{"id":1242,"date":"2017-07-17T14:00:10","date_gmt":"2017-07-17T14:00:10","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?p=1242"},"modified":"2026-01-13T08:15:50","modified_gmt":"2026-01-13T08:15:50","slug":"major-national-lottery-boost-for-abergwili-park","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/major-national-lottery-boost-for-abergwili-park\/","title":{"rendered":"Hwb Loteri Anferth i Barc Abergwili"},"content":{"rendered":"<p><\/p>\n<h2>Yn sgil grant \u00a31,274,300 ar gyfer elusen yn Sir Gaerfyrddin gan y Loteri Genedlaethol, mae\u2019r freuddwyd o adfywio Parc yr Esgob yn Abergwili ar fin cael ei gwireddu.<\/h2>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1244 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/noticeboard.jpg\" alt=\"Mae bwrdd arddangos gwybodaeth ar gyfer Parc yr Esgob, Abergwili, yn cynnwys testun croeso yn y Gymraeg a'r Saesneg, map hanesyddol, lluniau o lwybrau'r parc, pwll, coed, a manylion am dreftadaeth ac adferiad y parc. \" width=\"900\" height=\"599\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/noticeboard.jpg 900w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/noticeboard-300x200.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/noticeboard-768x511.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/noticeboard-225x150.jpg 225w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/noticeboard-150x100.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 900px) 100vw, 900px\" \/><\/p>\n<p>Gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a\u2019r Eglwys yng Nghymru, a chyda chefnogaeth o Gronfa Treftadaeth y Loteri, mae Ymddiriedolaeth Drws i\u2019r Dyffryn wedi creu cynlluniau uchelgeisiol i ailintegreiddio, cadw ac adfywio\u2019r gerddi pleser, hanesyddol, yr ardd lysiau \u00e2 wal o\u2019i chwmpas, yn ogystal \u00e2 rhannau o\u2019r Dd\u00f4l Fawr a Phwll yr Esgob, y ddau o ddiddordeb ecolegol mawr. Y canolbwynt fydd Canolfan Drws i\u2019r Dyffryn lle fydd cyfleusterau gweithgareddau a dysgu, yn ogystal \u00e2\u2019r siop goffi holl bwysig. Caiff pedwar aelod o staff eu recriwtio a bydd gan wirfoddolwyr, llawer ohonynt yn lleol, rolau allweddol. Y gobaith yw y bydd ymwelwyr yn gweld y gwaith yn dechrau o ddifri erbyn diwedd 2017.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-1243 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walledgarden.jpg\" alt=\"Golygfa drwy ddrws brics bwaog gyda drws pren agored, yn dangos llwybr yn arwain at ardd lle mae pobl yn gweithio. Mae coed a thwr eglwys i'w gweld yn y cefndir. \" width=\"442\" height=\"591\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walledgarden.jpg 442w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walledgarden-224x300.jpg 224w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walledgarden-112x150.jpg 112w\" sizes=\"auto, (max-width: 442px) 100vw, 442px\" \/><br \/>\n<em>Yr Ardd Furiog<\/em><\/p>\n<p>Mae\u2019r dyfarniad Loteri Genedlaethol hwn yn darparu ychydig dros hanner cyfanswm amcangyfrif costau\u2019r prosiect o tua \u00a32.3 miliwn. Gadawyd yr Ymddiriedolaeth &#8211; ynghyd \u00e2\u2019i rhagflaenydd, cangen leol Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru (WHGT) &#8211; i godi gweddill yr arian. Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyfrannu \u00a3300,000 tuag at gostau cyfalaf a disgwylir newyddion am ddyfarniad grant gan Raglen Ddatblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru. Mae\u2019r gweddill wedi dod o ymddiriedolaethau elusennol a rhoddion unigol.<\/p>\n<p>Ar ran Ymddiriedolwyr y Parc, dywed Michael Norman, \u201cun o gryfderau mawr Parc yr Esgob yw bod cymaint o bobl leol wrth eu bodd \u00e2\u2019r lle; eu parc nhw yw hwn. Gan weithio ochr yn ochor ag Amgueddfa\u2019r Sir a Llwybr Beicio Dyffryn Tywi, bydd Parc yr Esgob felly yn lle a yrrir gan y gymuned ac yn lle sydd wedi ei ailfywiogi, sy\u2019n fwy croesawgar, hygyrch a deniadol ar gyfer hamdden a dysgu. Bydd iechyd a lles hefyd yn uchel ar yr agenda, yn ogystal \u00e2 chyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli a chyflogaeth.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanega Michael, \u201cbydd y parc yn cyplysu ei gyfleusterau ymwelwyr \u00e2 rhai\u2019r amgueddfa er mwyn sicrhau dyfodol y ddau, cysyniad arloesol y credwn sy\u2019n unigryw i Gymru. Ac os hoffai rhagor o bobl fod yn rhan o hyn, hoffem glywed ganddyn nhw!\u201d<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: \u201cMae hon yn gamp gan gr\u0175p o wirfoddolwyr ymroddedig lleol. Mae Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin wedi cydweithio \u00e2\u2019r WHGT ac Ymddiriedolaeth Drws i\u2019r Dyffryn trwy gydol y datblygiad prosiect cyffrous hwn ac maent wir yn edrych ymlaen at y cam nesaf yn y siwrne hon. Ochr yn ochr \u00e2 chynllun y parc, bydd y datblygiad ar gyfer y llwybr beicio arfaethedig a cheisiadau i adfywio\u2019r amgueddfa, gyda\u2019i gilydd, yn darparu atyniad treftadaeth arwyddocaol ac o safon uchel dros y blynyddoedd sydd i ddod.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Ros Kerslake, ar ran y Gronfa: \u201cMae\u2019n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd ein parciau cyhoeddus. Maent yn hanfodol ar gyfer ein lles ac yn angenrheidiol ar gyfer bioamrywiaeth, ac maent yn lleoedd o werth uchel a fwynheir gan bobl o bob math o gefndiroedd. Mae Parc yr Esgob yn un o\u2019r parciau diweddaraf i elwa o dros \u00a3900miliwn o arian y Loteri Genedlaethol, sydd wedi chwarae rhan bwysig iawn dros yr ugain mlynedd diwethaf wrth adfywio dros 800 o barciau ledled y DU.\u201d<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn sgil grant \u00a31,274,300 ar gyfer elusen yn Sir Gaerfyrddin gan y Loteri Genedlaethol, mae\u2019r freuddwyd o adfywio Parc yr Esgob yn Abergwili ar fin cael ei gwireddu. Gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a\u2019r Eglwys yng Nghymru, a chyda chefnogaeth o Gronfa Treftadaeth y Loteri, mae Ymddiriedolaeth Drws i\u2019r Dyffryn wedi creu &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/major-national-lottery-boost-for-abergwili-park\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Hwb Loteri Anferth i Barc Abergwili&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1244,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"iawp_total_views":8,"footnotes":"","_wpscppro_dont_share_socialmedia":null,"_wpscppro_custom_social_share_image":0,"_facebook_share_type":"default","_twitter_share_type":"default","_linkedin_share_type":"default","_pinterest_share_type":"default","_linkedin_share_type_page":"","_instagram_share_type":"default","_medium_share_type":"default","_threads_share_type":"default","_google_business_share_type":"default","_selected_social_profile":[],"_wpsp_enable_custom_social_template":false,"_wpsp_social_scheduling":{"enabled":false,"datetime":null,"platforms":[],"status":"template_only","dateOption":"today","timeOption":"now","customDays":"","customHours":"","customDate":"","customTime":"","schedulingType":"absolute"},"_wpsp_active_default_template":true},"categories":[8,120],"tags":[],"class_list":{"0":"post-1242","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","5":"has-post-thumbnail","7":"category-archived","8":"category-gwasg","9":"h-entry","10":"hentry","11":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1242","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1242"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1242\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5359,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1242\/revisions\/5359"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1244"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1242"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1242"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1242"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}