{"id":3422,"date":"2022-01-24T09:55:47","date_gmt":"2022-01-24T09:55:47","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=3422"},"modified":"2022-02-01T14:27:22","modified_gmt":"2022-02-01T14:27:22","slug":"the-arboretum","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/explore-the-park\/the-arboretum\/","title":{"rendered":"Yr Arboretum"},"content":{"rendered":"<blockquote><p>O gyrraedd y Parc drwy unrhyw un o\u2019r pedair mynedfa, rydych chi\u2019n si\u0175r o sylwi ar ein coed rhyfeddol, llawer ohonyn nhw wedi bod yn tyfu\u2019n dawel yma dros gannoedd o flynyddoedd.<\/p><\/blockquote>\n<p>Ond nid ein coetir hynafol lled-naturiol ddynodedig sy\u2019n gartref i unigolion harddaf y safle. Yn yr Ardd Goed, yn union i\u2019r de a\u2019r dwyrain o\u2019r amgueddfa, mae ein planhigfeydd mwy egsotig, a chan bob un ddigon o le i gyrraedd eu llawn botensial.<\/p>\n<p>Byddai\u2019r Esgob Jenkinson, sydd wedi rhoi ei enw i\u2019n\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/gardd-jenkinson\/\">Gardd Jenkinson<\/a>, wedi etifeddu rhai o\u2019r coed yma gan ei ragflaenwyr, yn enwedig yr Esgob Arglwydd George Murray y credwn ei fod yn gyfrifol am nifer o\u2019r planhigfeydd ledled y safle rhwng 1801 ac 1803. Ymysg rhain mae tair derwen fythwyrdd, un ohonyn nhw\u2019n cysgodi\u2019r fynedfa i\u2019r Ardd Furiog, un arall yn ymestyn yn ddioglyd dros Bwll yr Esgob o\u2019r Ha-ha, gan oglais y d\u0175r pan fydd lefel y d\u0175r yn uchel.<\/p>\n<p>Mae rhai, serch hynny, hyd yn oed yn rhagflaenu Murray; mae\u2019n debygol fod ein dwy goeden bocs, un o\u2019r coed brodorol Prydeinig mwyaf araf ei thyfiant, wedi eu plannu fel topiari yn ystod y 18<sup>fed<\/sup>\u00a0Ganrif \u2013 a dyna ddysgu pawb beth all ddigwydd o fethu \u00e2 thorri eich coed! Mae\u2019n debygol fod Cedrwydden Lebanon hefyd wedi\u2019i phlannu tua diwedd y 18<sup>fed<\/sup>\u00a0Ganrif, ac o bosibl casgliad o goed sydd wedi eu clystyru ynghyd i ffurfio un goron, ac sydd bellach wedi hen ymdoddi i\u2019w gilydd.<\/p>\n<p>Dengys eraill hefyd yn glir pa mor flaengar o safbwynt cyflwyno arloesedd garddwriaethol oedd yr Esgobion.<\/p>\n<blockquote><p>Mae\u2019n bosib fod ein tair planwydden Llundain \u2013 un ohonyn nhw\u2019n sefyll yn falch fel canolbwynt i\u2019r ardd ffurfiol \u2013 ymysg y cyntaf o\u2019r rhywogaeth hybrid hon i gael eu plannu yng Nghymru, dros 150 mlynedd yn \u00f4l.<\/p><\/blockquote>\n<p>I\u2019r gwrthwyneb, dim ond yn sgil y cofnodion ffosil y cafodd cochwydd collddail Tsieina eu hadnabod nes cael eu darganfod yn China yn y 1940au. Mae un o\u2019r rhai sydd yma\u2019n dal record Sir Gaerfyrddin yn sgil ei thaldra o 27m. Mae\u2019n bosib i\u2019n rhai ni gael eu plannu yn ystod y 1960au gan un o\u2019r Esgobion olaf i fyw yn yr Hen Balas.<\/p>\n<p>Ond nid hanes yn unig sy\u2019n cael ei reoli a\u2019i ddathlu yn y Parc. Mae plannu newydd yn digwydd os oes lle i wneud hynny, er mwyn sicrhau olyniaeth i\u2019n coed mwyaf eiconig (megis pinwydd Chile, sydd dan fygythiad yn y gwyllt), ac er mwyn cyflwyno\u2019n ofalus rywogaethau newydd sy\u2019n gweddu\u2019n fwyaf addas i\u2019n cynlluniau adferol ac ecolegol.<\/p>\n<p>Felly, treuliwch ychydig amser er mwyn gweld drwy\u2019r ffenestri anhygoel yma i\u2019r gorffennol ac ymlaen i\u2019r dyfodol, yn heddwch a thangnefedd ein Gardd Goed brydferth.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>O gyrraedd y Parc drwy unrhyw un o\u2019r pedair mynedfa, rydych chi\u2019n si\u0175r o sylwi ar ein coed rhyfeddol, llawer ohonyn nhw wedi bod yn tyfu\u2019n dawel yma dros gannoedd o flynyddoedd. Ond nid ein coetir hynafol lled-naturiol ddynodedig sy\u2019n gartref i unigolion harddaf y safle. Yn yr Ardd Goed, yn union i\u2019r de a\u2019r &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/explore-the-park\/the-arboretum\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Yr Arboretum&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":3424,"parent":1403,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":85,"footnotes":""},"categories":[91],"tags":[],"class_list":{"0":"post-3422","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"category-explore-the-park","7":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3422","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3422"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3422\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1403"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3424"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3422"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3422"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3422"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}