{"id":416,"date":"2015-10-23T13:01:47","date_gmt":"2015-10-23T13:01:47","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=416"},"modified":"2026-01-19T10:45:22","modified_gmt":"2026-01-19T10:45:22","slug":"the-abergwili-bishops","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/explore-the-park\/the-abergwili-bishops\/","title":{"rendered":"Esgobion Abergwili"},"content":{"rendered":"<h2>42 o Esgobion yn Abergwili<\/h2>\n<p style=\"text-align: left;\">Rhwng i Abergwili ddod yn gartref i Balas yr Esgobion a&#8217;c adeiladu carteref newydd yr Esgob yn yr 1970&#8217;0u cynnar, cafwyd pedwar deg dau o Esgobion ar Dyddewi, ond dros y canrifoedd, nid yw pob un wedi dewis byw yno. Mae straeon rhai o\u2019r esgobion mwyaf enwog, drwg-enwog a diddorol yn cael eu holrhain isod.<\/p>\n<h2 style=\"text-align: left;\">William Barlow, Esgob Tyddewi 1536 &#8211; 1548<\/h2>\n<p style=\"text-align: left;\">Dyma frawd Awstinaidd o Norfolk a gododd i fod yn Esgob ar bedair esgobaeth &#8211; Llanelwy, Tyddewi, Caerfaddon a Wells, a Chichester.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Fel diwygiwr Protestannaidd, roedd ynghlwm \u00e2 <em>Diddymu\u2019r Mynachlogydd<\/em> dan Harri VIII ac roedd yn aelod o\u2019r llys yn ymwneud ag Anne Boleyn. Pan ddaeth y Mari babyddol yn frenhines, ffodd i\u2019r Almaen a Gwlad Pwyl i ddianc achos o erlyniad am ei ffydd cyn dychwelyd adref dan deyrnasiad Elisabeth I.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">O deimlo bod Tyddewi\u2019n rhy anghysbell, symudodd yr Esgob Barlow Balas yr Esgob i Abergwili.<\/p>\n<h2 style=\"text-align: left;\">Robert Ferrar, Esgob Tyddewi 1549 &#8211; 1554<\/h2>\n<p style=\"text-align: left;\">Diwygiwr Protestannaidd arall oedd Ferrar, a benodwyd yn Esgob Tyddewi gan Edward VI. Fodd bynnag, nid oedd yn boblogaidd gyda\u2019r canoniaid yn Nhyddewi ac fe ddygon nhw gyhuddiadau yn ei erbyn. Tra\u2019r oedd yn Llundain i amddiffyn ei hun, daeth y Frenhines Fari babyddol i deyrnasu ac fe\u2019i hanfonwyd i\u2019r carchar. Cafodd ei ddiswyddo\u2019n Esgob ym 1554 ac fe\u2019i llosgwyd wrth y stanc yn Sgw\u00e2r y Farchnad (<em>Sgw\u00e2r Nott erbyn hyn<\/em>) yng Nghaerfyrddin ar 30 Mawrth 1555.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Ym 1970, cyhoeddodd y bardd llawryfog, Ted Hughes, oedd yn perthyn i\u2019r Esgob Ferrar gerdd o\u2019r enw <em>\u2018<a href=\"https:\/\/www.poeticous.com\/ted-hughes\/the-martyrdom-of-bishop-ferrar\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">The Martyrdom of Bishop Ferrar\u2019<\/a><\/em>.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-989 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/foxe289.gif\" alt=\" Portread du a gwyn o ddyn mewn dillad hanesyddol, yn gwisgo cap, gwisg gyda llewys llydan, a choler wen. Mae ganddo fwstas, barf bigfain, a mynegiant difrifol.\" width=\"675\" height=\"801\" \/><\/p>\n<h2 style=\"text-align: left;\">Richard Davies, Esgob Tyddewi 1561 -1581<\/h2>\n<p style=\"text-align: left;\">Fel esgob ac ysgolhaig Protestannaidd, chwiliodd am loches yng Ngenefa yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fari babyddol. Dychwelodd i Brydain ar \u00f4l i Elisabeth gael ei choroni, gan ddod yn Esgob ar Lanelwy yng ngogledd Cymru ym 1560.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Pan ddaeth yn Esgob ar Dyddewi ym 1561, trodd y palas yn <em>gartref i\u2019r Dadeni yng Nghymru<\/em>. Daeth arlunwyr, awduron a beirdd i Abergwili gan gynnwys William Salesbury, sef prif ysgolhaig Cymraeg y <em>Dadeni<\/em>. Wrth aros yn Abergwili ac yn gweithio gyda\u2019r Esgob Davies, lluniodd y cyfieithiadau Cymraeg cyntaf o\u2019r Testament Newydd a\u2019r Llyfr Gweddi Gyffredin.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Yn oddeutu 1572, cymerodd yr Esgob Davies ran mewn diwygio\u2019r <em>\u201cBishop\u2019s Bible\u201d<\/em> 1568, sef y cyfieithiad Saesneg swyddogol o\u2019r Beibl. Gweithiodd ar <em>Lyfr Deuteronomium<\/em>, ac ar <em>Ail<\/em> <em>Lyfr Samuel<\/em>. Daeth y Beibl hwn yn sail i Feibl enwog Brenin Iago I, sy\u2019n parhau i gael ei ystyried fel campwaith yr iaith Saesneg heddiw.<\/p>\n<p>Bu farw ym mis Tachwedd 1581, ac fe\u2019i claddwyd yn eglwys Abergwili.<\/p>\n<h2>William Laud, Esgob Tyddewi 1621 \u2013 1627<\/h2>\n<p>Yn esgob dan Iago I, roedd Laud yn gyfaill agos i ffefryn y brenin, sef George Villiers, Dug Birmingham. Tra\u2019r oedd yn esgob, dim ond dwywaith yr ymwelodd \u00e2\u2019r palas gan gysegru ei ymweliad olaf i\u2019r hyn sy\u2019n parhau i gael ei adnabod yn Gapel Laud.<\/p>\n<p>Gan ei fod yn ymh\u00e9l yn helaeth \u00e2 gwleidyddiaeth llys dan Siarl I, daeth yn Esgob Llundain ac yna\u2019n Archesgob Caergaint. Roedd yn amhoblogaidd, ac yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr ym 1640, cyhuddodd y Senedd ef o frad a chafodd ei garcharu yn Nh\u0175r Llundain. Cafodd ei roi ar brawf ym 1644 a thorrwyd ei ben yn y Gwynfryn yn Llundain ar 19 Ionawr 1645.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-545 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/EPSON002.jpg\" alt=\" Mae dyn mewn gwisg glerigol hanesyddol, yn gwisgo cap academaidd tywyll a gwisg wen \u00e2 llewys swmpus, yn sefyll gydag un fraich yn gorffwys ar silff, yn syllu ymlaen \u00e2 mynegiant tawel mewn arddull portread glasurol.\" width=\"759\" height=\"984\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/EPSON002.jpg 759w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/EPSON002-231x300.jpg 231w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/EPSON002-116x150.jpg 116w\" sizes=\"auto, (max-width: 759px) 100vw, 759px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Roedd Laud yn \u0175r bach, rhywbeth nad oedd yn hoffi bod pobl yn ei grybwyll. Mewn chwarae ar eiriau enwog gan Archibald Armstrong, sef digrifwas llys y Brenin Siarl, a oedd yn tynnu sylw at ei faint a\u2019i amhoblogrwydd, dywedodd:\u00a0<em>\u2018give praise to the Lord, and little Laud to the devil\u2019.<\/em><\/p>\n<h2 style=\"text-align: left;\">Thomas Watson, Esgob Tyddewi 1687 \u2013 1699<\/h2>\n<p style=\"text-align: left;\">Yn fab i forwr o Hull, roedd Watson yn cefnogi Brenin Iago II. Roedd yn gwrthwynebu Chwyldro Gogoneddus 1688 a welodd Iago\u2019n ffoi Prydain a William yn dod yn frenin. Fodd bynnag, nid ei wleidyddiaeth a achosodd helynt iddo. Cafodd ei wahardd dros dro ym 1694 a\u2019i ddiswyddo\u2019n derfynol fel Esgob Tyddewi ym 1699 am werthu cymwynasau a rolau\u2019r eglwys.<\/p>\n<h2 style=\"text-align: left;\">Yr Arglwydd George Murray, Esgob Tyddewi 1801 -1803<\/h2>\n<p style=\"text-align: left;\">Er mai dim ond am gyfnod byr y bu yn ei swydd, dan ei reolaeth ef newidiodd y palas a\u2019r tir cryn dipyn. Ailgynlluniwyd y palas ar ffurf Gothig a dywedwyd <em>\u2018dan ei reolaeth, daethpwyd \u00e2\u2019r tir i gyflwr amaethu a harddwch uchel, ond yn syml o ran chwaeth\u2026\u2019<\/em><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1053 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray.jpg\" alt=\"Mae map hen ffasiwn yn dangos caeau, yr Hen Afon, plotiau tir wedi'u labelu, llwybrau troellog, eglwys, ac adeiladau wedi'u lliwio'n goch. Mae enwau a rhifau wedi'u hysgrifennu \u00e2 llaw yn nodi perchnogion eiddo a lleoliadau. Mae coed ac ardaloedd cysgodol yn dynodi nodweddion tirwedd. \" width=\"1062\" height=\"605\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray.jpg 1062w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-300x171.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-768x438.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-1024x583.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-250x142.jpg 250w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Murray-150x85.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 1062px) 100vw, 1062px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Cyn dod yn esgob, roedd yn enwog am ddatblygu telegraff optegol cyntaf Prydain. Llwyddiant ei gynllun a\u2019i harweiniodd at gael ei gyflwyno i Frenin Si\u00f4r III a\u2019i benodiad yn esgob.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Ym 1795, cynigiodd system i Forlys Prydain a fyddai\u2019n helpu lledu newyddion am unrhyw oresgyniad neu ymosodiad posibl gan y Ffrainc <em>Chwyldroadol<\/em>. Cymerodd y neges gyntaf a anfonwyd rhwng gorsafoedd yn Llundain a Deal ar arfordir Caint chwe deg eiliad yn unig i deithio\u2019r 82 milltir. Datblygwyd dros chwe deg o safleoedd yn y pen draw ond caeodd y Morlys nhw i gyd i lawr ym 1816 yn dilyn diwedd Rhyfel Napoleon.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Bu farw Murray ym 1803 tra\u2019r oedd yn dal i fod yn ei swydd. Daliodd oerfel wrth aros am ei gerbyd y tu allan i D\u0177\u2019r Arglwyddi ac ni wellodd ohono.<\/p>\n<h2 style=\"text-align: left;\">John Jenkinson, Esgob Tyddewi 1825 \u2013 1840<\/h2>\n<p style=\"text-align: left;\">Dim ond rhai blynyddoedd ar \u00f4l y gwaith ailadeiladu gan Esgob Murray, pan ddaeth John Jenkinson yn esgob ym 1825, roedd y palas bron yn adfail unwaith eto. Gwariodd yr Esgob Jenkinson ei arian ei hun i ailadeiladu\u2019r adeilad bron yn gyfan gwbl ar <em>Ffurf Elisabethaidd<\/em>. Ar \u00f4l i\u2019r gwaith gael ei gwblhau, disgrifiwyd y palas fel <em>\u2018plasty uchelwrol gydag agwedd Elisabethaidd hardd\u2019, \u2018yn gain ac yn helaeth\u2019.<\/em><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Wrth i\u2019r gwaith gael ei wneud ar y palas, ail-fodelodd y tir hefyd ar ffurf <em>pictiwr\u00e9sg<\/em> gyda golygfannau trwy\u2019r coed ar draws ac i fyny\u2019r dyffryn. Yn y 1840au, nododd awdur iddo <em>\u2018ychwanegu tipyn at brydferthwch y parc difyrion trwy welliannau call\u2019<\/em>.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1056 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson.jpg\" alt=\" Map hanesyddol du a gwyn yn dangos eiddo mawr gyda mannau wedi'u labelu, gan gynnwys palas, eglwys, gerddi, llwybrau, a chaeau cyfagos. Mae coed a ffyrdd wedi'u braslunio, gyda thir cyfagos wedi'i farcio &quot;William Bayle Esq.&quot;.\" width=\"1333\" height=\"719\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson.jpg 1333w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-300x162.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-768x414.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-1024x552.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-250x135.jpg 250w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Jenkinson-150x81.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 1333px) 100vw, 1333px\" \/><\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Tra\u2019r oedd yn esgob, cynhaliodd Jenkinson ysgol yng Nghaerfyrddin ar gyfer plant teuluoedd tlawd. Bu farw yn Great Malvern ac mae wedi\u2019i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.<\/p>\n<h2 style=\"text-align: left;\">Connop Thirlwall, Esgob Tyddewi 1840 \u2013 1874<\/h2>\n<p style=\"text-align: left;\">Fel un o\u2019r esgobion a wasanaethodd hwyaf yn ogystal \u00e2 bod yn ysgolhaig eglwysig, roedd yn hanesydd enwog a ysgrifennodd ar Hanes Rhufeinig ac yn arbennig Hanes Groegaidd. Ei waith enwocaf oedd yr wyth cyfrol ar <em>History of Greece<\/em> a gyhoeddwyd rhwng 1835 ac 1847.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Er iddo gael ei eni yn Llundain, dysgodd Gymraeg yn gyflym er mwyn iddo allu pregethu i bobl ei esgobaeth yn eu mamiaith. Cafodd ei ddisgrifio gan yr athronydd a\u2019r economegydd enwog, John Stuart Mill, fel y siaradwr gorau iddo ei glywed erioed.<\/p>\n<p style=\"text-align: left;\">Ymddiswyddodd fel esgob ym 1874, gan ymddeol i fyw yng Nghaerfaddon lle bu farw flwyddyn yn ddiweddarach. Mae wedi\u2019i gladdu yng Nghornel y Beirdd yn <a href=\"https:\/\/www.westminster-abbey.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Abaty San Steffan.<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>42 o Esgobion yn Abergwili Rhwng i Abergwili ddod yn gartref i Balas yr Esgobion a&#8217;c adeiladu carteref newydd yr Esgob yn yr 1970&#8217;0u cynnar, cafwyd pedwar deg dau o Esgobion ar Dyddewi, ond dros y canrifoedd, nid yw pob un wedi dewis byw yno. Mae straeon rhai o\u2019r esgobion mwyaf enwog, drwg-enwog a diddorol &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/explore-the-park\/the-abergwili-bishops\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Esgobion Abergwili&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":1403,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":55,"footnotes":""},"categories":[12,89],"tags":[21,92,124],"class_list":{"0":"post-416","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"category-history","6":"category-bishops","7":"tag-esgob-jenkinson","8":"tag-esgobion","9":"tag-history","10":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/416","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=416"}],"version-history":[{"count":16,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/416\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5400,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/416\/revisions\/5400"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1403"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=416"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=416"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=416"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}