{"id":3691,"date":"2022-03-15T11:55:37","date_gmt":"2022-03-15T11:55:37","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?p=3691"},"modified":"2026-01-11T09:12:08","modified_gmt":"2026-01-11T09:12:08","slug":"new-spring-plant-fair-at-bishops-park","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/new-spring-plant-fair-at-bishops-park\/","title":{"rendered":"Ffair Blanhigion Newydd yn y Parc!"},"content":{"rendered":"<p>DATGANIAD I&#8217;R WASG 15-03-22<\/p>\n<h4><strong>Mae&#8217;r gwanwyn wedi cyrraedd Parc yr Esgob!\u00a0<\/strong><strong>Atyniad ymwelwyr poblogaidd Sir Gaerfyrddin i gynnal Ffair Blanhigion newydd y Pasg hwn.<\/strong><\/h4>\n<p>Bydd Parc a Gerddi\u2019r Esgobion yn Abergwili yn mynd o nerth i nerth y Pasg hwn gan lansio rhaglen weithgareddau 2022 gyda Ffair Blanhigion y Gwanwyn newydd ddydd Sul 10 Ebrill, o 10 y bore tan 2 y prynhawn. Wedi\u2019i drefnu gan Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn, yr elusen fach sy\u2019n gyfrifol am adfer y Parc ac atgyweirio\u2019r adeiladau allanol adfeiliedig, bydd y digwyddiad yn hyrwyddo\u2019r lleoliad sydd newydd ei adfer ar gyfer ymwelwyr a\u2019i hybu fel man allweddol yng Nghymru i ymweld ag ef, i\u2019w fwynhau ac i ddysgu.<\/p>\n<p>Gan ddathlu rhai o dyfwyr mwyaf blaenllaw Gorllewin Cymru yn cynnwys Farmyard Nurseries, West Wales Willow, Liliwen Herbs a Brynllwyd Nurseries, bydd y Ffair Blanhigion newydd yn helpu i roi Caerfyrddin ar y map twristiaeth a garddwriaethol, gan groesawu garddwyr, casglwyr\u00a0 planhigion ac ymwelwyr o bob rhan o\u2019r ardal.<\/p>\n<p>Bydd yr uchafbwyntiau\u2019n cynnwys sgwrs gan y Prif Arddwr Piers Lunt am Ardd newydd Jenkinson (11 y bore), a fydd yn trafod yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei ddyluniad a sut mae\u2019r plannu\u2019n defnyddio cyltifarau treftadaeth er mwyn sicrhau\u2019r budd mwyaf posibl i fywyd gwyllt. Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu ymuno \u00e2 thaith rad ac am ddim o\u2019r parc gan Piers am 1 y prynhawn, gan gynnwys yr ardd furiog nad yw fel arfer ar agor i\u2019r cyhoedd.<\/p>\n<p>Dywedodd Louise Austin, Rheolwr yr Ymddiriedolaeth, \u201cRydym mor falch o gynnal y digwyddiad cyffrous hwn ar gyfer Caerfyrddin a\u2019r ardal ehangach. Mae wedi bod yn brosiect enfawr i adfer y parc a\u2019r gerddi i\u2019w cyn-ogoniant ac rydym wrth ein bodd o weld ein holl waith caled, a gwaith caled ein gwirfoddolwyr yn dwyn ffrwyth o\u2019r diwedd. Gan ein bod ni mor angerddol yngl\u0177n \u00e2 chynaliadwyedd, mae dathlu tyfwyr lleol, tra\u2019n annog mwy ohonom i arddio a thyfu ein rhai ein hunain er lles a dyfodol y blaned, yn ffordd berffaith o agor gweithgareddau\u2019r flwyddyn.\u201d<\/p>\n<h4><strong>Ffenestr unigryw i Dreftadaeth Sir Gaerfyrddin<\/strong><\/h4>\n<p>Amgylchyna Parc a Gerddi\u2019r Esgobion yn Abergwili Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, sef Palas Esgobion Tyddewi gynt \u2013 a gall ymwelwyr nawr dreulio diwrnod llawn ar y safle wrth i\u2019r ddau atyniad i ymwelwyr gyfuno i arddangos garddwriaeth, bywyd gwyllt a threftadaeth unigryw Sir Gaerfyrddin. Gyda dwy ardd newydd, parcdir wedi\u2019i adfer, meinciau newydd a phaneli dehongli, golygfeydd ar draws Dyffryn Tywi, rhaffau sgramblo a boncyff cydbwyso i blant, yn ogystal a3 chaffi a chanolfan ddysgu sydd ar agor yn hwyrach yn ystod y Gwanwyn, mae llawer i\u2019w weld a\u2019i wneud ar gyfer ymwelwyr o bob oed.<\/p>\n<h4>Helpwch i sicrhau bod Parc yr Esgob ar ei newydd wedd yma i aros &#8230;<\/h4>\n<p>Elusen fach iawn yw Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn ac mae angen mwy o gefnogaeth i sicrhau bod Parc yr Esgobion ar ei newydd wedd yma i aros. Cefnogwch nhw drwy ymweld, gwirfoddoli, cyfrannu, neu ledaenu&#8217;r gair am eu gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae mwy o ddigwyddiadau ar y gweill yn y parcar gyfer yr Haf, gan gynnwys ail-greu Brwydr Abergwili ar 13eg Awst a sioe boblogaidd Parc yr Esgob sy\u2019n dychwelyd ym mis Medi. Er mwyn dysgu mwy ewch i: <a href=\"http:\/\/www.parcyresgob.org.uk\">www.parcyresgob.org.uk<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<table>\n<tbody>\n<tr>\n<td colspan=\"2\" width=\"601\"><strong>Lluniau<\/strong><\/p>\n<p>Er mwyn lawrlwytho\u2019r lluniau yma a mwy ar gyfer y Datganiad hwn i\u2019r Wasg: <a href=\"https:\/\/photos.app.goo.gl\/Dsunas8aDh17uQZi8\">https:\/\/photos.app.goo.gl\/Dsunas8aDh17uQZi8<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Am luniau cyffredinol ar gyfer ymwelwyr: <a href=\"https:\/\/photos.app.goo.gl\/PynhZjTB4un7NKsh6\">https:\/\/photos.app.goo.gl\/PynhZjTB4un7NKsh6<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"324\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2448 size-medium\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Flowers-from-Suzie-1000-by-500-300x150.jpg\" alt=\"Llun agos o flodyn bywiog gyda phetalau oren a melyn wedi'u gorchuddio \u00e2 diferion d\u0175r, wedi'u canoli o amgylch craidd brown tywyll, gweadog. Dail gwyrdd a brown aneglur yw'r cefndir.\" width=\"300\" height=\"150\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Flowers-from-Suzie-1000-by-500-300x150.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Flowers-from-Suzie-1000-by-500-768x384.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Flowers-from-Suzie-1000-by-500.jpg 1000w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Mae Gardd newydd Jenkinson yn y Parc yn llawn o blanhigion ar gyfer bywyd gwyllt a harddwch. \u00a9Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn \/ Aled Llywelyn<\/td>\n<td width=\"277\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-3450 size-medium\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walled-garden-300x200.jpg\" alt=\"Mae person sy'n gwisgo crys oren yn cerdded trwy ardd, a welir trwy fwa carreg. Mae'r olygfa'n llachar ac yn heulog, gyda phlanhigion yn tyfu ar hyd y llwybr a wal garreg yn fframio'r olygfa.\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walled-garden-300x200.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walled-garden-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walled-garden-768x511.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/walled-garden.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Bydd cyn Ardd Furiog yr Esgob ar agora r gyfer Ffair Blanhigion y Gwanwyn.<\/p>\n<p>\u00a9Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn \/ Aled Llywelyn<\/p>\n<p>&nbsp;<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td width=\"324\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2466 size-medium\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tywi-Valley-1000-x-500-300x150.jpg\" alt=\"Dwy fenyw h\u0177n yn cerdded trwy dirwedd laswelltog.\" width=\"300\" height=\"150\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tywi-Valley-1000-x-500-300x150.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tywi-Valley-1000-x-500-768x384.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Tywi-Valley-1000-x-500.jpg 1000w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Mae Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn wedi adfer y parcdir gan agor golygfeydd ar hyd Dyffryn Tywi ar gyfer ymwelwyr.<\/p>\n<p>\u00a9Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn \/ Aled Llywelyn<\/td>\n<td width=\"277\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-2471 size-medium\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson-300x200.jpg\" alt=\"Llun agos o wely gardd gyda blodau gwyllt tal, tenau a phlanhigion gwyrdd yn tyfu mewn pridd, gyda llwybr carreg troellog a gwyrddni aneglur yn y cefndir.\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson-300x200.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson-768x511.jpg 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gard-Jenkinson.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Mae\u2019r ffair yn cynnwys sgyrsiau rhad ac am ddim gan y Prif Arddwr Piers Lunt fydd yn s\u00f4n am yr ysbrydoliaeth ar gyfer Gardd newydd Jenkinson (yn y llun) a sut mae\u2019r plannu\u2019n cynnwys cyltifarau treftadaeth.<\/p>\n<p>\u00a9Ymddiriedolaeth Drws y Dyffryn \/ Aled Llywelyn<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<h4><strong>Nodiadau i olygyddion<\/strong><\/h4>\n<h4><strong>Ynghylch Ymddiriedolaeth Drws i\u2019r Dyffryn<\/strong><\/h4>\n<p>Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 2016 i \u201chybu er budd y cyhoedd ym Mharc Yr Esgob a\u2019i safle celfyddydol yn Abergwili y gadwraeth, amddiffyniad, gwelliannau a dealltwriaeth o\u2019r amgylchedd naturiol ac adeiledig.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r Ymddiriedolaeth yn cyflawni Prosiect Drws i\u2019r Dyffryn Tywi ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, sef prosiect \u2018Parks for People\u2019 gwerth \u00a32.4m, a ariannir gan grant o \u00a31.2m gan y Loteri Genedlaethol.<\/p>\n<p>Elusen fechan yw\u2019r Ymddiriedolaeth gyda\u2019r hyn sy\u2019n cyfateb i dri aelod o staff llawn amser, sy\u2019n dibynnu ar ymroddiad gwirfoddolwyr a chefnogwyr i barhau \u00e2\u2019n gwaith.<\/p>\n<p>I ddarganfod mwy am ein gwaith, ewch at:\u00a0 <a href=\"http:\/\/www.parcyresgob.org.uk\">www.parcyresgob.org.uk<\/a><\/p>\n<p>I roi rhodd misol i\u2019r Ymddiriedolaeth, ewch at:\u00a0<a href=\"https:\/\/localgiving.org\/charity\/the-tywi-gateway-trust\/\">https:\/\/localgiving.org\/charity\/the-tywi-gateway-trust\/<\/a><\/p>\n<p>Neu dilynwch ni ar Facebook \u2013 Trydar \u2013 Instagram \u2013 YouTube @ParcyrEsgob<\/p>\n<h4><strong>Gwybodaeth bellach<\/strong><\/h4>\n<p>Am wybodaeth bellach, lluniau a chyfweliadau, cysylltwch \u00e2 Louise Austin (Rheolydd Ymddiriedolaeth Drws i\u2019r Dyffryn) ar 07399 265237 neu e-bost:\u00a0<a href=\"mailto:louiseaustin@tywigateway.org.uk\">louiseaustin@tywigateway.org.uk<\/a><\/p>\n<h4><strong>Datganiadau i\u2019r Wasg<\/strong><\/h4>\n<p><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/category\/press-news\/gwasg\/\">https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/category\/press-news\/gwasg\/<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>DATGANIAD I&#8217;R WASG 15-03-22 Mae&#8217;r gwanwyn wedi cyrraedd Parc yr Esgob!\u00a0Atyniad ymwelwyr poblogaidd Sir Gaerfyrddin i gynnal Ffair Blanhigion newydd y Pasg hwn. Bydd Parc a Gerddi\u2019r Esgobion yn Abergwili yn mynd o nerth i nerth y Pasg hwn gan lansio rhaglen weithgareddau 2022 gyda Ffair Blanhigion y Gwanwyn newydd ddydd Sul 10 Ebrill, o &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/new-spring-plant-fair-at-bishops-park\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Ffair Blanhigion Newydd yn y Parc!&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":2448,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"iawp_total_views":5,"footnotes":"","_wpscppro_dont_share_socialmedia":null,"_wpscppro_custom_social_share_image":0,"_facebook_share_type":"default","_twitter_share_type":"default","_linkedin_share_type":"default","_pinterest_share_type":"default","_linkedin_share_type_page":"","_instagram_share_type":"default","_medium_share_type":"default","_threads_share_type":"default","_google_business_share_type":"default","_selected_social_profile":[],"_wpsp_enable_custom_social_template":false,"_wpsp_social_scheduling":{"enabled":false,"datetime":null,"platforms":[],"status":"template_only","dateOption":"today","timeOption":"now","customDays":"","customHours":"","customDate":"","customTime":"","schedulingType":"absolute"},"_wpsp_active_default_template":true},"categories":[3,120],"tags":[162],"class_list":{"0":"post-3691","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","5":"has-post-thumbnail","7":"category-latest-news","8":"category-gwasg","9":"tag-press","10":"h-entry","11":"hentry","12":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3691","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3691"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3691\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5320,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3691\/revisions\/5320"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2448"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3691"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3691"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3691"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}