{"id":1719,"date":"2021-03-18T15:11:30","date_gmt":"2021-03-18T15:11:30","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?p=1719"},"modified":"2026-01-12T08:37:07","modified_gmt":"2026-01-12T08:37:07","slug":"what-to-see-now-march-2021","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/what-to-see-now-march-2021\/","title":{"rendered":"Blog Piers"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft wp-image-1723\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20210308_152952-768x1024.jpg\" alt=\"Mae nifer o foncyffion mawr wedi cwympo yn gorwedd ar y ddaear mewn llannerch wedi'i amgylchynu gan goed noeth. Mae'r haul yn tywynnu trwy awyr gymylog, gan daflu cysgodion hir. Mae person a chi yn sefyll ger y coed yn y cefndir.\" width=\"409\" height=\"545\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20210308_152952-768x1024.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20210308_152952-225x300.jpg 225w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20210308_152952-1152x1536.jpg 1152w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20210308_152952-113x150.jpg 113w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20210308_152952.jpg 1500w\" sizes=\"auto, (max-width: 409px) 100vw, 409px\" \/>\u201cMewn fel llew ac allan fel oen\u201d medden nhw am fis Mawrth; gwir iawn am yr hanner cyntaf a gobeithio felly am yr ail hanner! Cafwyd cyfnodau o dywydd gwyllt dros yr wythnosau diwethaf, ond er gwaetha holl ymdrechion gwyntoedd cryfion, llifogydd a rhew i drechu, mae\u2019r gwanwyn wedi egino ym Mharc yr Esgob, gan gefnu ar aeaf ddigon caled \u2013 am y tro, beth bynnag.<\/p>\n<p>Mae\u2019r blodau gwyllt a ddechreuodd ymddangos ddiwedd Ionawr yn manteisio nawr ar y dyddiau hwy, gan ymestyn eu pennau yn y gobaith o ddarganfod peillwyr cynnar sy\u2019n fodlon herio\u2019r tymheredd isel. Edrychwch am lygaid Ebrill, sy\u2019n agor pan fo\u2019r awyr yn llachar ac yn cau pan ddaw glaw, a\u2019r briallu sy\u2019n poeni dim am dywydd garw, gan wynebu\u2019n siriol \u00a0popeth sydd gan yr hinsawdd ei gynnig. Roedd yr eirlysiau ychydig yn hwyrach eleni na\u2019r llynedd, ac oherwydd eu natur darfodedig, maen\u2019t bron a diflannu bellach. Os brysiwch, gallwch weld yr olaf ohonynt lawr ar ben yr HaHa ac wrth f\u00f4n y bisgwydden hynafol yn y Parc, yn ysgwyd eu pennau bach gwyn ymysg deiliant llwydlas.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-1712\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/snowdrops-400x400-1-300x300.jpg\" alt=\"Mae clwstwr o flodau eirlys gwyn yn tyfu o agen mewn boncyff coeden wedi'i orchuddio \u00e2 mwsogl, gyda chae glaswelltog a choed aneglur yn y cefndir.\" width=\"341\" height=\"341\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/snowdrops-400x400-1-300x300.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/snowdrops-400x400-1-150x150.jpg 150w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/snowdrops-400x400-1.jpg 400w\" sizes=\"auto, (max-width: 341px) 100vw, 341px\" \/>Bydd y rhai mwyaf craff yn ein mysg wedi sylwi ar f\u00e2n newidiadau yn y coed hefyd. Ebrill yw\u2019r mis ble gwelir y tyfiant mwyaf amlwg, gyda blagur yn egino ac agor ym mhobman, ond am nawr, fe welwch nhw\u2019n chwyddo a weithiau\u2019n newid lliw hefyd \u2013 datbygiad sydd wastad yn creu ymdeimlad o gynnwrf a disgwyliad ynof fi. Dyma\u2019r saib cyn i\u2019r tymor newydd flodeuo sy\u2019n bywiogi rhywun drwyddo.<\/p>\n<p>Gwelir newidiadau ymysg bywyd gwyllt hefyd. Heb amheuaeth, mae cariad yn yr awyr ymysg yr adar. Mae rhai, megis y durtur dorchog uwchben drws fy swyddfa yn y Porthdy, eisoes yn deori wyau mewn nythoedd newydd, tra bo eraill yn dal i gasglu deunydd ac adeiladu. Gwelais wenyn cynta\u2019r flwyddyn hefyd, yn manteisio ar wres cynyddol yr Ardd Furiog, gan ychwanegu cennin Pedr i\u2019r basgedi paill gorlawn ar eu coesau tra\u2019n yfed yn ddwfn o\u2019r neithdar.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-1728\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/BJ-Garden-1024x768.jpg\" alt=\"Safle adeiladu gydag adeilad sydd wedi'i adeiladu'n rhannol yn y cefndir, sgaffaldiau, deunyddiau adeiladu, a gweithwyr. Yn y blaendir, mae llwybrau graean a fframiau metel crwm yn amlinellu gwaith tirlunio yn y dyfodol. Mae coed yn leinio'r cefndir.\" width=\"457\" height=\"343\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/BJ-Garden-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/BJ-Garden-300x225.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/BJ-Garden.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 457px) 100vw, 457px\" \/>Os ydych yn treulio amser yn y Parc yn rheolaidd, fe fyddwch wedi sylwi ar y datblygiadau sylweddol dros y mis diwethaf. Mae Afan Landscapes yn \u00f4l ar y safle yn cychwyn ar ddatblygu Gardd Jenkinson, enw sy\u2019n talu gwrogaeth i\u2019r Esgob a\u2019r cynllun ffurfiol a greodd yn yr ardal honno yn yr 1830au. Mae\u2019n ail-ddyluniad ni nid yn unig yn dynwared ei ardd gylchog, ond hefyd yn defnyddio llawer o\u2019r planhigion a fyddai ar gael i\u2019w arddwyr ar y pryd. Cafwyd ysbrydoliaeth yn llyfr John Claudius Loudon o 1843, sef <em>Gwyddionadur Planhigion<\/em>.<\/p>\n<p>Gyda\u2019r llaw, ymddengys fod Loudon wedi bod yn ysbrydoliaeth cyfoes i\u2019r Esgob Jenkinson hefyd, felly rydym yn cau\u2019r cylch mewn mwy nag un ffordd.<\/p>\n<p>Wedi iddynt gwblhau\u2019r gwaith yma, bydd Afan yn symud i ochr ddwyreiniol a deheuol yr amgueddfa, i drawsnewid y llwybr tarmac i arwyneb \u2018hoggin\u2019 newydd, gan gysylltu gyda\u2019r darnau a welwyd y llynedd. Fe wn fod hyn yn rhywbeth mae amryw o bobol wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdano \u2013 dim ond ychydig o wythnosau i fynd nawr! Fel canlyniad, bydd gennym rwydwaith eang o lwybrau integreiddiedig, wedi eu hadfer a\u2019u gwella \u2013 sydd gan mwyaf yn gallu gwrthsefyll llifogydd hefyd. Ond gobeithio ein bod wedi cefnu arnynt am gyfnod!<\/p>\n<p><figure id=\"attachment_1727\" aria-describedby=\"caption-attachment-1727\" style=\"width: 2000px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-1727 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bishops-Park-c-Caryl-Thomas-smaller-March-2021.jpg\" alt=\"Mae sawl coeden fawr yn sefyll ar ardal laswelltog ger pwll tawel, gydag adlewyrchiadau i'w gweld yn y d\u0175r. Mae'r awyr yn glir a glas ar y cyfan, gyda rhai cymylau gwyn, sy'n awgrymu diwrnod heulog, llachar.\" width=\"2000\" height=\"1126\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bishops-Park-c-Caryl-Thomas-smaller-March-2021.jpg 2000w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bishops-Park-c-Caryl-Thomas-smaller-March-2021-300x169.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bishops-Park-c-Caryl-Thomas-smaller-March-2021-1024x577.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Bishops-Park-c-Caryl-Thomas-smaller-March-2021-768x432.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 2000px) 100vw, 2000px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-1727\" class=\"wp-caption-text\">Diolch Caryl Thomas am lluniau hyfryd!<\/figcaption><\/figure><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cMewn fel llew ac allan fel oen\u201d medden nhw am fis Mawrth; gwir iawn am yr hanner cyntaf a gobeithio felly am yr ail hanner! Cafwyd cyfnodau o dywydd gwyllt dros yr wythnosau diwethaf, ond er gwaetha holl ymdrechion gwyntoedd cryfion, llifogydd a rhew i drechu, mae\u2019r gwanwyn wedi egino ym Mharc yr Esgob, gan &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/what-to-see-now-march-2021\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Blog Piers&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":1722,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"iawp_total_views":4,"footnotes":"","_wpscppro_dont_share_socialmedia":null,"_wpscppro_custom_social_share_image":0,"_facebook_share_type":"default","_twitter_share_type":"default","_linkedin_share_type":"default","_pinterest_share_type":"default","_linkedin_share_type_page":"","_instagram_share_type":"default","_medium_share_type":"default","_threads_share_type":"default","_google_business_share_type":"default","_selected_social_profile":[],"_wpsp_enable_custom_social_template":false,"_wpsp_social_scheduling":{"enabled":false,"datetime":null,"platforms":[],"status":"template_only","dateOption":"today","timeOption":"now","customDays":"","customHours":"","customDate":"","customTime":"","schedulingType":"absolute"},"_wpsp_active_default_template":true},"categories":[3],"tags":[62,54,61,71,53,136,129],"class_list":{"0":"post-1719","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","5":"has-post-thumbnail","7":"category-latest-news","8":"tag-adar","9":"tag-celandine","10":"tag-ha-ha","11":"tag-nature","12":"tag-snowdrops","13":"tag-spring-bulbs","14":"tag-wildlife","15":"h-entry","16":"hentry","17":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1719","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1719"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1719\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5336,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1719\/revisions\/5336"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1722"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1719"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1719"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1719"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}