{"id":395,"date":"2015-10-06T09:05:47","date_gmt":"2015-10-06T09:05:47","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=395"},"modified":"2026-01-05T17:02:28","modified_gmt":"2026-01-05T17:02:28","slug":"the-old-bishops-palace","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/history\/the-old-bishops-palace\/","title":{"rendered":"Hen Balas yr Esgob"},"content":{"rendered":"<p style=\"text-align: left;\">Mae\u2019r cysylltiad rhwng Esgobion Tyddewi ac Abergwili\u2019n mynd n\u00f4l dros 700 o flynyddoedd. Dechreuodd ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg pan sefydlodd yr Esgob Thomas Bek goleg eglwysig o 21 o offeiriaid yn Abergwili. Roedd hyn ar adeg pan oedd yr eglwys yn berchen ar dipyn o dir yn yr ardal. Yn wir, ar yr adeg hon, roedd Abergwili\u2019n un o\u2019r pedair tref yn Sir Gaerfyrddin yr oedd Esgobion Tyddewi\u2019n berchen arni. Parhaodd y coleg a sefydlwyd gan Bek yn Abergwili tan ganol yr unfed ganrif ar bymtheg.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Ym 1541, penderfynodd yr Esgob William Barlow, oedd yn teimlo bod Tyddewi\u2019n rhy anghysbell i fyw yno symud y coleg i Aberhonddu er mwyn iddo allu troi Abergwili\u2019n gartref newydd iddo. Parhaodd ei balas yn gartref i Esgobion Tyddewi am y 431 o flynyddoedd nesaf.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Pan ddaeth Richard Davies yn esgob ym 1561, trodd y palas yn <em>gartref i\u2019r Dadeni yng Nghymru<\/em>. Daeth arlunwyr, awduron a beirdd i Abergwili gan gynnwys William Salesbury, sef prif ysgolhaig Cymraeg y <em>Dadeni<\/em>. Wrth aros yn Abergwili ac wrth weithio gyda\u2019r Esgob Davies, lluniodd y cyfieithiadau Cymraeg cyntaf o\u2019r Testament Newydd a\u2019r Llyfr Gweddi Gyffredin. Er gwaethaf hyn, ymhen rhai blynyddoedd ar \u00f4l marwolaeth Davies ym 1581, disgrifiwyd bod y palas yn <em>adfail eithafol<\/em>.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Daeth William Laud yn Esgob ar Dyddewi dan Siarl I ond dim ond dwywaith yr ymwelodd \u00e2\u2019r palas. Er gwaethaf hyn, gadawodd waddol parhaol yn Abergwili, gan fod y capel ar y llawr cyntaf wedi\u2019i godi yn dilyn cais ganddo. Cysegrodd yr Esgob Laud y capel wrth ymweld am yr eildro a\u2019r tro diwethaf ym 1625. Mae\u2019r capel yn dal i fod yna heddiw, ond mae\u2019r hyn a welwn nawr o ganlyniad i ailadeiladu helaeth yn dilyn t\u00e2n a losgodd y palas yn ulw ym 1903.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-420 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishoplaudschapel.jpg\" alt=\"Llun du a gwyn o du mewn capel, yn dangos meinciau pren, canhwyllyr addurnedig, llen addurniadol, canhwyllbren, a nenfydau bwaog gyda phapur wal patrymog. \" width=\"700\" height=\"493\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishoplaudschapel.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishoplaudschapel-300x211.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishoplaudschapel-213x150.jpg 213w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishoplaudschapel-150x106.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><em><strong>Capel yr Esgob Laud cyn y t\u00e2n ym 1903<\/strong><br \/>\n<\/em><em>Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-421 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishopslaudchapeltoday.jpg\" alt=\"Capel bach, heb fawr o oleuni, gyda meinciau pren, paneli pren addurnedig, darllenfa, ac allor wedi'i haddurno \u00e2 chroes a chanhwyllau. Mae golau'n hidlo trwy ffenestr ar y dde. \" width=\"500\" height=\"666\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishopslaudchapeltoday.jpg 500w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishopslaudchapeltoday-225x300.jpg 225w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishopslaudchapeltoday-113x150.jpg 113w\" sizes=\"auto, (max-width: 500px) 100vw, 500px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><strong><em>Capel Laud heddiw<\/em><\/strong><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">O weld y palas mewn cyflwr dirywiedig, cafodd gwaith adnewyddu mawr ei wneud rhwng 1713 ac 1722 dan ddwylo\u2019r Esgob Adam Ottley a gostiodd o leiaf \u00a3370 &#8211; mae hyn yn <em>gyfwerth \u00e2 sawl miliwn o bunnoedd heddiw<\/em>. Ac eto, 35 mlynedd yn ddiweddarach, disgrifiwyd bod y palas mewn cyflwr gwael iawn unwaith eto.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Mae\u2019n rhaid bod gwaith atgyweirio wedi\u2019i wneud gan fod Mary Morgan, teithwraig tuag at ddiwedd y 18<sup>fed<\/sup> ganrif, wedi canmol y t\u0177, y tir a\u2019i leoliad mewn dyffryn gan ddweud bod awduron eraill wedi bod yn rhy llym eu beirniadaeth o adeilad y palas yn y gorffennol.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-424 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacekitchen.jpg\" alt=\"Mae tri phot metel hen ffasiwn a thegell yn eistedd ar hob hen gogydd haearn bwrw du, gyda gwahanol adrannau, deialau, a gril i'w gweld oddi tano. \" width=\"700\" height=\"520\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacekitchen.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacekitchen-300x223.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacekitchen-202x150.jpg 202w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacekitchen-150x111.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><strong><em>Cegin y palas<\/em><\/strong><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Cynhaliodd yr Esgob Arglwydd George Murray addasiadau mawr i\u2019r palas a\u2019r tir ar ddechrau\u2019r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ar yr adeg hon, o ganlyniad i lifogydd difrifol ym 1802, newidiodd Afon Tywi ei chwrs i ffwrdd o Barc yr Esgob. Roedd cwrs newydd yr afon ymhellach i gyfeiriad y de ar draws llawr y dyffryn, gan adael dim ond llyn dolennog oedd yn datgelu lleoliad ei gwrs gwreiddiol. Daeth y llyn hwn yn adnabyddus fel <em>\u2018Pwll yr Esgob\u2019<\/em> ac mae\u2019n parhau heddiw ar hyd pen dwyreiniol y tir fel hafan i fywyd gwyllt a phlanhigion.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Dim ond rhai blynyddoedd ar \u00f4l y gwaith ailadeiladu gan Esgob Murray, pan ddaeth John Jenkinson yn esgob ym 1825, roedd y palas bron yn adfail unwaith eto. Gwariodd yr Esgob Jenkinson ei arian ei hun i ailadeiladu\u2019r adeilad bron yn gyfan gwbl ar <em>Ffurf Elisabethaidd<\/em>. Ar \u00f4l i\u2019r gwaith gael ei gwblhau, disgrifiwyd y palas fel <em>\u2018plasty uchelwrol gydag agwedd Elisabethaidd hardd\u2019, \u2018yn gain ac yn helaeth\u2019.<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-423 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palaceeastlawn1870.jpg\" alt=\" Ffotograff du a gwyn o blasty mawr, deulawr gyda simneiau lluosog, wedi'i amgylchynu gan goed a lawnt laswelltog gyda mainc a strwythur crwn yn y blaendir.\" width=\"700\" height=\"515\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palaceeastlawn1870.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palaceeastlawn1870-300x221.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palaceeastlawn1870-204x150.jpg 204w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palaceeastlawn1870-150x110.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><em><strong>Palas a lawnt y dwyrain ym 1870<\/strong><br \/>\n<\/em><em>Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin<\/em><\/p>\n<p>Ychydig newidiodd y palas yn ystod gweddill y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yna bu trychineb ym 1903. Dinistriodd t\u00e2n simnai\u2019r rhan fwyaf o\u2019r adeilad, gan gynnwys Capel Laud. Atgyweiriwyd y palas rhwng 1904 ac 1907 a bu\u2019r esgob yn byw yn Neuadd Middleton, Llanarthne yn ystod y cyfnod hwnnw.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-425 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacefollowingfire.jpg\" alt=\"Mae gr\u0175p o bobl yn sefyll o flaen adfeilion llosgedig adeilad mawr \u00e2 simneiau lluosog. Mae llwyni a choed i'w gweld yn y blaendir. \" width=\"700\" height=\"483\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacefollowingfire.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacefollowingfire-300x207.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacefollowingfire-217x150.jpg 217w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacefollowingfire-150x104.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><em><strong>Y palas yn dilyn t\u00e2n 1903, o edrych o gyfeiriad y de-ddwyrain, gellir gweld y capel ar ochr chwith bellaf y llun<\/strong><br \/>\n<\/em><em>Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-426 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacediningroom1910.jpg\" alt=\" Llun du a gwyn o ystafell fwyta fawr, gain gyda bwrdd hir wedi'i osod \u00e2 lliain bwrdd gwyn a chadeiriau o'i gwmpas. Mae'r ystafell yn cynnwys lle t\u00e2n, lluniau wedi'u fframio ar y waliau, a ffenestri tal.\" width=\"700\" height=\"496\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacediningroom1910.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacediningroom1910-300x213.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacediningroom1910-212x150.jpg 212w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/palacediningroom1910-150x106.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><em><strong>Ystafell fwyta\u2019r palas yn oddeutu 1910<\/strong><br \/>\n<\/em><em>Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Ym 1972, codwyd Palas newydd yr Esgobion ar ran o\u2019r gerddi i ochr orllewinol yr adeilad presennol. Mae\u2019r palas newydd hwn yn parhau i fod yn gartref i Esgob Tyddewi, gan gynnal cysylltiad hir Abergwili gyda\u2019r swydd.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Cymerodd yr awdurdod lleol gyfrifoldeb dros yr hen balas a gweddill y tir ym 1974 a phedair blynedd yn ddiweddarach, ail-agorwyd y palas fel cartref newydd Amgueddfa ryfeddol Sir Gaerfyrddin.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-422 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/coracle.jpg\" alt=\"Cwch cwrwgl traddodiadol gyda phadl a rhwyf pren wedi'i arddangos yn fertigol mewn arddangosfa amgueddfa, gyda ffotograff o bobl wedi'u gosod y tu mewn i'r cwch. \" width=\"456\" height=\"600\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/coracle.jpg 456w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/coracle-228x300.jpg 228w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/coracle-114x150.jpg 114w\" sizes=\"auto, (max-width: 456px) 100vw, 456px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong><em>Cwrwgl sydd i\u2019w weld yn yr amgueddfa; mae cwryglau wedi\u2019u defnyddio i bysgota Afon Tywi ers canrifoedd<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r cysylltiad rhwng Esgobion Tyddewi ac Abergwili\u2019n mynd n\u00f4l dros 700 o flynyddoedd. Dechreuodd ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg pan sefydlodd yr Esgob Thomas Bek goleg eglwysig o 21 o offeiriaid yn Abergwili. Roedd hyn ar adeg pan oedd yr eglwys yn berchen ar dipyn o dir yn yr ardal. Yn wir, ar &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/history\/the-old-bishops-palace\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Hen Balas yr Esgob&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2662,"parent":2052,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":111,"footnotes":""},"categories":[88],"tags":[138,124],"class_list":{"0":"post-395","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"category-bishops-palace","7":"tag-palas-yr-esgob","8":"tag-history","9":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/395","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=395"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/395\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5223,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/395\/revisions\/5223"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2052"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2662"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=395"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=395"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=395"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}