{"id":397,"date":"2015-10-06T09:06:32","date_gmt":"2015-10-06T09:06:32","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=397"},"modified":"2026-01-04T17:30:56","modified_gmt":"2026-01-04T17:30:56","slug":"history-park-gardens","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/history\/history-park-gardens\/","title":{"rendered":"Hanes y Parc a&#8217;r Gerddi"},"content":{"rendered":"<p style=\"text-align: left;\">Daw\u2019r dystiolaeth ar gyfer yr ardd a\u2019r parc yn Abergwili yn hwyr yn hanes y safle. Yn wir, nid yw\u2019r rhestr o\u2019r eiddo y mae Esgob Tyddewi\u2019n berchen arnynt a ysgrifennwyd ym 1326 yn dweud a fodolai gardd neu barc yn Abergwili hyd yn oed.<\/p>\n<p><!--more--><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Er gwaethaf hyn, cofnodwyd bod gan bump o eiddo eraill yr esgob erddi. Ni chafodd y gerddi yn Abergwili eu crybwyll tan i\u2019r cofnodion dan Esgob Ottley gael eu rhoi at ei gilydd.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Mae dau ddarn o waith celf dienw o\u2019r palas o ganol y ddeunawfed ganrif yn dangos gerddi ffurfiol a <em>pharc difyrion <\/em>wedi\u2019i dirlunio. Ar yr adeg hon, ymddengys mai lawntiau syml a llwybrau a blannwyd gydag ychydig goed a llwyni oedd y tiroedd hyn.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Erbyn 1784, mae braslun yn dangos lawntiau agored blaenorol y <em>parc difyrion<\/em> oedd bellach wedi\u2019u plannu gyda choed a llwyni aeddfed. Mae disgrifiadau pellach gan Mary Morgan ym 1791 yn trafod <em>symlder ac eto harddwch<\/em> cynllun y tir.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Mae map o\u2019r safle o 1796 yn dangos gardd i ogledd y palas sydd wedi\u2019i cholli erbyn hyn; <em>yr ardd lysiau<\/em> i gyfeiriad y gorllewin a\u2019r <em>parc difyrion<\/em> i\u2019r dwyrain. Yn ystod yr un flwyddyn, disgrifiodd Iolo Morganwg, y bardd a\u2019r hynafiaethydd y palas am fod <em>\u2018mewn man prydferth yn Nyffryn moethus Tywi.<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Newidiodd y palas a\u2019r tir cryn dipyn rhwng 1801 ac 1803 dan yr Esgob Arglwydd George Murray. Dywedwyd <em>\u2018dan ei reolaeth, daethpwyd \u00e2\u2019r tir i gyflwr amaethu a harddwch uchel, ond yn syml o ran chwaeth\u2026\u2019<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1053 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray.jpg\" alt=\"Mae map hen ffasiwn yn dangos caeau, yr Hen Afon, plotiau tir wedi'u labelu, llwybrau troellog, eglwys, ac adeiladau wedi'u lliwio'n goch. Mae enwau a rhifau wedi'u hysgrifennu \u00e2 llaw yn nodi perchnogion eiddo a lleoliadau. Mae coed ac ardaloedd cysgodol yn dynodi nodweddion tirwedd. \" width=\"1062\" height=\"605\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray.jpg 1062w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-300x171.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-768x438.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-1024x583.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-250x142.jpg 250w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-150x85.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 1062px) 100vw, 1062px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Mae cynllun o\u2019r safle ar yr adeg hon yn dangos lawnt i ddwyrain y palas gydag un llwybr yn ymgordeddu i gyfeiriad y dwyrain trwy goed wedi\u2019u plannu\u2019n ddwys. Ar yr adeg hon, ym 1802, o ganlyniad i lifogydd difrifol, newidiodd Afon Tywi ei chwrs i ffwrdd o Barc yr Esgob. Symudodd yr afon ymhellach ar draws llawr y dyffryn, gan adael dim ond llyn dolennog oedd yn dangos ei gwrs gwreiddiol. Daeth hwn yn adnabyddus fel <em>Pwll yr Esgob<\/em> ac mae\u2019n parhau i fodoli heddiw ym mhen dwyreiniol y tir, yn hafan i fywyd gwyllt.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-428 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishopspond.jpg\" alt=\"Mae afon dawel yn troi drwy dirwedd laswelltog, wedi'i leinio \u00e2 choed o dan awyr rhannol gymylog, gydag adlewyrchiadau o goed a chymylau i'w gweld ar wyneb y d\u0175r. Mae canghennau'n fframio'r olygfa o'r uchod. \" width=\"700\" height=\"457\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishopspond.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishopspond-300x196.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishopspond-230x150.jpg 230w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/bishopspond-150x98.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><strong><em>Ffotograff o Bwll yr Esgob a dynnwyd yn y 1980au, yn y gwanwyn, mae wedi\u2019i orchuddio gyda lil\u00efau\u2019r d\u0175r melyn gan greu sioe arbennig i ymwelwyr y parc.<\/em><\/strong><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Pan ailadeiladodd yr Esgob John Jenkinson y palas ar ddechrau i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd y tir ei ailfodelu ar ffurf <em>pictiwr\u00e9sg<\/em> hefyd gyda golygfannau trwy\u2019r coed ar draws ac i fyny\u2019r dyffryn. Yn y 1840au, dywedwyd iddo <em>\u2018ychwanegu tipyn at brydferthwch y parc difyrion trwy welliannau call\u2019<\/em><em>.<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1056 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson.jpg\" alt=\" Map hanesyddol du a gwyn yn dangos eiddo mawr gyda mannau wedi'u labelu, gan gynnwys palas, eglwys, gerddi, llwybrau, a chaeau cyfagos. Mae coed a ffyrdd wedi'u braslunio, gyda thir cyfagos wedi'i farcio &quot;William Bayle Esq.&quot;.\" width=\"1333\" height=\"719\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson.jpg 1333w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-300x162.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-768x414.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-1024x552.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-250x135.jpg 250w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-150x81.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 1333px) 100vw, 1333px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Mae map yst\u00e2d o 1843 yn dangos yn union pa mor helaeth fu\u2019r newidiadau hyn. Cafodd adeiladau o gwmpas yr ardd lysiau \u00e2 wal o\u2019i chwmpas eu dymchwel i ymestyn y gerddi, wrth i adeiladau gardd newydd gan gynnwys orendy gael eu codi. Sefydlwyd gardd flodau cylch ffurfiol i ogledd y palas ac mae\u2019r tir bellach wedi\u2019i blannu\u2019n dda gyda choed a llwyni gyda llwybr syml yn mynd o gwmpas yr ymyl. Rhedodd rhodfa breifat ar draws y Dd\u00f4l Fawr ar hyd glannau Pwll yr Esgob.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-429 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/skating.jpg\" alt=\"Mae llun lliw sepia yn dangos dynion mewn dillad o ddechrau'r 20fed ganrif yn sglefrio i\u00e2 yn yr awyr agored; mae un dyn yn eistedd ar y rhew tra bod eraill yn sefyll o'i gwmpas, yn gwenu. Mae coed a mwy o sglefrwyr i'w gweld yn y cefndir. \" width=\"700\" height=\"529\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/skating.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/skating-300x227.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/skating-198x150.jpg 198w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/skating-150x113.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><em><strong>Sglefrio ar y Dd\u00f4l Fawr yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif<\/strong><br \/>\n<\/em><em>Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Cofnodir rhai m\u00e2n newidiadau i\u2019r tir yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar fap Arolwg Ordnans 1889. Roedd yr ardd gylch ffurfiol wedi mynd, wedi\u2019i disodli gan lawnt wrth i dri th\u0177 gwydr newydd gael eu hadeiladu yn yr ardd lysiau gyda wal o\u2019i chwmpas.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-431 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/lodge1890jpg.jpg\" alt=\" Ffotograff lliw sepia o fwthyn bach, hen gyda tho gwellt, wedi'i amgylchynu gan goed mawr a dail trwchus, gan greu awyrgylch heddychlon, gwledig.\" width=\"700\" height=\"491\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/lodge1890jpg.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/lodge1890jpg-300x210.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/lodge1890jpg-214x150.jpg 214w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/lodge1890jpg-150x105.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><strong><em>Porthdy\u2019r Parc yn oddeutu 1890<\/em><\/strong><em><br \/>\nDiolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Yn ystod y 1890au, roedd y tir yn lleoliad ar gyfer sioeau garddwriaethol blynyddol. Ym 1894, bu Mr Keightly, Prif Arddwr y palas, yn un o\u2019r beirniaid. O gwmpas troad yr ugeinfed ganrif, disgrifiodd Gwenonwy Owen, merch yr Esgob Owen fod y tir yn cynnwys <em>\u2018llwyni sy\u2019n blodeuo, castanwydden enfawr ryfeddol&#8230;yng nghanol y lawnt, y gedrwydden enfawr, dwy neu dair coeden yn agos iawn at ei gilydd ar y lawnt, tair coeden yr oedd y plant yn mwynhau eu dringo&#8230;deildy braf iawn wedi\u2019i orchuddio mewn gwyddfid\u2019.<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Ym 1902, ychydig cyn t\u00e2n y palas, Mr Tuberville oedd y Prif Arddwr, a dyfodd ellyg, ffrwythau pwdin a llysiau a enillodd wobrau.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-432 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/restoredpalace.jpg\" alt=\"Llun du a gwyn o blasty mawr, hanesyddol gyda simneiau lluosog, wedi'i amgylchynu gan goed a llwyni. Mae canghennau noeth yn fframio brig y ddelwedd, ac mae topiari wedi'i docio yn y blaendir. \" width=\"700\" height=\"476\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/restoredpalace.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/restoredpalace-300x204.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/restoredpalace-221x150.jpg 221w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/restoredpalace-150x102.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><em><strong>Y palas wedi\u2019i adnewyddu ar \u00f4l t\u00e2n 1903<\/strong><br \/>\n<\/em><em>Diolch i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Mae map Arolwg Ordnans 1906 yn dangos bod conifferau wedi\u2019u plannu yn y palas ac o\u2019i gwmpas ynghyd \u00e2 pherllan. Ysgrifennodd yr hynafiaethydd nodedig, George Eyre Evans o gwmpas adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fod <em>\u2018gogoniant Abergwili fodd bynnag yn y Palas, nid y t\u0177 presennol efallai ond y tir hanesyddol gogoneddus yr oedd wedi\u2019i leoli ynddo\u2019.<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-433 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/aerialshot1950s.jpg\" alt=\"Golygfa o'r awyr o yst\u00e2d fawr gyda phlasty, gerddi, a choed o'i gwmpas, wedi'i ffinio gan gaeau agored ac adeiladau pentref cyfagos. Mae llwybrau a mynwent i'w gweld o fewn y tiroedd. \" width=\"700\" height=\"499\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/aerialshot1950s.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/aerialshot1950s-300x214.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/aerialshot1950s-210x150.jpg 210w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/aerialshot1950s-150x107.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\"><strong><em>Palas yr Esgobion a Gardd \u00e2 Wal o\u2019i Chwmpas yn y 1950au<\/em><\/strong><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Mae Arolwg Ordnans 1970 yn dangos y tir yn ystod ei ddyddiau olaf fel preswylfa breifat gyda dau o\u2019r tai gwydr yn yr ardd \u00e2 wal o\u2019i chwmpas wedi\u2019u dymchwel a\u2019r trydydd un heb wydr. Ym 1972, defnyddiwyd tir i gyfeiriad y gorllewin o\u2019r palas fel safle preswylfa newydd yr esgob ac ym 1974, rhannwyd y safle pan gaffaelodd Cyngor Sir Caerfyrddin hen <em>Balas yr Esgob, Parc a Phwll yr Esgob<\/em>, tra arhosodd yr ardd lysiau \u00e2 wal o\u2019i chwmpas gyda Chorff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru.<\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-434 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/trees1987a.jpg\" alt=\"Ardal laswelltog wedi'i ffinio gan goed tal gyda dail mewn lliwiau'r hydref, gan gynnwys arlliwiau oren a brown, o dan awyr glir. Mae gan un goeden ddail trwchus, pigog, gwyrdd tywyll sy'n sefyll allan ymhlith y lleill. \" width=\"700\" height=\"451\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/trees1987a.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/trees1987a-300x193.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/trees1987a-233x150.jpg 233w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/trees1987a-150x97.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-435 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/trees1987b.jpg\" alt=\" Mae coeden fawr gyda dail brown-goch yn sefyll mewn ardal laswelltog ger t\u0177. Yn y blaendir, mae ffens bren fach, lliw golau yn amgylchynu rhan o'r lawnt. Mae'r awyr yn glir ac yn las.\" width=\"700\" height=\"447\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/trees1987b.jpg 700w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/trees1987b-300x192.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/trees1987b-235x150.jpg 235w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/trees1987b-150x96.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 700px) 100vw, 700px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: justify;\"><strong><em>Y tir yn yr hydref 1987 yn dangos safle\u2019r Swyddfa Dywydd<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Daw\u2019r dystiolaeth ar gyfer yr ardd a\u2019r parc yn Abergwili yn hwyr yn hanes y safle. Yn wir, nid yw\u2019r rhestr o\u2019r eiddo y mae Esgob Tyddewi\u2019n berchen arnynt a ysgrifennwyd ym 1326 yn dweud a fodolai gardd neu barc yn Abergwili hyd yn oed.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2309,"parent":2052,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":21,"footnotes":""},"categories":[90,12],"tags":[119,125,124,127],"class_list":{"0":"post-397","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"category-garden-history","7":"category-history","8":"tag-pwll-yr-esgob","9":"tag-garden-history","10":"tag-history","11":"tag-walled-garden","12":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/397","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=397"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/397\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5185,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/397\/revisions\/5185"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2052"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2309"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=397"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=397"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=397"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}