{"id":2549,"date":"2021-11-23T17:52:01","date_gmt":"2021-11-23T17:52:01","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?p=2549"},"modified":"2026-01-11T16:55:09","modified_gmt":"2026-01-11T16:55:09","slug":"nov-2021-our-1st-wildlife-watch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/nov-2021-our-1st-wildlife-watch\/","title":{"rendered":"Tach 2021: Gwylio Bywyd Gwyllt am y tro cyntaf"},"content":{"rendered":"<p><figure id=\"attachment_2570\" aria-describedby=\"caption-attachment-2570\" style=\"width: 1254px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-2570 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20211123_145638.jpg\" alt=\"Mae blodyn melyn bach yn blodeuo ymhlith dail gwyrdd a llafnau o laswellt, gyda rhai dail brown wedi cwympo i'w gweld yn y cefndir. \" width=\"1254\" height=\"1672\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20211123_145638.jpg 1254w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20211123_145638-225x300.jpg 225w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20211123_145638-768x1024.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1254px) 100vw, 1254px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2570\" class=\"wp-caption-text\">Cartheig yn blodeuo\u2019n ddewr ym mis Tachwedd \u2013 ar gyrion yr Ardd Furiog.<\/figcaption><\/figure><\/p>\n<p>Heddiw, fe ddechreuon ni ar ein prosiect Gwylio Bywyd Gwyllt Misol cyntaf \u2013 gan sylwi ar y fflora a\u2019r ffawna a nodi\u2019r newidiadau tymhorol yn y Parc. Roedd yn ddiwrnod llwyd a chymylog \u2013 yn annhebyg i\u2019r diwrnod heulog a gafwyd ddoe \u2013 a chafwyd llwydrew dros nos. Dechreuodd Suzie, un o\u2019n\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/support-us\/volunteer\/\">gwirfoddolwyr gardd<\/a>, a minnau yng <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/gardd-jenkinson\/\">Ngardd Jenkinson<\/a>\u00a0gan nodi\u2019r blodau cyntaf oll i ni eu gweld \u2013 chwerwlys torddail, blodau-pigwrn blewog, teim a fflocs (yn llochesi y tu \u00f4l i\u2019r fainc), un llygad y dydd gwyn yn y borfa ac fe sylwon ni ar dyfiant diweddar y cloddiau bocs. Roedd yr ardal hon \u2013 a blannwyd o\u2019r newydd ym mis Mawrth 2021 \u2013 yn gyforiog o beillwyr dros yr haf, a bydd hi\u2019n hynod gyffrous i weld y lle\u2019n dod yn fyw unwaith eto yn ystod ei ail flwyddyn y gwanwyn nesaf.\u00a0Plymiodd robin bach i lawr y tu \u00f4l i ferfain yr Ariannin i chwilio am fwyd.<\/p>\n<p>O gerdded ar hyd y llwybr i\u2019r prif Barc (byddwn yn dilyn yr un llwybr bob mis) fe sylwon ni ar bridd y wadd o flaen yr ardaloedd bywyd gwyllt mierog, ac aeron ar y cwyros coesgoch \u2013 bwyd naturiol i\u2019r adar y mae galw mawr amdano yn ystod yr adeg hon o\u2019r flwyddyn. Gwelwyd dwy ysguthan yn un o\u2019r coed tal, yn ogystal ag ambell robin arall, a gwiwer neu ddwy! Mae ychydig ddail yn dal i\u2019w gweld ar y blanwydden Llundain fawreddog sy\u2019n dominyddu dechrau llwybr y Parc; mae mwyafrif ei dail yr un mor fawreddog wedi disgyn ar y borfa a bellach yn dechrau ymddatod wedi llwydrew neithiwr.<\/p>\n<figure id=\"attachment_2573\" aria-describedby=\"caption-attachment-2573\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-2573 size-large\" style=\"font-size: 1em;\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/fungi-1024x768.jpg\" alt=\"Mae clwstwr o fadarch mawr, brown gydag ymylon tonnog yn tyfu'n agos at ei gilydd ar laswellt gwyrdd, wedi'i amgylchynu gan ddail rhedyn a phlanhigion bach. Mae nodwyddau pinwydd wedi'u gwasgaru ar ben y madarch. \" width=\"1024\" height=\"768\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/fungi-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/fungi-300x225.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/fungi.jpg 1672w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2573\" class=\"wp-caption-text\">Ffyngau anhysbys yn y Parc!<\/figcaption><\/figure>\n<p>Yn yr\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/woodland-garden\/\">Ardd Goetir<\/a>\u00a0fe welson ni ffyngau cynffon twrci ar y boncyff i\u2019r chwith \u2013 rydyn ni wedi gweld mwy o ffyngau yma yn y gorffennol (er nad ydym ni wedi eu hadnabod nhw i gyd eto!) ond maen nhw\u2019n dechrau mynd ychydig yn hen bellach. Gerllaw, mae\u2019r goeden gelyn sydd wedi\u2019i hail-lunio\u2019n gwneud sioe o\u2019i haeron coch ac fe sylwon ni ar y llysiau\u2019r gwaed yn blodeuo fel rhan o\u2019r gorchudd daear oedd newydd ei blannu; yn ogystal \u00e2 blodau neidr a briwlys y gwrych yn yr ardaloedd gwyllt o gwmpas yr Ardd Coetir.<\/p>\n<figure id=\"attachment_2574\" aria-describedby=\"caption-attachment-2574\" style=\"width: 1024px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-2574 size-large\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Mute-Swan-e1640879286322-1024x393.jpg\" alt=\"Mae alarch gwyn yn gleidio ar draws pwll tawel wedi'i amgylchynu gan goed a changhennau, gydag awyr gymylog yn adlewyrchu yn y d\u0175r.\" width=\"1024\" height=\"393\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Mute-Swan-e1640879286322-1024x393.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Mute-Swan-e1640879286322-300x115.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Mute-Swan-e1640879286322-768x295.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Mute-Swan-e1640879286322.jpg 1192w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2574\" class=\"wp-caption-text\">Alarch Dof ar Bwll yr Esgob<\/figcaption><\/figure>\n<p>Ymhellach ar hyd y llwybr tuag at <a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/bishops-pond\/\">Bwll yr Esgob<\/a>\u00a0lle trodd ein sesiwn gwylio bywyd gwyllt yn fwy myfyriol wrth i ni oedi i wylio\u2019r alarch dof gwyn urddasol yn nofio i fyny ac i lawr, gan fwydo ac ymestyn ei adenydd yn achlysurol ar y llyn. Fe welson ni 4 hwyaden wyllt yma, yn ogystal \u00e2 3 hwyaden chwiwell a\u00a0<a href=\"https:\/\/www.british-birdsongs.uk\/coot\/\">chwtiar \u2013 gyda\u2019i chri unigryw.\u00a0<\/a>Buon ni n sgwrsio ag ymwelydd cyson \u00e2\u2019r Parc a ddywedodd ei fod wedi gweld 3 dyfrgi\u2019n nofio tua\u2019r dwyrain yn y pwll rai blynyddoedd yn \u00f4l. Buasem wrth ein boddau\u2019n cael gwybod os ydyn nhw yma o hyd \u2013 a pha bysgod y maen nhw\u2019n eu dal!<\/p>\n<p>Fe welson ni fwy o wiwerod ar y ffordd yn \u00f4l o\u2019r Pwll wrth i ni ymlwybro ar hyd llwybr gwaelod y waun, ar hyd ochr yr Ha-ha.\u00a0Fe welson ni hefyd ddrysfa o rosebillion yn gymysg \u00e2 llawryf (mae llawer o\u2019r llawryf wedi mynd am ei fod yn llethu\u2019r fflora brodorol \u2013 ac rydyn ni\u2019n ysu i weld beth ddaw i\u2019r golwg yn yr ardaloedd sydd newydd eu clirio yn y Flwyddyn Newydd), ac ar ochr arall yr Amgueddfa, mewn gwelyau ffurfiol, mae yna ffatsia, eurinllys a rhosyn pinc yn dal i flodeuo ychydig. Roedd yna flodyn melyn anhysbys ar lwybr yr Ardd Furiog \u2013 cartheig efallai?<\/p>\n<figure id=\"attachment_2572\" aria-describedby=\"caption-attachment-2572\" style=\"width: 768px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-2572 size-large\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20211123_150403-EFFECTS-768x1024.jpg\" alt=\"Mae clystyrau o fadarch brown bach a dail eiddew gwyrdd yn tyfu ar foncyff coeden wedi'i orchuddio \u00e2 mwsogl, gyda wal frics aneglur yn y cefndir.\" width=\"768\" height=\"1024\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20211123_150403-EFFECTS-768x1024.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20211123_150403-EFFECTS-225x300.jpg 225w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/20211123_150403-EFFECTS.jpg 1254w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-2572\" class=\"wp-caption-text\">Ffyngau, iorwg a mwsogl ar yr hen goed afalau yn yr Ardd Furiog<\/figcaption><\/figure>\n<p>Nawr yn yr\u00a0<a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/explore-the-park\/walled-garden\/\">Ardd Furiog<\/a>\u00a0\u2013 ein cyrchfan olaf \u2013 fe welson ni flodau melyn Mair, y ferfain a thafod yr ych yn dal yn eu blodau, yn ogystal \u00e2 chapanau cornicyll yn llipa wedi\u2019r llwydrew, ond \u00e2\u2019u harogl yn dal yn gryf yn yr aer. Buon ni\u2019n edmygu\u2019r cennau, rhedyn a\u2019r ffyngau\u2019n tyfu ar yr hen goed afalau treftadaeth, yn cael hoe eleni wedi cynhaeaf toreithiog yn 2020. Yn y borfa hirach fe welson ni ambell goesyn melyn yr hwyr \u2013 rhai\u2019n dal i gynnal eu blodau melyn cwpanog perffaith; ac ychydig efwr blodeuog hefyd \u2013 o bosib o ganlyniad i\u2019r modd y torrwyd y borfa\u2019n ddiweddar.<\/p>\n<p>Buasem wrth ein boddau\u2019n gweld mwy o bobl yn ymuno \u00e2 ni ar ein sesiynau gwylio misol ac yn croesawu\u2019r rhai sy\u2019n gallu adnabod adar, pryfed a bywyd gwyllt arall yn fawr iawn! Felly mae croeso i chi gysylltu os hoffech gymryd rhan.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nid oes cynnwys Cymraeg i&#8217;r post hwn ar hyn o bryd.<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":2556,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"iawp_total_views":5,"footnotes":"","_wpscppro_dont_share_socialmedia":null,"_wpscppro_custom_social_share_image":0,"_facebook_share_type":"default","_twitter_share_type":"default","_linkedin_share_type":"default","_pinterest_share_type":"default","_linkedin_share_type_page":"","_instagram_share_type":"default","_medium_share_type":"default","_threads_share_type":"default","_google_business_share_type":"default","_selected_social_profile":[],"_wpsp_enable_custom_social_template":false,"_wpsp_social_scheduling":{"enabled":false,"datetime":null,"platforms":[],"status":"template_only","dateOption":"today","timeOption":"now","customDays":"","customHours":"","customDate":"","customTime":"","schedulingType":"absolute"},"_wpsp_active_default_template":true},"categories":[3,148,79],"tags":[62,106,30,103,71,104,134,133,129,137],"class_list":{"0":"post-2549","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","5":"has-post-thumbnail","7":"category-latest-news","8":"category-monthly-wildlife-watch","9":"category-wildlife","10":"tag-adar","11":"tag-coot","12":"tag-ducks","13":"tag-fungi","14":"tag-nature","15":"tag-swan","16":"tag-trees","17":"tag-wildflowers","18":"tag-wildlife","19":"tag-woodland","20":"h-entry","21":"hentry","22":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2549","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2549"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2549\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5325,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2549\/revisions\/5325"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2556"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2549"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2549"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2549"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}