{"id":2969,"date":"2021-12-16T14:19:48","date_gmt":"2021-12-16T14:19:48","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=2969"},"modified":"2026-01-06T09:46:16","modified_gmt":"2026-01-06T09:46:16","slug":"top-10-things-to-do-in-the-park","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/visit\/top-10-things-to-do-in-the-park\/","title":{"rendered":"Y 10 Peth Gorau i\u2019w gwneud yn y Parc"},"content":{"rendered":"<p>Mae cymaint i ddarganfod ym Mharc yr Esgob. Dyma ein rhestr o 10 Peth Gorau i\u2019w gwneud yn ystod eich ymweliad!<\/p>\n<table width=\"626\">\n<tbody>\n<tr>\n<td width=\"626\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/woodland\/\">1. Ystyried y gorffennol yng Ngardd Jenkinson.<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">Roedd unwaith yn lawnt fowlio, yna\u2019n ardd flodau wedi\u2019i chynllunio gan esgob dyngarol, yna\u2019n gwrt tenis, ac am flynyddoedd lawer, yn ddarn truenus o borfa. Mae\u2019r\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/gardd-jenkinson\/\">ardd newydd sbon<\/a>\u00a0hon yn fwrlwm o fywyd gwyllt, pergolau, planhigion persawrus a chyffyrddol, a\u2019i chynllun crwn a\u2019r plannu treftadaeth wedi eu hysbrydoli gan ardd yr Esgob Jenkinson ar yr un safle. Welwch chi\u2019r goeden focs dal ar ymyl yr ardd? Plannwyd hon yn wreiddiol fel topiari addurnol fwy na 200 mlynedd yn \u00f4l!<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2451 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/michealmas-daisy-1000-by-500.jpg\" alt=\" Llun agos o flodyn porffor gyda chanol melyn, wedi'i orchuddio \u00e2 diferion bach o dd\u0175r. Mae'r petalau a'r stamenau'n fanwl ac yn fywiog, gyda chefndir aneglur meddal.\" width=\"1000\" height=\"500\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/michealmas-daisy-1000-by-500.jpg 1000w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/michealmas-daisy-1000-by-500-300x150.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/michealmas-daisy-1000-by-500-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">2.\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/y-parc\/\">Rhyfeddu at Binwydd Chile.<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">P\u2019un ai os ydych yn ei chas\u00e1u neu ei charu, cafodd y goeden hon \u2013\u00a0<u>un <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/the-arboretum\/\">o\u2019r nifer o goed sbesimen aeddfed, ysblennydd yn y Parc<\/a><\/u>\u00a0\u2013 ei phlannu yn 1910 gan yr Esgob Owen er mwyn ychwanegu at ei gasgliad o blanhigion egsotig. Mae ein coed eraill yn go ryfeddol hefyd \u2013 chwiliwch am Gedrwydden Lebanon, cochwydden gollddail Tsieina \u2013 un o\u2019r talaf o\u2019i math yn Sir Gaerfyrddin \u2013 a&#8217;r planwydd Llundain urddasol, aruchel \u00a0sy\u2019n 150 mlwydd oed. Gyda\u2019u boncyffion brith, maen nhw\u2019n werth eu gweld!<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-3083 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Monkey-Puzzle-2.jpg\" alt=\"Ardal laswelltog werdd gyda choed amrywiol, rhai ohonynt yn dechrau blaguro.\" width=\"1280\" height=\"853\" \/><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">3.\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/woodland\/\">Crwydro drwy\u2019r Coetir.<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">Mae manteision clir i fod yng nghanol byd natur ac wedi eich amgylchynu gan goed. Oedwch am ennyd yn yr <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/woodland\/\"><u>Ardd Goetir<\/u>,<\/a> anadlwch a chanolbwyntio ar y golygfeydd a\u2019r synau o\u2019ch cwmpas. Yr amrywiol rywogaethau o goed, yn cynnwys derw a ffawydd, sy\u2019n gartref i gannoedd o bryfed, bwyd ar gyfer y llu o adar sy\u2019n byw ac yn nythu yma. Beth allwch chi weld?<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2523 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-mature-trees-1280-x-600.jpg\" alt=\"Yn edrych i fyny ar goed tal wedi'u gorchuddio \u00e2 mwsogl, eu canghennau'n ymestyn allan tuag at awyr las glir, gyda golau'r haul yn hidlo trwy ddail gwyrdd.\" width=\"1280\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-mature-trees-1280-x-600.jpg 1280w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-mature-trees-1280-x-600-300x141.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-mature-trees-1280-x-600-1024x480.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/slideshow-mature-trees-1280-x-600-768x360.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1280px) 100vw, 1280px\" \/><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/bishops-pond\/\">4. Edrych am elyrch (a gleision y dorlan) ar Lyn yr Esgob.<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">Syllwch allan dros y pwll am ychydig, ac fe welwch sawl math gwahanol o hwyaid ac elyrch dof. Gyda thipyn bach o lwc, efallai y gwelwch chi las y dorlan neu hyd yn oed rai o\u2019r dyfrgwn sy\u2019n byw yma \u2013 ond maen nhw\u2019n swil iawn! Oeddech chi\u2019n gwybod fod yr Afon Tywi rymus yn arfer llifo dros y fan hon tan 1802 pan orlifodd a thorri dros ei glannau? Ffurfiwyd <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/bishops-pond\/\">\u2018ystumllyn<\/a>\u2019 yn y fan hon wedyn \u2013 un o\u2019r enghreifftiau gorau yng ngorllewin Cymru sydd bellach yn cael ei hamddiffyn fel Safle o ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA) oherwydd y fflora a\u2019r ffawna prin. Yn yr haf, mae\u2019r d\u0175r agored yn drwch o lil\u00efau d\u0175r, ac mae modd gweld p\u00e2r o gr\u00ebyr glas yn pysgota ym mhen deheuol y Pwll.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2574 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Mute-Swan-e1640879286322.jpg\" alt=\"Mae alarch gwyn yn gleidio ar draws pwll tawel wedi'i amgylchynu gan goed a changhennau, gydag awyr gymylog yn adlewyrchu yn y d\u0175r.\" width=\"1192\" height=\"458\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Mute-Swan-e1640879286322.jpg 1192w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Mute-Swan-e1640879286322-300x115.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Mute-Swan-e1640879286322-1024x393.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Mute-Swan-e1640879286322-768x295.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1192px) 100vw, 1192px\" \/><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">5.\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/the-ha-ha\/\">Cael gwers am gynllunio gerddi hanesyddol.\u00a0<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">Wrth sefyll yn y Parc ac edrych allan dros y Waun, mae\u2019r olygfa odidog dros ddyffryn Tywi\u2019n ddi-dor. Mae hyn oherwydd dyfais ddylunio glyfar o\u2019r 18fed ganrif, sef yr\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/the-ha-ha\/\">\u2018ha-ha\u2019<\/a> \u2013 sy\u2019n cadw da byw allan ac yn gwneud i\u2019r dyffryn cyfan ymddangos fel rhan o\u2019r ardd. Rhed ha-ha Parc yr Esgob rhwng y prif Barc a\u2019r Waun Fawr \u2013 a dyma un o\u2019r hiraf yn y DU. Daw\u2019r enw o\u2019r ochenaid o ryfeddod a wneir gan bobl o sylweddoli fod y wal a\u2019r ffos fel rhyw fath o ffens anweledig\u2013 ah hah!<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2466 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tywi-Valley-1000-x-500.jpg\" alt=\"Mae dwy fenyw h\u0177n \u00e2 gwallt llwyd yn cerdded trwy dirwedd bugeiliol. Mae blodau melyn wedi'u gwasgaru yn y glaswellt.\" width=\"1000\" height=\"500\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tywi-Valley-1000-x-500.jpg 1000w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tywi-Valley-1000-x-500-300x150.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tywi-Valley-1000-x-500-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">6.\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/woodland\/\">Cydbwyso ar y Boncyff Ffawydd neu ddringo\u2019r rhaffau (neu gwylio eraill yn gwneud hynny!)<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">Y Boncyff Ffawydd enfawr yw canolbwynt ein\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/woodland\/\">Gardd Goetir<\/a> newydd.\u00a0Bu\u2019n rhaid torri\u2019r goeden rai blynyddoedd yn \u00f4l yn sgil haint \u2013 a chyda\u2019r rhaffau dringo ychydig ffordd i lawr y llwybr, dyma fan chwarae naturiol perffaith ar gyfer yr hen a\u2019r ifanc fel ei gilydd. Cymerwch ofal pan fydd hi\u2019n wlyb \u2013 a chadwch lygad allan am ffwng rhyfeddol!\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/resources\/self-guided-trails\/\">Mwy o lwybrau a gweithgareddau teuluol.<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-3082 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Beech-Log-Balance.jpg\" alt=\"Mae bachgen ifanc mewn gwisg las yn cerdded ar hyd boncyff coeden fawr sydd wedi cwympo yn yr awyr agored, wedi'i amgylchynu gan wyrddni a golau'r haul.\" width=\"1280\" height=\"852\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Beech-Log-Balance.jpg 1280w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Beech-Log-Balance-300x200.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Beech-Log-Balance-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Beech-Log-Balance-768x511.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1280px) 100vw, 1280px\" \/><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/waun-fawr\/\">7. Ystyried newid hinsawdd a thirwedd dynamig Dyffryn Tywi. <\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">Dewiswch fainc yn wynebu\u2019r <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/waun-fawr\/\">Waun Fawr,<\/a>\u00a0ac edrychwch allan dros y cynefin gorlifdirol prin hwn. Yn \u00f4l trigolion lleol, er bod llifogydd wedi digwydd yn flynyddol erioed, maen nhw\u2019n digwydd yn fwy aml ac yn fwy difrifol bellach. Yn ystod yr Hydref a\u2019r Gwanwyn mae d\u0175r i\u2019w weld yn cyson lifo dros yr Ha-ha ac i mewn i\u2019r Parc. Serch hynny, mae\u2019r waun yn dal i fod yn gynefin eithriadol ar gyfer sawl rhywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid, sy\u2019n cael eu monitro\u2019n ofalus ar y cyd \u00e2 phartneriaid lleol. Drwy adael defaid a gwartheg i bori yma\u2019n achlysurol, a thrwy dorri gwair unwaith yn unig ganol neu ddiwedd yr haf, gallwn wella bioamrywiaeth y waun dros amser.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2702 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bishops-Park-c-Caryl-Thomas-March-2021-3.jpeg\" alt=\"Mae coeden ddi-ddail yn sefyll yng nghanol cae glaswelltog wedi'i orlifo, gyda d\u0175r yn adlewyrchu'r awyr las lachar a'r cymylau gwyn blewog. Mae bryn coediog yn codi yn y cefndir.\" width=\"1920\" height=\"685\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bishops-Park-c-Caryl-Thomas-March-2021-3.jpeg 1920w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bishops-Park-c-Caryl-Thomas-March-2021-3-300x107.jpeg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bishops-Park-c-Caryl-Thomas-March-2021-3-1024x365.jpeg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bishops-Park-c-Caryl-Thomas-March-2021-3-768x274.jpeg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1920px) 100vw, 1920px\" \/><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/walled-garden\/\">8. Chwilota o gwmpas gardd furiog breifat yr Esgob. <\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">Wedi\u2019i chofnodi gyntaf yn 1792, yr <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/walled-garden\/\">Ardd Furiog<\/a> oedd un o dair gardd oedd yn tyfu blodau, ffrwythau a llysiau ar gyfer aelwyd yr Esgob dros nifer o flynyddoedd. Codwyd y waliau\u2019n glyfar iawn \u00e2 cherrig ar yr ochr allanol a brics ar yr ochr fewnol. Mae brics yn amsugno gwres y dydd, a\u2019i belydru\u2019n raddol yn ystod y nos i greu ardal dyfu di-rew. Yn y gorffennol, byddai\u2019r garddwyr yma\u2019n defnyddio\u2019r dechnoleg ty\u0302 gwydr ddiweddaraf i dyfu planhigion egsotig megis pinafalau a thegeirianau trofannol. Heddiw, mae\u2019r Ardd Furiog yn cael ei hadfywio gan ddefnyddio dulliau amgylcheddol-gyfeillgar o dyfu planhigion ar gyfer dyfodol cynaliadwy.\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/whats-on\/\">Archebwch daith o gwmpas yr Ardd Furiog.<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-3084 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-08-Aug-c-Caryl-Thomas-3.jpg\" alt=\"Mae coeden fawr, grom yn sefyll mewn gardd werdd, ffrwythlon gyda phot brown wedi'i droi drosodd wrth ei waelod. Mae'r cefndir yn cynnwys glaswellt tal, llwyni, ac awyr rhannol gymylog.\" width=\"1280\" height=\"721\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-08-Aug-c-Caryl-Thomas-3.jpg 1280w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-08-Aug-c-Caryl-Thomas-3-300x169.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-08-Aug-c-Caryl-Thomas-3-1024x577.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021-08-Aug-c-Caryl-Thomas-3-768x433.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1280px) 100vw, 1280px\" \/><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">9. Ymlacio yn Y Caffi.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">Dysgwch fwy am hanes y safle yn ein canolfan ymwelwyr; ac ymlaciwch gyda phaned o de, cacen neu gyfarfod \u00e2 theulu a ffrindiau am ginio. Mae&#8217;r caffi yn cael ei rhedeg gan fusnes lleol, Stacey&#8217;s Kitchen ac y mae ar agor rhwng 10yb a 4yp, 7 diwrnod yr wythnos.\u00a0 Mae popeth sy\u2019n cael ei brynu yn y caffi\u2019n ein helpu i gadw\u2019r lle yma ar agor \u2013 cynnal a chadw a gofalu am y Parc er mwyn sicrhau ei fod yn dal ar agor i ymwelwyr a\u2019r gymuned. (Rhag ofn bod eisiau esgus arnoch i fwyta mwy o gacen \u2026!)<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-3217 size-large\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/all_2021_05_04_CCC_Museums_abergwili_2214-1024x682.jpg\" alt=\"Mae merch ifanc yn gwenu wrth eistedd wrth fwrdd picnic pren yn yr awyr agored gyda dau berson arall, wedi'u hamgylchynu gan wyrddni a golau'r haul.\" width=\"1024\" height=\"682\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/all_2021_05_04_CCC_Museums_abergwili_2214-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/all_2021_05_04_CCC_Museums_abergwili_2214-300x200.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/all_2021_05_04_CCC_Museums_abergwili_2214-768x511.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/all_2021_05_04_CCC_Museums_abergwili_2214.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">10.\u00a0\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/support-us\/\">Rhoi Rhywbeth N\u00f4l \u2026<\/a><\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"626\">Fyddai\u2019r Parc prydferth hwn ddim yma heblaw am <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/support-us\/\">gefnogaeth ein hymwelwyr a\u2019n cymuned<\/a>\u00a0a gwaith caled eithriadol ein gwirfoddolwyr. P\u2019un ai os ydych yn <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/support-us\/\">rhannu ein postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, <\/a>yn dod \u00e2\u2019ch ffrindiau a\u2019ch teulu am dro i\u2019r parc, yn casglu sbwriel, yn <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/support-us\/donate\/\">cyfrannu<\/a>, yn gadael cymynrodd, neu\u2019n <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/support-us\/volunteer\/\">gwirfoddoli\u2019n gyson<\/a> gyda ni \u2013 mae rhoi rhywbeth n\u00f4l i\u2019r Parc yn helpu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn adnodd rhyfeddol i bob un ohonom allu ei fwynhau.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter wp-image-2429 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Support-Us-1000-by-540.jpg\" alt=\"Mae dwy ferch ifanc yn yr awyr agored ar ddiwrnod heulog. Mae un ferch yn rholio toes gyda rholbren tra bod y llall yn edrych allan o'i chefn. Mae'r ferch o'i blaen yn gwisgo het flodeuog a chrys gyda cadno arno. Mae oedolion i'w gweld yn y cefndir.\" width=\"1000\" height=\"568\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Support-Us-1000-by-540.jpg 1000w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Support-Us-1000-by-540-300x170.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Support-Us-1000-by-540-768x436.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cymaint i ddarganfod ym Mharc yr Esgob. Dyma ein rhestr o 10 Peth Gorau i\u2019w gwneud yn ystod eich ymweliad! 1. Ystyried y gorffennol yng Ngardd Jenkinson. Roedd unwaith yn lawnt fowlio, yna\u2019n ardd flodau wedi\u2019i chynllunio gan esgob dyngarol, yna\u2019n gwrt tenis, ac am flynyddoedd lawer, yn ddarn truenus o borfa. Mae\u2019r\u00a0ardd newydd &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/visit\/top-10-things-to-do-in-the-park\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Y 10 Peth Gorau i\u2019w gwneud yn y Parc&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":2971,"parent":6,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":163,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-2969","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","no-comments"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2969","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2969"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2969\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5254,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2969\/revisions\/5254"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2971"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2969"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2969"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2969"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}