enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Gardd Jenkinson

Yn croesawu ymwelwyr i Barc yr Esgob mae un o uchafbwyntiau pennaf y safle – Gardd Jenkinson. Cynlluniwyd y man arbennig iawn yma fel teyrnged i’r ardd ffurfiol a gafodd ei chreu yma yng nghyfnod yr Esgob John Jenkinson rhwng 1825 ac 1840. Dyma’r tro diwethaf yn ei hanes i’r safle gael ei drawsnewid yn sylweddol, ac mae ein gardd fynediad newydd wedi’i seilio ar gynllun Jenkinson, a nodwyd yn glir yn y lleoliad hwn ar fap 1843 yr ystâd, fel y gwelir isod.

Mynedfa deilwng i Esgob …

Cyn i’r Ymddiriedolaeth gymryd awenau’r safle yn 2018 man digon anystywallt oedd hwn, gyda phorfa garw’n tyfu’n wyllt, a llwyni a chwyn wedi ymledu a chuddio’r cwrt tenis o ddechrau’r 20fed ganrif islaw! Gan mai dyma’r ardal oedd yn croesawu ymwelwyr i’r safle ar gyfer yr Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Sir Gaerfyrddin , roedd hi’n amlwg fod angen i ni greu rhywbeth arbennig a fyddai’n creu argraff barhaol. Rhywbeth a fyddai hefyd yn adlewyrchu ein hanes a’n treftadaeth, wrth bwysleisio ein cydflaenoriaethau ar gyfer y dyfodol – cymuned, cadwraeth a chynaliadwyedd.

Ysbrydoliaeth o hanes …

Dechreuodd yr Ymddiriedolaeth ar y gwaith yn 2019, ar y cyd â TACP, penseiri tirwedd o Gaerdydd, er mwyn datblygu cynllun a fyddai’n cyffroi ymwelwyr, gan eu denu o’r fynedfa hanesyddol i’r ganolfan ymwelwyr newydd yn hen adeiladau allanol y Palas. Yna, yn 2021, comisiynwyd Afan Landscapes i ddod â’r cynlluniau a’r delweddau’n fyw.

Heb unrhyw gofnodion o’r hyn a blannwyd yn wreiddiol gan yr Esgob Jenkinson, mae ein Prif Arddwr, Piers Lunt, wedi troi at amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol (yn cynnwys An Encyclopaedia of Plants o 1843 gan John Claudius Laudon) am ysbrydoliaeth er mwyn datblygu cynllun plannu a fyddai’n gyfarwydd i’r Esgob Jenkinson a’i arddwyr.

Yr ardd heddiw

Mae gan ardd heddiw nifer o nodweddion amlwg y gall ymwelwyr eu mwynhau, yn cynnwys clawdd ffawydd a osodwyd i gynnig golygfeydd deniadol i mewn i’r ardd ac ymlaen i’r Parc. Yng nghanol yr Ardd mae dau forder perlysiau, sy’n cynnwys cymysgedd o blanhigion ar gyfer coginio a meddyginiaeth, gan gysylltu’r cynllun â hanes garddio cegin gynaliadwy yn y Palas, wrth gynnig profiad synhwyraidd i ymwelwyr. Mae bylbiau gwanwyn amrywiol, yn cynnwys saffrwm, wedi eu plannu rhyngddyn nhw hefyd.

Mewn cylch o gwmpas yr ardd berlysiau mae pedwar border cymysg, gyda môr o flodau lluosflwydd lliwgar a rhosod treftadaeth yn eu canol, sy’n denu’r llygad.

Dewiswyd y planhigion yma’n ofalus i adlewyrchu, mor agos â phosib, y rhai a fyddai ar gael i arddwyr yr Esgob Jenkinson yn ystod y 1830.

Gardd JENKINSON drwy’r tymhorau

Yn ystod y Gwanwyn, bydd myrdd o rywogaethau o diwlipau a saffrwm yn gwthio’u pennau drwy’r pridd, gan ddod â’r Ardd yn fyw tra bod y mwyafrif o blanhigion eraill yn dal yng nghwsg. Erbyn yr haf, bydd lilïau undydd yn ffrwydro’n felyn, gan adlewyrchu lefelau uwch o heulwen wrth i’r dyddiau ymestyn. Ganol haf ac mae’r rhosod yn eu llawn dwf, gydag arogleuon y lliwiau coch tanbaid a’r magenta cyfoethog yn denu. Daw sêr Tsieina, blodau-pigwrn blewog a blodau tisian i ddisgleirio’n danllyd yn yr ardd ddiwedd yr haf yn erbyn cefndir o borfeydd addurnol ac artisiogau glôb. Yn ystod y gaeaf, mae’r clawdd ffawydd yn cynnal dail eurfrown, tra bod y pren bocs bythwyrdd yn cynnig therapi gwyrdd cyfoethog drwy’r misoedd mwyaf llwm, oer a gwlyb.

Ond nid ar lefel y ddaear a’r llygad yn unig y bwriedir i’r dyluniad ennyn diddordeb gydol y flwyddyn.

O edrych i fyny fe welwch ddau bergola’n gyforiog o rosod a barf-yr-hen-ŵr, gyda physt rhwyllwaith yn arwain allan ohonyn nhw ac arnyn nhw goed afal a gellyg a ddewiswyd ar sail eu haddasrwydd i’n hinsawdd ni, yn cynnwys amrywiaethau treftadaeth Gymreig.

Bywyd gwyllt a harddwch …

Ond ni fwriadwyd yr ardd erioed i fod yn wledd i’r llygad yn unig. Un o fanteision anhysbys o ddefnyddio mathau hanesyddol o blanhigion yw’r ffaith eu bod fel arfer yn well o lawer ar gyfer bywyd gwyllt na’u cymheiriaid modern, uchelrywiog.

A chyda gwenyn yn heidio at y cloddiau derwen y ddaear a phys pêr, gloÿnnod byw yn bwydo ar dderwen fendigaid, ddail crach a blodau-pigwrn blewog, a llu o infertebratau’n cwtsho mewn coesynnau a adawyd i sefyll dros y gaeaf, mae’r bywyd gwyllt sy’n rhannu’r rhan hon o’r ardd yn rhoi gymaint o bleser i ni â’r planhigion eu hunain.

Rydyn ni’n cynyddu’r boblogaeth o flodau gwyllt cynhenid yma hefyd, gyda chylch o ddolydd wedi’u creu o’r newydd o gwmpas yr ardd wedi’u plannu â bylbiau gwanwyn cynhenid. Dewch nôl dro ar ôl tro i weld sut maen nhw’n datblygu, a gweld beth – neu pwy – fydd i’w gweld yno yn ystod y tymor tyfu.

Eiliad i ymlacio a mwynhau …

Hyderwn y gallwch oedi am eiliad neu dair i ymlacio ar un o’n meinciau derw newydd yng Ngardd Jenkinson. Amsugnwch yr awyrgylch a garddwriaeth hanesyddol; mwynhewch arogleuon a harddwch y planhigion o’ch cwmpas; gwrandewch ar hymian tyner y borderi sy’n fyw gan beillwyr, yn yr ardd hon sydd wedi’i hadfer mor ofalus.

A chyn mentro ymlaen ar daith ddarganfod o gwmpas y Parc, y Coetir a’r Waun Fawr, beth am alw yn y ganolfan ymwelwyr am baned a chacen – neu rywbeth mwy efallai – a chasglu map o’r Parc i’ch helpu ar eich taith o gwmpas y safle.

Mae digon o bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mharc yr Esgob drwy gydol y flwyddyn.