{"id":2487,"date":"2021-11-09T16:35:21","date_gmt":"2021-11-09T16:35:21","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=2487"},"modified":"2026-01-02T08:49:51","modified_gmt":"2026-01-02T08:49:51","slug":"bishops-pond","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/explore-the-park\/bishops-pond\/","title":{"rendered":"Pwll yr Esgob"},"content":{"rendered":"<p>Sylwch ar y bywyd gwyllt o gwmpas Pwll yr Esgob sy\u2019n cynnwys popeth o bysgod i blanhigion y gwlypdir yn ogystal ag anifeiliaid prin megis dyfrgwn. Mae i\u2019r lle statws ADdGA \u2013 a hanes hynod ddifyr hefyd.<\/p>\n<blockquote><p>Roedd yr Afon Tywi rymus yn arfer llifo dros y fan hon tan 1802 pan orlifodd yr afon a thorri\u2019r glannau, gan droi\u2019r rhan hon o\u2019r afon yn ystumllyn!<\/p><\/blockquote>\n<p>Ystumllyn 5.5 hectar o faint yw Pwll yr Esgob a glustnodwyd yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (ADdGA), a\u2019i hanner ar ein safle ni.\u00a0Caiff ei ystyried fel yr enghraifft gorau o ystumllyn yng ngorllewin Cymru ac mae\u2019n nodedig am felyswellt y gamlas ar y cyrion, gyda\u2019i hesgen chwysigennaidd, cleddlys canghennog a rhywogaethau nodedig iawn yn cynnwys berwr melyn gogleddol, graban teiran, cleddlys bach, cleddlys di-gainc a llafnlys tafod y neidr. Mae lil\u00efau d\u0175r melyn yn gorchuddio\u2019r d\u0175r agored, ac ymysg y rhywogaethau eraill sydd i\u2019w gweld mae\u2019r dinboeth a llysiau\u2019r-milwr coch.<\/p>\n<p>Cyfyngwyd rhywfaint ar y llystyfiant islaw gan ganopi\u2019r coed\/llwyni uwchben oedd wedi ymledu dros y degawdau diwethaf gan greu mwy o gysgod ar hyd ffiniau gogleddol y pwll. Mae hwn bellach yn cael ei dorri yn \u00f4l, gan leihau lefel y cysgod a rhoi hwb i\u2019r bywyd gwyllt yno \u2013 a helpu i gynyddu\u2019r gorchudd o lystyfiant ymylol y cynlluniwyd y safle ar ei gyfer.<\/p>\n<h3>Dyfrgwn<\/h3>\n<p>Mae dyfrgwn i\u2019w gweld ar hyd yr Afon Tywi a\u2019i llednentydd a chofnodwyd gw\u00e2l ar ynys Pwll yr Esgob yn y gorffennol, gyda thystiolaeth ar hyd ffos ffin y de. Yn ystod haf 2019 pan wnaeth ein Hecolegwyr arolwg o\u2019r safle, cofnodwyd olion dyfrgwn yn croesi ffos ffin y de yn y fan lle mae\u2019n ymuno \u00e2 Phwll yr Esgob ger y cwlfer cerrig \u2013 ond doedden nhw ddim i\u2019w gweld yn unman arall ar y safle. Mae\u2019n debygol fod dyfrgwn yn bresennol drwy gydol y flwyddyn ond eu bod ond yn defnyddio ffosydd pan fydd lefel y d\u0175r yn uchel yn ystod y gaeaf.<\/p>\n<h3>Beth arall sy\u2019n byw ym mhwll yr esgob?<\/h3>\n<p>Mae nadroedd y gwair yn debygol o fod yn bresennol ar ymyl y Waun Fawr a Phwll yr Esgob, ac mae gleision y dorlan yn byw yma hefyd \u2013 yn ogystal \u00e2\u2019r alarch dof, yr hwyaden wyllt, y gwtiar, yr i\u00e2r dd\u0175r a\u2019r trochydd. Mae\u2019r Pwll hefyd yn gartref i amrywiaeth o bysgod, ac mae modd gweld p\u00e2r o grehyrod gleision yn pysgota yn y pen deheuol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Sylwch ar y bywyd gwyllt o gwmpas Pwll yr Esgob sy\u2019n cynnwys popeth o bysgod i blanhigion y gwlypdir yn ogystal ag anifeiliaid prin megis dyfrgwn. Mae i\u2019r lle statws ADdGA \u2013 a hanes hynod ddifyr hefyd. Roedd yr Afon Tywi rymus yn arfer llifo dros y fan hon tan 1802 pan orlifodd yr afon &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/explore-the-park\/bishops-pond\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Pwll yr Esgob&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":2490,"parent":1403,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":126,"footnotes":""},"categories":[94,91],"tags":[119,106,30,71,130,101,104,129],"class_list":{"0":"post-2487","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"category-bishops-pond","7":"category-explore-the-park","8":"tag-pwll-yr-esgob","9":"tag-coot","10":"tag-ducks","11":"tag-nature","12":"tag-otters","13":"tag-river-tywi","14":"tag-swan","15":"tag-wildlife","16":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2487","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2487"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2487\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5109,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2487\/revisions\/5109"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1403"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2490"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2487"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2487"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2487"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}