{"id":621,"date":"2015-01-01T11:42:24","date_gmt":"2015-01-01T11:42:24","guid":{"rendered":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/?p=621"},"modified":"2026-01-13T08:44:38","modified_gmt":"2026-01-13T08:44:38","slug":"national-lottery-fund","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/national-lottery-fund\/","title":{"rendered":"Cronfa Dreftadaeth y Loteri"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignnone wp-image-634 size-full\" src=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Run-down-garden.jpg\" alt=\"Adeilad carreg wedi'i hindreulio wedi'i orchuddio ag eiddew a mwsogl, gyda ffenestr fwaog wedi torri a llwybr wedi gordyfu yn arwain heibio iddo o dan goed deiliog.\" width=\"709\" height=\"473\" srcset=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Run-down-garden.jpg 709w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Run-down-garden-300x200.jpg 300w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Run-down-garden-225x150.jpg 225w, https:\/\/parcyresgob.org.uk\/wp-content\/uploads\/Run-down-garden-150x100.jpg 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 709px) 100vw, 709px\" \/><\/p>\n<p>Rydym wrth ein bodd o gyhoeddi fod grant datblygu o \u00a3136,300 wedi\u2019i ddyfarnu i ni gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri dan eu cynllun <em>Parciau ar gyfer Pobl<\/em> tuag at adnewyddu Parc yr Esgob yn Abergwili.<\/p>\n<p>Bydd y cyllid datblygu a ddyfarnwyd yn ein helpu ni i ddatblygu\u2019n cynlluniau i wneud cais am grant llawn yn nes ymlaen. Ein nod yw sicrhau cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri i ddatblygu Parc yr Esgob fel cyrchfan gydol y flwyddyn ynghyd ag amgueddfa, canolfan i ymwelwyr a gwirfoddolwyr, parc difyrion wedi\u2019i adfywio, gardd lysiau, d\u00f4l gorlifdir a llyn dolennog gyda\u2019i ynys gyfrinachol.<\/p>\n<p>Dywedodd Judith Holland o Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru: \u201cRydym wedi bod yn poeni ers amser hir am ddirywiad y gem hwn o barc sydd cyn bwysiced i dreftadaeth dyffryn Tywi, yn ogystal ag i bobl leol heddiw. \u201cMae\u2019r grant hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri felly\u2019n nodi\u2019r cam mawr cyntaf i adfywio Parc yr Esgob.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd aelod bwrdd gweithredol Sir Gaerfyrddin dros dreftadaeth, sef y Cyng. Meryl Gravell: \u201cMae hyn yn newyddion gwirioneddol dda i\u2019r ardal, ac yn dechrau\u2019r Flwyddyn Newydd yn dda iawn!<\/p>\n<p>Bydd prosiect Porth Tywi, ynghyd ag Amgueddfa\u2019r Sir, yn dathlu harddwch, hanes a threftadaeth yr ardal.<\/p>\n<p>\u201cEdrychaf ymlaen at ddatblygu\u2019r prosiect hwn ymhellach gyda\u2019r bwriad o wneud cais am gyllid pellach i\u2019w gwblhau.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri: \u201cRydym yn hapus i gefnogi\u2019r cynlluniau cychwynnol hyn i helpu diogelu treftadaeth naturiol ac adeiledig Parc yr Esgob.<\/p>\n<p>\u201cDatgelodd ein hadroddiad ar Gyflwr Parciau Cyhoeddus y DU diweddar pa mor hynod bwysig yw ein parciau i\u2019n lles corfforol ac emosiynol ond datgelodd hefyd eu bod yn wynebu dyfodol ansicr.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n gyffrous gweld sut bydd y buddsoddiad newydd hwn yn mynd rhyw ffordd tuag at helpu parciau fel Parc yr Esgob i ddod o hyd i ffyrdd newydd o\u2019u hariannu a\u2019u cynnal er mwyn iddynt gael eu diogelu fel i bobl o bob oedran eu mwynhau. Edrychwn ymlaen at weld sut mae\u2019r cynlluniau\u2019n datblygu.\u201d<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym wrth ein bodd o gyhoeddi fod grant datblygu o \u00a3136,300 wedi\u2019i ddyfarnu i ni gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri dan eu cynllun Parciau ar gyfer Pobl tuag at adnewyddu Parc yr Esgob yn Abergwili. Bydd y cyllid datblygu a ddyfarnwyd yn ein helpu ni i ddatblygu\u2019n cynlluniau i wneud cais am grant llawn yn &hellip; <\/p>\n<div class=\"more-link-wrapper\"><a href=\"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/national-lottery-fund\/\" class=\"more-link\">Learn More | Dysgwch Mwy<span class=\"screen-reader-text\"> &#8220;Cronfa Dreftadaeth y Loteri&#8221;<\/span><\/a><\/div>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"iawp_total_views":4,"footnotes":"","_wpscppro_dont_share_socialmedia":null,"_wpscppro_custom_social_share_image":0,"_facebook_share_type":"default","_twitter_share_type":"default","_linkedin_share_type":"default","_pinterest_share_type":"default","_linkedin_share_type_page":"","_instagram_share_type":"default","_medium_share_type":"default","_threads_share_type":"default","_google_business_share_type":"default","_selected_social_profile":[],"_wpsp_enable_custom_social_template":false,"_wpsp_social_scheduling":{"enabled":false,"datetime":null,"platforms":[],"status":"template_only","dateOption":"today","timeOption":"now","customDays":"","customHours":"","customDate":"","customTime":"","schedulingType":"absolute"},"_wpsp_active_default_template":true},"categories":[8],"tags":[],"class_list":{"0":"post-621","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-archived","7":"h-entry","8":"hentry","9":"no-comments"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/621","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=621"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/621\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":5376,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/621\/revisions\/5376"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=621"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=621"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/parcyresgob.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=621"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}