{"id":4961,"date":"2025-07-30T17:00:45","date_gmt":"2025-07-30T17:00:45","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?p=4961"},"modified":"2026-04-14T09:26:53","modified_gmt":"2026-04-14T09:26:53","slug":"a-garden-of-memories-national-lottery-heritage-fund-grant-to-bring-abergwili-walled-garden-and-its-hidden-stories-back-to-life","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/a-garden-of-memories-national-lottery-heritage-fund-grant-to-bring-abergwili-walled-garden-and-its-hidden-stories-back-to-life\/","title":{"rendered":"Gardd o Atgofion: Grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfer Gardd Furiog Abergwili a rhannu ei straeon cudd"},"content":{"rendered":"<p>Mae gardd furiog anghofiedig yn Abergwili, a oedd unwaith wrth galon yst\u00e2d esgob, am flodeuo eto diolch i grant o \u00a31.2 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Ond nid y brics, y tai gwydr na&#8217;r berllan hynafol yn unig sy&#8217;n cael eu hadfywio, ond atgofion y bobl a fu&#8217;n byw, gweithio a thyfu yno.<\/p>\n<p>Mae Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob, sy\u2019n gyfrifol am adferiad Parc yr Esgob ers 2017, yn rhoi&#8217;r straeon personol hyn wrth wraidd prosiect newydd uchelgeisiol 30 mis yn yr Ardd Furiog.\u00a0 Yn ogystal ag ailadeiladu tri th\u0177 gwydr hanesyddol a bwthyn y garddwr, bydd yr adferiad gofalus hwn yn creu cyfleusterau aml-bwrpas ar gyfer dysgu, hyfforddiant, adferiad iechyd, lles a digwyddiadau dathlu. Bydd y prosiect hefyd yn adrodd a bywiogi straeon y rhai a oedd unwaith yn byw ac yn gweithio yno.<\/p>\n<p>Ymhlith y cofnodion mwyaf hudolus mae dyddiaduron personol Gwenonwy Davies (1887\u20131981), merch hynaf yr Esgob John Owen, a fagwyd ym Mhalas yr Esgob: &#8220;Fe wnaethon ni dyfu p\u00een-afal am flynyddoedd,&#8221; ysgrifennodd. &#8221; Hefyd roedd gennym d\u0177 gwinwydd hyfryd, wedi&#8217;i rannu&#8217;n ddau fel bod dilyniant o rawnwin. Roedd gan d\u0177 bychan arall degeirianau a llawer o redyn briger Gwener yn tyfu ynddo.&#8221;<\/p>\n<p>Mae ei disgrifiadau byw yn paentio darlun o geinder a gwaith caled mewn ecosystem fregus a gai ei bweru gan goed t\u00e2n, bechgyn ffwrnais a dwylo cadarn garddwyr medrus.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Ymddiriedolaeth yn defnyddio&#8217;r cofnodion hyn, ynghyd \u00e2 dogfennau&#8217;r cyfrifiad a hanesion llafar mwy diweddar, i adeiladu archif fyw sy&#8217;n anrhydeddu&#8217;r rhai a weithiodd y tu \u00f4l i&#8217;r llenni. Un ohonynt yw stori Arthur Sinclair Wolstoncroft, 16 oed, a deithiodd o Swydd Gaerhirfryn i Abergwili ar gyfer rhagolygon gyrfa ar gynnig fel aelod o staff yr Esgob. ac a restrir yng nghyfrifiad 1911 ymhlith y gweision fel &#8216;Page&#8217;.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Rheolwr y Prosiect, Louise Austin: &#8220;Straeon fel un Arthur sy&#8217;n cydio yn nychymyg pobl mewn gwirionedd. Maen nhw&#8217;n ein hatgoffa nad adeiladau mawreddog a digwyddiadau mawr yn unig yw treftadaeth &#8211; mae&#8217;n ymwneud \u00e2 phobl a&#8217;u bywydau bob dydd.&#8221;<\/p>\n<p>&#8220;Nid adferiad yn unig yw hwn &#8211; mae&#8217;n sgwrs ar draws cenedlaethau,&#8221; meddai Louise. &#8220;Mae&#8217;n ymwneud \u00e2 dysgu o&#8217;r gorffennol tra\u2019n creu rhywbeth ystyrlon ar gyfer y presennol. Rydyn ni eisiau i ymwelwyr a gwirfoddolwyr oll deimlo cysylltiad personol \u00e2&#8217;r lle hwn, ac i dynnu ysbrydoliaeth a phrofiadau ohono a all eu helpu yn eu bywydau bob dydd.&#8221;<\/p>\n<p>Mae&#8217;n gwirfoddolwr Richard yn un o&#8217;r bobl sydd wedi elwa o Barc yr Esgob. \u201cDdes i yma llynedd gyda gr\u0175p o&#8217;r Wallich i weld a oedden ni eisiau cymryd rhan. Penderfynodd y gr\u0175p ddod unwaith yr wythnos am raglen 10 wythnos i ddysgu am arddio a gofalu am y parc. Nawr rwy&#8217;n dod fel gwirfoddolwr annibynnol \u2013 3 diwrnod yr wythnos! Mae cael rhywbeth i&#8217;w wneud bob dydd wedi rhoi pwrpas i mi \u2013 ac mae&#8217;n fy ngalluogi i fentro allan. Mae wedi helpu&#8217;n fawr gyda fy iechyd meddwl. Rwy&#8217;n mwynhau bod ym Mharc yr Esgob a rwy&#8217;n gweithio&#8217;n galed i sicrhau ei fod yn edrych ar ei orau ar gyfer ymwelwyr.\u201d<\/p>\n<p>Wedi\u2019r arferiad, bydd yr ardd yn cynnal dathliadau cymunedol, gweithgareddau addysgol a pherfformiadau cyhoeddus, wedi&#8217;u dylanwadu gan atgofion byw y rhai a gerddodd ei llwybrau gynt.<\/p>\n<p>Bydd rhaglen hyfforddi garddwriaethol newydd yn parhau\u2019r traddodiad adrodd straeon. Bydd garddwyr ifanc sy&#8217;n rhan o&#8217;r prosiect yn rhannu eu profiadau, gan ychwanegu lleisiau newydd at etifeddiaeth esblygol yr ardd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n amser prysur i&#8217;r t\u00eem prosiect, a drefnodd lansiad ar gyfer rhanddeiliaid allweddol, gwirfoddolwyr y prosiect a newyddiadurwyr ar Orffennaf 30ain. Mae archaeolegwyr gwirfoddol wrthi\u2019n gweithio gyda th\u00eem o Heneb &#8211; Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru &#8211; yn ymchwilio i weddillion y systemau gwresogi yn adfeilion y tai gwydr, lle tyfai p\u00een-afalau a thegeiriannau gynt. Gallwch ymweld \u00e2&#8217;r cloddiad gorffenedig ar ddydd Sadwrn, Awst 16<sup>eg<\/sup> rhwng 2yp a 4yp.<\/p>\n<p>Mae prosiect yr Ardd Furiog hefyd yn derbyn arian cyfatebol o \u00a3300,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, \u00a3150,000 gan Sefydliad Garfield Weston, \u00a3100,000 gan ddyngarwr treftadaeth yng Nghymru a \u00a320,000 gan Ymddiriedolaeth Pilgrim, yn ogystal \u00e2 chyllid cyfatebol gwerthfawr o gyfranogiad gwirfoddolwyr.\u00a0\u00a0 Yn ei gyfanswm, mae\u2019r prosiect yn werth tua \u00a32 miliwn.<\/p>\n<p>Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob, Betsan Caldwell: &#8220;Rydym wrth ein bodd gyda&#8217;r cyfle hwn i rannu nid yn unig harddwch corfforol yr ardd, ond hefyd ei gwir enaid &#8211; straeon, sgiliau a doethineb tawel y rhai a gyfranodd at ei ffyniant dros y blynyddoedd.&#8221;<\/p>\n<p>Gellir dod o hyd i fanylion am ddigwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan yn y dyfodol yn <a href=\"http:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/whats-on\">parcyresgob.org.uk\/cy\/whats-on<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Nodiadau i Olygyddion<\/h2>\n<h3>Ffotograffau<\/h3>\n<p>Gellir cyrchu ffotograffau o&#8217;r digwyddiad yma: <a href=\"https:\/\/www.dropbox.com\/scl\/fo\/oo65c348izlfn510p89zh\/AL9LLDu3UICRG-jfaF39QIY?rlkey=puqjh3bedbdtfwe0x0assfg8f&amp;st=p0bk57u8&amp;dl=0\">https:\/\/www.dropbox.com\/scl\/fo\/oo65c348izlfn510p89zh\/AL9LLDu3UICRG-jfaF39QIY?rlkey=puqjh3bedbdtfwe0x0assfg8f&amp;st=p0bk57u8&amp;dl=0<\/a><\/p>\n<h3>Parc yr Esgob<\/h3>\n<p>Mae Parc yr Esgob yn rhan o hen yst\u00e2d Esgobion Tyddewi sydd heddiw yn cynnwys Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Fe&#8217;i rheolir gan Ymddiriedolaeth Parc yr Esgob a sefydlwyd yn 2016 ac a enillodd Wobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2024.<\/p>\n<p>Mae bwrdd o 10 o ymddiriedolwyr cymunedol lleol yn rhedeg yr Ymddiriedolaeth.\u00a0 Ein gweledigaeth hirdymor yw &#8220;gwarchod a harneisio asedau niferus Parc yr Esgob \u2013 ei dreftadaeth, ei fio-amrywiaeth, ei amwynderau a&#8217;i leoliad \u2013 i sicrhau dyfodol cynaliadwy sy&#8217;n dod \u00e2 phwrpas, dysgu, lles a phleser i fywydau&#8217;r ystod ehangaf o bobl.&#8221;<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy%0d\">https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy<\/a><\/p>\n<p>Dilynwch @ParcYrEsgob ar <a href=\"https:\/\/x.com\/ParcYrEsgob\">Twitter\/X<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/ParcYrEsgob\/\">Facebook<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/parc_yr_esgob\/\">Instagram<\/a><\/p>\n<h3>Mwy am Gwenonwy<\/h3>\n<p>Gwenonwy Davies (n\u00e9e Owen) (1887-1981) oedd merch hynaf yr Esgob John Owen (1854-1926) ac\u00a0 mae <a href=\"https:\/\/archives.library.wales\/index.php\/recollections-of-gwenonwy-davies-and-her-husband-the-very-reverend-john-thomas-davies;isad?sf_culture=cy\">Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw dau fwndel o lyfrau ymarferion<\/a> sy\u2019n cynnwys ei hunangofiant o&#8217;i chyfnod ym Mharc yr Esgob sef gardd breifat ei thad, yr Esgob Owen, adeg hynny.<\/p>\n<h3>Yngl\u0177n \u00e2 Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol<\/h3>\n<p>Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a&#8217;i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. Dyna pam, fel yr ariannwr mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU, rydym yn ymroddedig i gefnogi prosiectau sy&#8217;n cysylltu pobl a chymunedau \u00e2 threftadaeth, fel y nodir yn ein cynllun strategol, <a href=\"https:\/\/www.heritagefund.org.uk\/about\/heritage-2033-our-10-year-strategy\">Heritage 2033<\/a>. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o&#8217;r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau&#8217;r dyfodol. Rydym yn credu yng ngrym treftadaeth i danio&#8217;r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i adeiladu balchder mewn lle a chysylltiad \u00e2&#8217;r gorffennol.<\/p>\n<p>Dros y 10 mlynedd nesaf, ein nod yw buddsoddi \u00a33.6 biliwn a godir at achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i wneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.heritagefund.org.uk\/cy\">heritagefund.org.uk\/cy<\/a><\/p>\n<p>Dilynwch @HeritageFundUK ar <a href=\"https:\/\/x.com\/HeritageFundUK\">Twitter\/X<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/HeritageFundUK\">Facebook<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.instagram.com\/heritagefunduk\/\">Instagram<\/a> a defnyddiwch #NationalLottery #HeritageFund<\/p>\n<h3>Yngl\u0177n \u00e2 Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru<\/h3>\n<p>Mae cyllid Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn helpu i drawsnewid mannau ble mae pobl yn dod ynghyd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael cymorth pan fydd arnynt ei angen fwyaf. Mae&#8217;r rhaglen ar agor i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a\u2019i nod yw cynyddu cyfle, creu ffyniant i bawb a datblygu cymunedau cadarn ble mae pobl yn cael eu grymuso ac yn cymryd rhan.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/rhaglen-cyfleusterau-cymunedol\">Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol | LLYW.CYMRU<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/cyfryngau.gwasanaeth.llyw.cymru\/newyddion\/hwb-cyllid-yn-rhoi-bywyd-newydd-i-fannau-lle-mae-cymunedaun-dod-ynghyd\">Newyddion Llywodraeth Cymru\/Hwb cyllid yn rhoi bywyd newydd i fannau lle mae cymunedau&#8217;n dod ynghyd<\/a><\/p>\n<h3>Yngl\u0177n \u00e2 Sefydliad Garfield Weston<\/h3>\n<p>Sefydlwyd Sefydliad Garfield Weston yn 1958, sef elusen a sefydlwyd gan deulu sy&#8217;n rhoi arian i gefnogi amrywiaeth eang o elusennau ledled y DU. Bob blwyddyn, mae&#8217;r Sefydliad yn rhoi ei incwm i ffwrdd ac mae&#8217;r dyfarniadau wedi parhau i dyfu. Ers ei sefydlu, mae wedi rhoi dros \u00a31.5 biliwn, o&#8217;r hwn y mae dros hanner wedi&#8217;i roi i ffwrdd yn y deg mlynedd diwethaf. Yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, rhoddodd y Sefydliad fwy na \u00a3100 miliwn i bron i 1,800 elusen ledled y DU.<\/p>\n<p>www.garfieldweston.org<\/p>\n<h3>Yngl\u0177n \u00e2 Ymddiriedolaeth Pilgrim<\/h3>\n<p>Mae\u2019r Pilgrim Trust yn ymddiriedolaeth grant annibynnol sy&#8217;n cefnogi anghenion brys ac a ragwelir ym Mhrydain. Mae&#8217;n rhoi oddeutu \u00a33 miliwn mewn grantiau bob blwyddyn i elusennau a chorfforaethau cyhoeddus eraill sy&#8217;n canolbwyntio naill ai ar gadwraeth treftadaeth y DU neu ar gatalyddu newid cymdeithasol.<\/p>\n<p>Dilynwch ni: @ThePilgrimTrust (X), Pilgrim Trust (LinkedIn)<\/p>\n<h3>Yngl\u0177n \u00e2&#8217;r Wallich<\/h3>\n<p>Mae pawb yn haeddu&#8217;r hawl i gartref, ac mae&#8217;r Wallich hefyd yn credu bod pawb yn haeddu&#8217;r hawl i deimlo&#8217;n ddiogel, i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i deimlo&#8217;n gadarnhaol am eu dyfodol.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/thewallich.com\/cy\/\">thewallich.com\/cy<\/a><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-4967 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/d5e601ym.png\" alt=\"Logos Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston, ac Ymddiriedolaeth y Pilgrim, sy'n dynodi cyllid neu gefnogaeth gan y sefydliadau hyn. \" width=\"2560\" height=\"1006\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/d5e601ym.png 2560w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/d5e601ym-300x118.png 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/d5e601ym-1024x402.png 1024w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/d5e601ym-768x302.png 768w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/d5e601ym-1536x604.png 1536w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/d5e601ym-2048x805.png 2048w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/d5e601ym-1800x707.png 1800w\" sizes=\"auto, (max-width: 2560px) 100vw, 2560px\" \/><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gardd furiog anghofiedig yn Abergwili, a oedd unwaith wrth galon yst\u00e2d esgob, am flodeuo eto diolch i grant o \u00a31.2 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Ond nid y brics, y tai gwydr na&#8217;r berllan hynafol yn unig sy&#8217;n cael eu hadfywio, ond atgofion y bobl a fu&#8217;n byw, gweithio a thyfu yno. &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/a-garden-of-memories-national-lottery-heritage-fund-grant-to-bring-abergwili-walled-garden-and-its-hidden-stories-back-to-life\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Gardd o Atgofion: Grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfer Gardd Furiog Abergwili a rhannu ei straeon cudd&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":10,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"iawp_total_views":16,"footnotes":"","_wpscppro_dont_share_socialmedia":null,"_wpscppro_custom_social_share_image":0,"_facebook_share_type":"default","_twitter_share_type":"default","_linkedin_share_type":"default","_pinterest_share_type":"default","_linkedin_share_type_page":"","_instagram_share_type":"default","_medium_share_type":"default","_threads_share_type":"default","_google_business_share_type":"default","_selected_social_profile":[],"_wpsp_enable_custom_social_template":false,"_wpsp_social_scheduling":{"enabled":false,"datetime":null,"platforms":[],"status":"template_only","dateOption":"today","timeOption":"now","customDays":"","customHours":"","customDate":"","customTime":"","schedulingType":"absolute"},"_wpsp_active_default_template":true},"categories":[3,120],"tags":[],"class_list":{"0":"post-4961","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-latest-news","7":"category-gwasg","8":"h-entry","9":"hentry","10":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4961","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/10"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4961"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4961\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5493,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4961\/revisions\/5493"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4961"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4961"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4961"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}