{"id":6,"date":"2015-08-13T12:30:44","date_gmt":"2015-08-13T12:30:44","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?page_id=6"},"modified":"2026-01-06T08:56:26","modified_gmt":"2026-01-06T08:56:26","slug":"visit","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/visit\/","title":{"rendered":"Ymweld"},"content":{"rendered":"<h2>Pryd mae\u2019r Parc ar agor?<\/h2>\n<p>Rydyn ni ar agor 365 diwrnod y flwyddyn, o doriad gwawr tan fachlud haul. Mae&#8217;r ganolfan ymwelwyr ar agor rhwng 9yb a 5yp, 7 diwrnod yr wythnos (pan fo&#8217;r caffi ar agor).<\/p>\n<h2>Oes angen talu?<\/h2>\n<p>Nac oes! Mae mynediad a pharcio yn rhad ac am ddim.<\/p>\n<h2>Beth yw\u2019r cyfeiriad?<\/h2>\n<p>Ein cyfeiriad yw: <strong>Parc Yr Esgob, Hen Balas Yr Esgob, Abergwili, Sir Gaerfyrddin SA31 2JG<\/strong><\/p>\n<p>Cliciwch yma am <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/directions\/\">Gyfarwyddiadau ar Google Maps.\u00a0<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Beth sydd i weld a gwneud?<\/h2>\n<p>Mae dros 800 mlynedd o\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/history\/\">hanes<\/a>,\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/horticulture\/\">garddwriaeth<\/a>\u00a0a\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wildlife\/\">bywyd gwyllt<\/a>\u00a0i\u2019w ganfod ym Mharc yr Esgob \u2013 yn cynnwys\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/gardd-jenkinson\/\">gerddi newydd hardd sy\u2019n gyfeillgar i beillwyr<\/a>, <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/woodland-garden\/\">coed aeddfed, coetir yn gyfoethog o fywyd gwyllt<\/a>, ac\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/bishops-pond\/\">ystumllyn mewn ADdGA (Pwll yr Esgob)<\/a>\u00a0a\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/waun-fawr\/\">gorlifdir Waun Fawr<\/a>.<\/p>\n<p>Dyma ein\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/visit\/top-10-things-to-do-in-the-park\/\">10 Uchaf o bethau i\u2019w gwneud<\/a>\u00a0yn y Parc<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/\">Crwydro ardaloedd gwahanol<\/a>\u00a0y Parc.<\/li>\n<li>Gellir lawrlwytho\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/visit\/map-of-the-site\/\">map o\u2019r safle<\/a>\u00a0yma, neu casglwch un o\u2019n canolfan ymwelwyr.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Os oes gennych ychydig oriau, neu hanner diwrnod<\/h2>\n<p>Mae Parc yr Esgob yn lle bendigedig i fynd am dro, i gyfarfod \u00e2 ffrindiau neu i ymlacio a hamddena ar y borfa neu ar ein meinciau newydd. Gall ymwelwyr o bell ac agos dreulio hanner diwrnod yno\u2019n hawdd \u2013 gyda chinio neu de prynhawn yn y caffi. Yn ogystal \u00e2 phaneli dehongli i\u2019w dilyn ledled y Parc, gallwch ddarganfod mwy am hanes, garddwriaeth a bywyd gwyllt y Parc yn ein canolfan ymwelwyr.\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/whats-on\/\">Neu archebwch daith dywys.<\/a><\/p>\n<h2>Os oes gennych ddiwrnod cyfan<\/h2>\n<p>Dewiswch awr neu ddwy heulog yn y Parc i ddilyn y paneli dehongli, neu\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/whats-on\/\">archebwch daith<\/a>\u00a0i weld y tu fewn i\u2019r ardd furiog, cyn cael cinio yn y caffi. Treuliwch y prynhawn yn darganfod <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/visit\/carmarthenshire-museum\/\">hanes difyr Sir Gaerfyrddin yn yr Amgueddfa. <\/a><\/p>\n<h2>Beth sydd yma ar gyfer teuluoedd?<\/h2>\n<p>Mae croeso yma i deuluoedd. Ewch am dro i\u2019r caffi (ar agor rhwng 9yb a 5yp, 7 diwrnod yr wythnos) neu dewch \u00e2 phicnic, <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/\">ymwelwch ag ardaloedd gwahanol y Parc <\/a>a mwynhau\u2019r awyr agored! Mae yna foncyff ffawydd mawr yn <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/woodland\/\">Yr Ardd Goetir<\/a>\u00a0i chi allu cerdded drosto a rhaffau sgramblo i brofi eich sgiliau dringo. Chwiliwch am fywyd gwyllt yn cynnwys elyrch, cwtieir, hwyaid a chrehyrod gleision ym <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/bishops-pond\/\">Mhwll yr Esgob.<\/a>\u00a0Gyda thipyn bach o lwc, efallai y gwelwch chi las y dorlan neu ddwrgi!<\/p>\n<p>Mae digon o le i blant allu mwynhau eu hunain a llu o feinciau hardd newydd i gael hoe i fwynhau byrbryd a gwerthfawrogi golygfeydd o\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/the-tywi-valley\/\">Ddyffryn Tywi<\/a>. Mae toiledau hygyrch ar gael yn y ganolfan ymwelwyr.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/resources\/self-guided-trails\/\">Lawrlwythwch lwybrau a gweithgareddau i\u2019r teulu yma neu casglwch gopi o\u2019n canolfan ymwelwyr. <\/a><\/p>\n<p>Darllennwch fwy am\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/staying-safe-in-the-park\/\">Gadw\u2019n Ddiogel yn y Parc<\/a><\/p>\n<h2>Ydy\u2019r parc yn hygyrch ar gyfer ymwelwyr anabl?<\/h2>\n<p>Mae sicrhau fod y safle mor gynhwysol \u00e2 phosib yn ganolog i\u2019r hyn rydyn ni\u2019n ei wneud. Mae ein prif lwybrau newydd yn llydan, yn wastad ac yn hwylus ar gyfer cadeiriau olwyn gan ein bod yn croesawu ymwelwyr a gwirfoddolwyr anabl yn gyson. Yn sgil cyfyngiadau\u2019r safle, ym mhen mwyaf dwyreiniol y safle, mae\u2019r llwybrau drwy\u2019r coed wedi eu ffurfio o gerrig mwy ac felly\u2019n anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn \u2013 ond gellir mynd am gylchdaith dda o gwmpas y lle ar sgwter neu mewn cadair olwyn. Does dim grisiau ar y bont newydd i\u2019r Waun Fawr, na chwaith yn ein caffi, sydd yn cynnwys toiled hygyrch.<\/p>\n<h2>Oes mynediad i g\u0175n?<\/h2>\n<p>Mae croeso i g\u0175n sy\u2019n ymddwyn yn dda ac <strong>ar dennyn<\/strong>. Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn casglu baw eich ci a\u2019i roi mewn bag a\u2019i waredu yn y biniau sy\u2019n cael eu darparu.<\/p>\n<h2>Beth sy\u2019n digwydd yn y Parc?<\/h2>\n<p>Mae gennym raglen fywiog o ddigwyddiadau, cyrsiau a gweithdai \u2013 o weithdai celf i blant i gyrsiau garddio, ac adfywiad o Sioe Parc yr Esgob.<\/p>\n<p>Edrychwch i weld\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/whats-on\/\">Beth sy\u2019n Digwydd<\/a>\u00a0ar hyn o bryd.<\/p>\n<h2>Beth sydd ar agor ac ar gael i archebu?<\/h2>\n<p>Mae\u2019r Parc ar agor yn ystod oriau dydd, ac mae gyda ni gaffi, canolfan ddysgu, toiledau hygyrch\u00a0 ac wedi\u2019u lleoli yn hen adeiladau allanol yr Esgob \u2013 y llaethdy, pantri, bragdy a\u2019r golchdy.<\/p>\n<p>Rydyn ni hefyd yn cynnal <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/whats-on\/\">teithiau cyson<\/a>\u00a0o gwmpas y safle yn cynnwys yr Ardd Furiog o\u2019r 18fed ganrif, nad yw ar agor fel arfer i ymwelwyr \u2013\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/contact\/\">cysylltwch \u00e2 ni<\/a> i ddarganfod mwy os nad oes unrhyw deithiau wedi\u2019u rhestru.<\/p>\n<h2>Ydy\u2019r ardd furiog ar agor?<\/h2>\n<p>Dim ond ar gyfer teithiau tywys a dyddiau agored arbennig y mae\u2019r Ardd Furiog ar agor. <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/whats-on\/\">Archebwch daith neu ddarganfod mwy am ein digwyddiadau. <\/a><\/p>\n<h2>Alla i ddod \u00e2 gr\u0175p neu ddechrau clwb yn y Parc?<\/h2>\n<p>Rydyn ni\u2019n croesawu grwpiau a gallwn gynnig teithiau tywys a chyflwyniadau preifat, a buasem wrth ein bodd yn gweld gwirfoddolwyr yn sefydlu clybiau rheolaidd. <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/contact\/\">Cysylltwch \u00e2 ni<\/a>\u00a0i ddarganfod mwy.<\/p>\n<h2>Sut alla i gymryd rhan?<\/h2>\n<p>Fel elusen, ni fyddai\u2019n bosib i ni barhau \u00e2\u2019n gwaith o gynnal a chadw\u2019r Parc heb d\u00eem o wirfoddolwyr ymroddedig \u2013 felly mae gwir angen eich help arnom.<\/p>\n<p>Edrychwch yma i weld sut y gallwch chi <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/support-us\/\">Gefnogi ein Gwaith.<\/a><\/p>\n<p>Lle bendigedig i grwydro, ymlacio ac ymgolli mewn hanes a natur.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Parc yr Esgob yn croesawu ymwelwyr 365 diwrnod y flwyddyn, ac rydyn ni ar agor o godiad haul tan fachlud. Mynediad a pharcio am ddim. Parc addas ar gyfer teuluoedd o gwmpas Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, gyda chaffi, canolfan ddysgu a thoiledau (y cyfan yn agor ym mis Ebrill 2022) a theithiau cyson o gwmpas y Parc a\u2019r Ardd Furiog. Arwyddion ffyrdd oddi ar yr A40 ychydig y tu allan i Gaerfyrddin: SA31 2JG.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2414,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":408,"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-6","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","no-comments"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5243,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6\/revisions\/5243"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2414"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}