Mae gardd furiog anghofiedig yn Abergwili, a oedd unwaith wrth galon ystâd esgob, am flodeuo eto diolch i grant o £1.2 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Ond nid y brics, y tai gwydr na’r berllan hynafol yn unig sy’n cael eu hadfywio, ond atgofion y bobl a fu’n byw, gweithio a thyfu yno.
Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, sy’n gyfrifol am adferiad Parc yr Esgob ers 2017, yn rhoi’r straeon personol hyn wrth wraidd prosiect newydd uchelgeisiol 30 mis yn yr Ardd Furiog. Yn ogystal ag ailadeiladu tri thŷ gwydr hanesyddol a bwthyn y garddwr, bydd yr adferiad gofalus hwn yn creu cyfleusterau aml-bwrpas ar gyfer dysgu, hyfforddiant, adferiad iechyd, lles a digwyddiadau dathlu. Bydd y prosiect hefyd yn adrodd a bywiogi straeon y rhai a oedd unwaith yn byw ac yn gweithio yno.
Ymhlith y cofnodion mwyaf hudolus mae dyddiaduron personol Gwenonwy Davies (1887–1981), merch hynaf yr Esgob John Owen, a fagwyd ym Mhalas yr Esgob: “Fe wnaethon ni dyfu pîn-afal am flynyddoedd,” ysgrifennodd. ” Hefyd roedd gennym dŷ gwinwydd hyfryd, wedi’i rannu’n ddau fel bod dilyniant o rawnwin. Roedd gan dŷ bychan arall degeirianau a llawer o redyn briger Gwener yn tyfu ynddo.”
Mae ei disgrifiadau byw yn paentio darlun o geinder a gwaith caled mewn ecosystem fregus a gai ei bweru gan goed tân, bechgyn ffwrnais a dwylo cadarn garddwyr medrus.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn defnyddio’r cofnodion hyn, ynghyd â dogfennau’r cyfrifiad a hanesion llafar mwy diweddar, i adeiladu archif fyw sy’n anrhydeddu’r rhai a weithiodd y tu ôl i’r llenni. Un ohonynt yw stori Arthur Sinclair Wolstoncroft, 16 oed, a deithiodd o Swydd Gaerhirfryn i Abergwili ar gyfer rhagolygon gyrfa ar gynnig fel aelod o staff yr Esgob. ac a restrir yng nghyfrifiad 1911 ymhlith y gweision fel ‘Page’.
Yn ôl Rheolwr y Prosiect, Louise Austin: “Straeon fel un Arthur sy’n cydio yn nychymyg pobl mewn gwirionedd. Maen nhw’n ein hatgoffa nad adeiladau mawreddog a digwyddiadau mawr yn unig yw treftadaeth – mae’n ymwneud â phobl a’u bywydau bob dydd.”
“Nid adferiad yn unig yw hwn – mae’n sgwrs ar draws cenedlaethau,” meddai Louise. “Mae’n ymwneud â dysgu o’r gorffennol tra’n creu rhywbeth ystyrlon ar gyfer y presennol. Rydyn ni eisiau i ymwelwyr a gwirfoddolwyr oll deimlo cysylltiad personol â’r lle hwn, ac i dynnu ysbrydoliaeth a phrofiadau ohono a all eu helpu yn eu bywydau bob dydd.”
Mae’n gwirfoddolwr Richard yn un o’r bobl sydd wedi elwa o Barc yr Esgob. “Ddes i yma llynedd gyda grŵp o’r Wallich i weld a oedden ni eisiau cymryd rhan. Penderfynodd y grŵp ddod unwaith yr wythnos am raglen 10 wythnos i ddysgu am arddio a gofalu am y parc. Nawr rwy’n dod fel gwirfoddolwr annibynnol – 3 diwrnod yr wythnos! Mae cael rhywbeth i’w wneud bob dydd wedi rhoi pwrpas i mi – ac mae’n fy ngalluogi i fentro allan. Mae wedi helpu’n fawr gyda fy iechyd meddwl. Rwy’n mwynhau bod ym Mharc yr Esgob a rwy’n gweithio’n galed i sicrhau ei fod yn edrych ar ei orau ar gyfer ymwelwyr.”
Wedi’r arferiad, bydd yr ardd yn cynnal dathliadau cymunedol, gweithgareddau addysgol a pherfformiadau cyhoeddus, wedi’u dylanwadu gan atgofion byw y rhai a gerddodd ei llwybrau gynt.
Bydd rhaglen hyfforddi garddwriaethol newydd yn parhau’r traddodiad adrodd straeon. Bydd garddwyr ifanc sy’n rhan o’r prosiect yn rhannu eu profiadau, gan ychwanegu lleisiau newydd at etifeddiaeth esblygol yr ardd.
Mae’n amser prysur i’r tîm prosiect, a drefnodd lansiad ar gyfer rhanddeiliaid allweddol, gwirfoddolwyr y prosiect a newyddiadurwyr ar Orffennaf 30ain. Mae archaeolegwyr gwirfoddol wrthi’n gweithio gyda thîm o Heneb – Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru – yn ymchwilio i weddillion y systemau gwresogi yn adfeilion y tai gwydr, lle tyfai pîn-afalau a thegeiriannau gynt. Gallwch ymweld â’r cloddiad gorffenedig ar ddydd Sadwrn, Awst 16eg rhwng 2yp a 4yp.
Mae prosiect yr Ardd Furiog hefyd yn derbyn arian cyfatebol o £300,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, £150,000 gan Sefydliad Garfield Weston, £100,000 gan ddyngarwr treftadaeth yng Nghymru a £20,000 gan Ymddiriedolaeth Pilgrim, yn ogystal â chyllid cyfatebol gwerthfawr o gyfranogiad gwirfoddolwyr. Yn ei gyfanswm, mae’r prosiect yn werth tua £2 miliwn.
Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, Betsan Caldwell: “Rydym wrth ein bodd gyda’r cyfle hwn i rannu nid yn unig harddwch corfforol yr ardd, ond hefyd ei gwir enaid – straeon, sgiliau a doethineb tawel y rhai a gyfranodd at ei ffyniant dros y blynyddoedd.”
Gellir dod o hyd i fanylion am ddigwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan yn y dyfodol yn parcyresgob.org.uk/cy/whats-on.
Nodiadau i Olygyddion
Ffotograffau
Gellir cyrchu ffotograffau o’r digwyddiad yma: https://www.dropbox.com/scl/fo/oo65c348izlfn510p89zh/AL9LLDu3UICRG-jfaF39QIY?rlkey=puqjh3bedbdtfwe0x0assfg8f&st=p0bk57u8&dl=0
Parc yr Esgob
Mae Parc yr Esgob yn rhan o hen ystâd Esgobion Tyddewi sydd heddiw yn cynnwys Amgueddfa Sir Gaerfyrddin. Fe’i rheolir gan Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn a sefydlwyd yn 2016 ac a enillodd Wobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2024.
Mae bwrdd o 10 o ymddiriedolwyr cymunedol lleol yn rhedeg yr Ymddiriedolaeth. Ein gweledigaeth hirdymor yw “gwarchod a harneisio asedau niferus Parc yr Esgob – ei dreftadaeth, ei fio-amrywiaeth, ei amwynderau a’i leoliad – i sicrhau dyfodol cynaliadwy sy’n dod â phwrpas, dysgu, lles a phleser i fywydau’r ystod ehangaf o bobl.”
https://parcyresgob.org.uk/cy
Dilynwch @ParcYrEsgob ar Twitter/X, Facebook ac Instagram
Mwy am Gwenonwy
Gwenonwy Davies (née Owen) (1887-1981) oedd merch hynaf yr Esgob John Owen (1854-1926) ac mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw dau fwndel o lyfrau ymarferion sy’n cynnwys ei hunangofiant o’i chyfnod ym Mharc yr Esgob sef gardd breifat ei thad, yr Esgob Owen, adeg hynny.
Ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Ein gweledigaeth yw gwerthfawrogi a gofalu am dreftadaeth a’i chynnal ar gyfer pawb, nawr ac yn y dyfodol. Dyna pam, fel yr ariannwr mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU, rydym yn ymroddedig i gefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth, fel y nodir yn ein cynllun strategol, Heritage 2033. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol y mae pobl yn ei werthfawrogi ac eisiau ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Rydym yn credu yng ngrym treftadaeth i danio’r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i adeiladu balchder mewn lle a chysylltiad â’r gorffennol.
Dros y 10 mlynedd nesaf, ein nod yw buddsoddi £3.6 biliwn a godir at achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i wneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.
heritagefund.org.uk/cy
Dilynwch @HeritageFundUK ar Twitter/X, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLottery #HeritageFund
Ynglŷn â Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru
Mae cyllid Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn helpu i drawsnewid mannau ble mae pobl yn dod ynghyd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael cymorth pan fydd arnynt ei angen fwyaf. Mae’r rhaglen ar agor i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a’i nod yw cynyddu cyfle, creu ffyniant i bawb a datblygu cymunedau cadarn ble mae pobl yn cael eu grymuso ac yn cymryd rhan.
Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol | LLYW.CYMRU
Newyddion Llywodraeth Cymru/Hwb cyllid yn rhoi bywyd newydd i fannau lle mae cymunedau’n dod ynghyd
Ynglŷn â Sefydliad Garfield Weston
Sefydlwyd Sefydliad Garfield Weston yn 1958, sef elusen a sefydlwyd gan deulu sy’n rhoi arian i gefnogi amrywiaeth eang o elusennau ledled y DU. Bob blwyddyn, mae’r Sefydliad yn rhoi ei incwm i ffwrdd ac mae’r dyfarniadau wedi parhau i dyfu. Ers ei sefydlu, mae wedi rhoi dros £1.5 biliwn, o’r hwn y mae dros hanner wedi’i roi i ffwrdd yn y deg mlynedd diwethaf. Yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, rhoddodd y Sefydliad fwy na £100 miliwn i bron i 1,800 elusen ledled y DU.
www.garfieldweston.org
Ynglŷn â Ymddiriedolaeth Pilgrim
Mae’r Pilgrim Trust yn ymddiriedolaeth grant annibynnol sy’n cefnogi anghenion brys ac a ragwelir ym Mhrydain. Mae’n rhoi oddeutu £3 miliwn mewn grantiau bob blwyddyn i elusennau a chorfforaethau cyhoeddus eraill sy’n canolbwyntio naill ai ar gadwraeth treftadaeth y DU neu ar gatalyddu newid cymdeithasol.
Dilynwch ni: @ThePilgrimTrust (X), Pilgrim Trust (LinkedIn)
Ynglŷn â’r Wallich
Mae pawb yn haeddu’r hawl i gartref, ac mae’r Wallich hefyd yn credu bod pawb yn haeddu’r hawl i deimlo’n ddiogel, i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i deimlo’n gadarnhaol am eu dyfodol.
thewallich.com/cy

Gardd o Atgofion: Grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfer Gardd Furiog Abergwili a rhannu ei straeon cudd
Posted: 30/07/2025 by Admin2

Category: Newyddion Diweddaraf, Gwasg