Waun Fawr
Ar agor cyn hir i bawb, yr orlifwaun hon ffurfiodd leoliad parcdir Palas yr Esgob a chaiff ei rheoli nawr i hyrwyddo ac amddiffyn planhigion a phryfed prin. Unwaith y bydd y gwaith adfer wedi’i gwblhau, gellir cyrraedd y waun, (pan na fydd o dan ddŵr) o’r gerddi ffurfiol dros bont newydd a ramp sy’n caniatáu mynediad i gadeiriau olwyn a choetsys.
FFLORA CYNHENID AR Y WAUn
Pan gymeron ni reolaeth o’r safle, doedd y Waun Fawr ddim wedi cael ei ffermio ar gyfer cadwraeth ac o ganlyniad roedd y glastir ‘yn dlawd o safbwynt rhywogaethau’ (doedd dim llawer o flodau gwyllt na gwahanol fathau o weiriau brodorol). Y gweiriau amlycaf yw’r maswellt penwyn, cynffonwellt y maes, perwellt y gwanwyn a’r maeswellt rhedegog, gydag enghreifftiau achlysurol o’r blodyn-menyn ymlusgol a dail arian, a chlystyrau prin o frwyn pabwyr a brigwellt garw. Dim ond enghreifftiau achlysurol o ysgall y maes a’r dinad cyffredin a geir ond maen nhw hefyd yn ffurfio clytiau gwasgaredig o gwmpas coed y parcdir lle mae dail tafol yn fwy cyffredin hefyd. Prin yw’r gwahaniaeth mewn dipiau a draeniau bas, ar wahân i’r prif ddraen sy’n rhedeg allan o’r ffin ddeheuol, sy’n cynnwys dŵr llonydd bas gyda dail arian, y dinboeth, melyswellt corswen, melyswellt arnofiol, sgorpionllys y gors, briwydd y gors, brigwlydd y cynhaeaf, ffromlys chwarennog ac erwain sydd i’w gweld yn achlysurol yng nghanol y glaswellt.

Mae ardal o brysg i’r dwyrain o’r brif sianel hon sy’n cynnwys y ddraenen wen, ysgawen, ynn a chyll ac yn 2021 gosodwyd clawdd ffin i gefnogi bywyd gwyllt yma yn arddull draddodiadol Sir Gaerfyrddin.
gwair gwyrdd o ardd fotaneg genedlaethol cymru
Yn ystod 2021 hefyd, derbyniwyd cyfraniad o wair gwyrdd o ddolydd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Roedd y gwair hwn yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau blodau gwyllt brodorol a ddylai weithio’n dda ar ein gorlifwaun. Croeswn ein bysedd am ddigonedd o fflora ar y Waun Fawr yn 2022!

Coed y Waun Fawr
Mae tair hen goeden fawr dal ar y Waun: pisgwydden dail bach ger y cornel gorllewinol; derwen bedynclaidd hynafol yn agos i’r canol a chastanwydden y meirch ymhellach i’r gogledd-ddwyrain. Y tu mewn i foncyff yr olaf mae gofod mawr y gellid ei ddefnyddio’n ymarferol gan y dylluan wen, a gallai’r ddwy olaf fod yn gartref i amrywiaeth o infertebratau a ffyngau.
Ceir coed hefyd ar hyd y ffiniau, ac er nad oes trwch o gloddiau, maen nhw bellach wedi tyfu’n rhesi o goed helyg, masarn, ynn a llwyfenni llydanddail.