore-the-park\/walled-garden\/","title":{"rendered":"Gardd Furiog"},"content":{"rendered":"<p>Dysgwch fwy am ein <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/parc-yr-esgob-walled-garden-project\/\">Prosiect Adferiad yr Ardd Furiog<\/a> newydd a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2025.<\/p>\n<p><strong>Sylwch nad yw&#8217;r Ardd Furiog ar agor i&#8217;r cyhoedd ar hyn o bryd oherwydd y gwaith adfer. Byddwn yn cyhoeddi diwrnodau agored cyhoeddus yn y dyfodol yma.<\/strong><\/p>\n<p>Yr Ardd Furiog hanner erw, sy\u2019n dyddio n\u00f4l i\u2019r 1790au o leiaf, yw cyfrinach fawr Parc yr Esgob.\u00a0A dweud y gwir, mae llawer yn dal i gyfeirio ati fel yr ardd \u2018gyfrinachol\u2019, am ei bod wedi\u2019i chuddio ar ochr orllewinol y Parc. Er ei bod hi ar gau i\u2019r cyhoedd ar hyn o bryd, ein gweledigaeth fawr yw ei hadfer er mwyn iddi allu byw o\u2019r newydd, ac ailddarganfod ei lle canolog iawn ym Mharc yr Esgob.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-3450 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walled-garden.jpg\" alt=\" Mae person sy'n gwisgo crys oren yn cerdded trwy ardd, a welir trwy fwa carreg. Mae'r olygfa'n llachar ac yn heulog, gyda phlanhigion yn tyfu ar hyd y llwybr a wal garreg yn fframio'r olygfa.\" width=\"1280\" height=\"852\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walled-garden.jpg 1280w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walled-garden-300x200.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walled-garden-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walled-garden-768x511.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1280px) 100vw, 1280px\" \/><\/p>\n<p>Unwaith yn galon i\u2019r yst\u00e2d, roedd yr Ardd Furiog un un o dri safle oedd yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau ar gyfer yr aelwyd drwy gydol y tymor, o\u2019r 18<sup>fed<\/sup>\u00a0Ganrif hyd at y 1970au. Yn wreiddiol roedd y bloc stablau wedi\u2019i leoli\u2019n union i\u2019r dwyrain o\u2019r ardd, nes iddo gael ei symud rhwng dechrau a chanol y 1800au i\u2019w leoliad presennol yn agosach at yr heol. Roedd hyn yn hanfodol er mwyn cynhyrchu bwyd ar y pryd, am nad oedd yn rhaid symud y gwrtaith ceffylau bendigedig yn bell iawn i allu trin y pridd a bwydo\u2019r planhigion. Rydyn ni heddiw\u2019n etifeddwyr diolchgar iawn o\u2019r fath reolaeth ofalus dros y cenedlaethau!<\/p>\n<h2>Newidiadau dros amser<\/h2>\n<p>Dros y blynyddoedd gwelwyd llawer o newidiadau o fewn y pedair wal yma, llawer ohonyn nhw wedi gadael eu holion ar y tir. Gwyddom fod orenfa\u2019n arfer bod ar hyd wal y gogledd, wedi\u2019i lleoli mewn man delfrydol i ddal yr haul wrth iddo groesi\u2019r dyffryn; y gwyngalch ysgafn ar y wal yw\u2019r unig dystiolaeth o\u2019i bodolaeth bellach. Mae olion tri ty\u0302 gwydr Fictoraidd arall i\u2019w gweld hefyd, gan ddangos y pibellau gwres yn glir, ac felly\u2019n cynnig ffenest ddeniadol i\u2019r gorffennol, gan roi\u2019r cyfle i ni ddychmygu\u2019r hyn oedd yn arfer cael eu tyfu o\u2019u mewn.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2841 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/1811-estate-map.jpg\" alt=\" Adran o fap hen ffasiwn yn dangos adeiladau, gerddi, llwybrau, eglwys, plotiau tir wedi'u labelu, ac ardal wedi'i marcio \u00e2 choed a rhifau. Mae'r map wedi'i ddarlunio mewn lliwiau pastel gyda labeli wedi'u hysgrifennu \u00e2 llaw.\" width=\"695\" height=\"437\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/1811-estate-map.jpg 695w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/1811-estate-map-300x189.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 695px) 100vw, 695px\" \/><\/p>\n<p>Fel rhan o astudiaeth archeolegol o\u2019r safle yn 2017 edrychodd yr ymgynghorwyr hefyd yn fanwl ar fapiau hanesyddol oedd yn dangos yr ardd, sy\u2019n ein helpu i ddadansoddi\u2019r newidiadau dros amser. <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/history\/walled-kitchen-garden-evaluation\/\">Darllen mwy am yr hyn a ganfuwyd ganddyn<\/a> nhw, neu gwyliwch y ffilm (yn Saesneg) a wnaed yn ystod yr astudiaeth isod.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Tywi Gateway Project - Walled garden excavations - March 2017\" width=\"1080\" height=\"608\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/yuXH30XZdKM?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<h2>Atgofion Gwenonwy<\/h2>\n<p>Ymysg y cofnodion eraill sydd gennym, mae <a href=\"https:\/\/archives.library.wales\/index.php\/recollections-of-gwenonwy-davies-and-her-husband-the-very-reverend-john-thomas-davies\">atgofion<\/a>\u00a0 Gwenonwy Owen (sydd wedi eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru), merch yr Esgob John Owen oedd yn byw yn y palas ganrif yn \u00f4l. Roedd orennau a thegeirianau trofannol yn nodweddion yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae\u2019n si\u0175r fod llawer o\u2019r coed afalau a gellyg yn y berllan yn dyddio o\u2019r cyfnod hwnnw.\u00a0\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cymraeg-gwenonwy-owens-memories\/\">Darllen atgofion Gwenonwy o\u2019r Parc.<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1860 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/apple-blossom-lo-res.jpg\" alt=\"Llun agos o gangen goeden gyda blodau pinc a gwyn a blagur blodau, wedi'i osod yn erbyn cefndir o laswellt gwyrdd a golau'r haul. \" width=\"1280\" height=\"720\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/apple-blossom-lo-res.jpg 1280w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/apple-blossom-lo-res-300x169.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/apple-blossom-lo-res-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/apple-blossom-lo-res-768x432.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/apple-blossom-lo-res-150x84.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 1280px) 100vw, 1280px\" \/><\/p>\n<p>Ers 2018 mae&#8217;r Ymddiriedolaeth wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i glirio sbwriel a phrysg, plannu coed ffrwythau newydd, a cheisio gwneud yr Ardd Furiog yn lle defnyddiol a chynhyrchiol unwaith eto. Yn y tymor byr, byddwn yn parhau i dyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer ein caffi, ac yn defnyddio\u2019r safle ar gyfer ein rhaglen addysgiadol pan allwn ni, gan weithio gyda grwpiau ysgol ac eraill ar deithiau darganfod a thyfu bwyd cynaliadwy.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1669 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/42885356_517909915350297_1596763809898223399_n1.jpg\" alt=\"Gr\u0175p o blant mewn siacedi lliwgar ac oedolyn yn sefyll wrth borth bwa carreg, yn edrych allan tuag at ardd niwlog neu ardal goediog, gyda changen goeden i'w gweld drwy'r agoriad. \" width=\"1080\" height=\"1080\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/42885356_517909915350297_1596763809898223399_n1.jpg 1080w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/42885356_517909915350297_1596763809898223399_n1-300x300.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/42885356_517909915350297_1596763809898223399_n1-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/42885356_517909915350297_1596763809898223399_n1-150x150.jpg 150w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/42885356_517909915350297_1596763809898223399_n1-768x768.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/42885356_517909915350297_1596763809898223399_n1-400x400.jpg 400w\" sizes=\"auto, (max-width: 1080px) 100vw, 1080px\" \/><\/p>\n<p>Ein gobaith hefyd yw bod mewn sefyllfa i agor yr ardd yn fwy cyffredinol i\u2019r cyhoedd rhyw ddiwrnod. Tan hynny, cadwch lygad ar ein calendr digwyddiadau, am ein bod ni weithiau\u2019n agor y drysau i ymwelwyr er mwyn cael cipolwg y tu mewn, i gamu\u2019n \u00f4l mewn amser a chysylltu \u00e2\u2019r gorffennol.<\/p>\n<h2>Gweld y tu fewn i\u2019r Ardd Furiog<\/h2>\n<p>Ar hyn o bryd, mae\u2019r Ardd Furiog ar gau nes i ni gwblhau ein cynlluniau nawdd ar gyfer ei hadfer a\u2019i hagor i ymwelwyr. Am y tro, gallwch ymweld drwy archebu taith o gwmpas y Parc neu pan fydd hi ar agor fel rhan o\u2019n rhaglen ddigwyddiadau. <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/whats-on\/\">Beth sydd ymlaen.\u00a0\u00a0<\/a><\/p>\n<p>Mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio\u2019n gyson yn yr Ardd Furiog felly os ydych chi eisiau profiad o\u2019r safle anhygoel yma drosoch chi eich hun \u2013\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/support-us\/volunteer\/\">gwirfoddolwch gyda ni! <\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2461 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/History-1000-x-500.jpg\" alt=\" Mae menyw a merch ifanc yn cerdded law yn llaw y tu allan ger adeilad carreg gyda drws bwaog, wedi'i amgylchynu gan wyrddni a ffens bren ar ddiwrnod heulog.\" width=\"1000\" height=\"500\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/History-1000-x-500.jpg 1000w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/History-1000-x-500-300x150.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/History-1000-x-500-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/p>\n<p>Dysgwch fwy am ein <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/parc-yr-esgob-walled-garden-project\/\">Prosiect Adferiad yr Ardd Furiog<\/a> newydd a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2025.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dysgwch fwy am ein Prosiect Adferiad yr Ardd Furiog newydd a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2025. Sylwch nad yw&#8217;r Ardd Furiog ar agor i&#8217;r cyhoedd ar hyn o bryd oherwydd y gwaith adfer. Byddwn yn cyhoeddi diwrnodau agored cyhoeddus yn y dyfodol yma. Yr Ardd Furiog hanner erw, sy\u2019n dyddio n\u00f4l i\u2019r 1790au o leiaf, &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/explore-the-park\/walled-garden\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Gardd Furiog&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":2284,"parent":1403,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":157,"footnotes":""},"categories":[91,99],"tags":[57,125,58,127,129],"class_list":{"0":"post-2485","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"category-explore-the-park","7":"category-walled-garden","8":"tag-coeden-afalau","9":"tag-garden-history","10":"tag-pear-tree","11":"tag-walled-garden","12":"tag-wildlife","13":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2485","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2485"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2485\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5175,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2485\/revisions\/5175"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1403"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2284"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2485"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2485"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2485"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}