Yr Ardd Furiog hanner erw, sy’n dyddio nôl i’r 1790au o leiaf, yw cyfrinach fawr Parc yr Esgob. A dweud y gwir, mae llawer yn dal i gyfeirio ati fel yr ardd ‘gyfrinachol’, am ei bod wedi’i chuddio ar ochr orllewinol y Parc. Er ei bod hi ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd, ein gweledigaeth fawr yw ei hadfer er mwyn iddi allu byw o’r newydd, ac ailddarganfod ei lle canolog iawn ym Mharc yr Esgob.
Unwaith yn galon i’r ystâd, roedd yr Ardd Furiog un un o dri safle oedd yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau ar gyfer yr aelwyd drwy gydol y tymor, o’r 18fed Ganrif hyd at y 1970au. Yn wreiddiol roedd y bloc stablau wedi’i leoli’n union i’r dwyrain o’r ardd, nes iddo gael ei symud rhwng dechrau a chanol y 1800au i’w leoliad presennol yn agosach at yr heol. Roedd hyn yn hanfodol er mwyn cynhyrchu bwyd ar y pryd, am nad oedd yn rhaid symud y gwrtaith ceffylau bendigedig yn bell iawn i allu trin y pridd a bwydo’r planhigion. Rydyn ni heddiw’n etifeddwyr diolchgar iawn o’r fath reolaeth ofalus dros y cenedlaethau!
Newidiadau dros amser…
Dros y blynyddoedd gwelwyd llawer o newidiadau o fewn y pedair wal yma, llawer ohonyn nhw wedi gadael eu holion ar y tir. Gwyddom fod orenfa’n arfer bod ar hyd wal y gogledd, wedi’i lleoli mewn man delfrydol i ddal yr haul wrth iddo groesi’r dyffryn; y gwyngalch ysgafn ar y wal yw’r unig dystiolaeth o’i bodolaeth bellach. Mae olion tri tŷ gwydr Fictoraidd arall i’w gweld hefyd, gan ddangos y pibellau gwres yn glir, ac felly’n cynnig ffenest ddeniadol i’r gorffennol, gan roi’r cyfle i ni ddychmygu’r hyn oedd yn arfer cael eu tyfu o’u mewn.
Map 1811 o’r Ystâd
Fel rhan o astudiaeth archeolegol o’r safle yn 2017 edrychodd yr ymgynghorwyr hefyd yn fanwl ar fapiau hanesyddol oedd yn dangos yr ardd, sy’n ein helpu i ddadansoddi’r newidiadau dros amser. Darllen mwy am yr hyn a ganfuwyd ganddyn nhw, neu gwyliwch y ffilm (yn Saesneg) a wnaed yn ystod yr astudiaeth isod.
Atgofion Gwenonwy
Ymysg y cofnodion eraill sydd gennym, mae atgofion Gwenonwy Owen (sydd wedi eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru), merch yr Esgob John Owen oedd yn byw yn y palas ganrif yn ôl. Roedd orennau a thegeirianau trofannol yn nodweddion yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae’n siŵr fod llawer o’r coed afalau a gellyg yn y berllan yn dyddio o’r cyfnod hwnnw. Darllen atgofion Gwenonwy o’r Parc.
Ers 2018 mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i glirio sbwriel a phrysg, plannu coed ffrwythau newydd, a cheisio gwneud yr Ardd Furiog yn lle defnyddiol a chynhyrchiol unwaith eto. Yn y tymor byr, byddwn yn parhau i dyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer ein caffi, ac yn defnyddio’r safle ar gyfer ein rhaglen addysgiadol pan allwn ni, gan weithio gyda grwpiau ysgol ac eraill ar deithiau darganfod a thyfu bwyd cynaliadwy.
Ein gobaith hefyd yw bod mewn sefyllfa i agor yr ardd yn fwy cyffredinol i’r cyhoedd rhyw ddiwrnod. Tan hynny, cadwch lygad ar ein calendr digwyddiadau, am ein bod ni weithiau’n agor y drysau i ymwelwyr er mwyn cael cipolwg y tu mewn, i gamu’n ôl mewn amser a chysylltu â’r gorffennol.
Gweld y tu fewn i’r Ardd Furiog …
Ar hyn o bryd, mae’r Ardd Furiog ar gau nes i ni gwblhau ein cynlluniau nawdd ar gyfer ei hadfer a’i hagor i ymwelwyr. Am y tro, gallwch ymweld drwy archebu taith o gwmpas y Parc neu pan fydd hi ar agor fel rhan o’n rhaglen ddigwyddiadau. Beth sydd ymlaen.
Mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio’n gyson yn yr Ardd Furiog felly os ydych chi eisiau profiad o’r safle anhygoel yma drosoch chi eich hun – gwirfoddolwch gyda ni!
Gardd Furiog