Cyfleoedd Gwirfoddoli
20/05/2024
By Ffiona Jones
Mae gennym gyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr i’n helpu gydag ein teithiau tywysedig dros fisoedd yr haf. Os oes gennych ddiddordeb yn hanes y safle ac yr ydych yn gallu rhoi awr neu ddau o’ch amser naill ai yn yr wythnos, gyda’r hwyr neu ar benwythnosau, cysylltwch â FfionaJones@tywigateway.org.uk am fwy o fanylion. Bydd hyfforddiant llawn …
Hygyrchedd
HYGYRCHEDD
Parc hanesyddol yw Parc yr Esgob a dirluniwyd diwethaf ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. O ganlyniad, mae cyflwr y llwybrau’n golygu nad yw’r safle i gyd o fewn cyrraedd ymwelwyr gyda symudedd cyfyngedig, cadeiriau gwthio na phramiau ar hyn o bryd. Wrth i’n prosiect adnewyddu ddatblygu, bwriadwn greu llwybrau pob tywydd hawdd mynd atynt er mwyn i’n holl ymwelwyr allu mwynhau’r tir gwych trwy gydol y flwyddyn.
Cadwch lygad ar ein rhan newyddion diweddaraf i gael gwybodaeth am ein cynnydd.