enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Crwydro o gwmpas y Parc

O erddi hardd, i goed hynafol, i waun yn gyforiog o fywyd gwyllt, i goetir cynhenid â rhaffau sgramblo a boncyffion balansio, i bwll ADdGA – mae cymaint i’w weld ym Mharc yr Esgob. Mynnwch le ar daith dywys, casglwch fap o’r Ganolfan Ymwelwyr, neu dilynwch y paneli dehongli o gwmpas y safle – gobeithio’n fawr y byddwch yn mwynhau eich ymweliad!

800 mlynedd o arddwriaeth, hanes a bywyd gwyllt – mae cyn erddi preifat Esgobion Tyddewi bellach wedi’u hadfer i bawb allu eu mwynhau.

Gardd Jenkinson – Oedwch am ychydig i fwynhau’r harddwch a’r bywyd gwyllt yma. Wedi’u hysbrydoli gan y gerddi cylchol addurnol a fapiwyd yma yn 1843 a bellach yn cyfarch ymwelwyr hen a newydd; plannwyd yr ardal gymunedol hon â rhywogaethau o blanhigion hanesyddol a thraddodiadol, a phob un o’r mathau ar gael i arddwyr yr Esgob Jenkinson nôl yn y 1830au gan gynnwys afalau a gellyg Cymreig megis Tinyrwydd ac Enlli – yn ogystal â phlanhigion ar gyfer pryfed peillio.

Y Porthdy – Cyfle i werthfawrogi’r porthdy o ddechrau’r 19eg ganrif, a adeiladwyd mewn arddull gwladaidd i gyfannu cynllun yr ardd, i ddiogelu’r hyn oedd yn brif fynedfa i safle’r Palas ar y pryd.

Y Caffi a’r Ganolfan Ddysgu – Dewch i fwynhau cinio blasus, a the prynhawn, yn cynnwys bwydydd o’r Ardd Furiog; ymchwiliwch fwy i hanes y safle, gan ddysgu am yr Esgobion fu’n byw yn y Palas a’r gweision, morynion a’r garddwyr a wnaeth y cyfan yn bosib.

Y Parc – Ewch am bicnic yng nghysgod y coed Plaen, chwiliwch am bryfed yn yr ardal blodau gwyllt a mwynhewch y golygfeydd dros Ddyffryn Tywi; mae’r coed aeddfed a rheolaeth ofalus o’r prif barc yn ei wneud yn lle deniadol i ymlacio a chymdeithasu.

Y Waun Fawr – Bellach ar agor i bawb, yr orlifwaun hon ffurfiodd leoliad parc Palas yr Esgob a chaiff ei rheoli nawr er mwyn hybu a diogelu planhigion a phryfed prin. Gellir cyrraedd y waun (pan nad yw o dan ddŵr) o’r gerddi ffurfiol dros bont newydd a ramp sy’n galluogi mynediad i gadeiriau olwyn a choetsis.

Ha-ha – Peidiwch â chwerthin – dyma’r wal deras hir a’r ffos a elwir yn Ha-ha sy’n rhedeg rhwng Y Parc a’r Waun Fawr! Drwy gadw’r anifeiliaid sy’n pori allan ond heb darfu ar yr olygfa, mae’r Ha-ha’n sicrhau fod tirwedd y dyffryn yn ymddangos fel petai’n rhan o’r ardd. Daw’r enw o’r sŵn syn a wna pobl wrth iddyn nhw sylweddoli fod y wal a’r ffos fel rhyw fath o ffens anweledig – ha ha! Peidiwch â mynd yn rhy agos!

Yr Ardd Goetir – Ymlwybrwch drwy’r coed i’r Ardd Goetir newydd sbon, sydd wedi’i lleoli o fewn powlen naturiol â choeden ffawydd wedi’i thorri’n ganolog iddi – y man perffaith i ymarfer eich sgiliau balansio! Ymlaciwch a mwynhau’r cysgod brith a chân yr adar; mwynhewch y golygfeydd dros yr Ha-ha a Dyffryn Tywi.

Pwll yr Esgob Gwyliwch y bwyd gwyllt ar Bwll yr Esgob sy’n gartref i bopeth o bysgod a phlanhigion y gwlypdir i adar ac anifeiliaid prin megis dyfrgwn. Mae iddo statws ADdGA – a hanes difyr iawn hefyd. Roedd yr Afon Tywi rymus yn arfer llifo dros y fan hon tan 1802 pan orlifodd yr afon a thorri’r glannau, gan droi’r rhan hon o’r afon yn ystumllyn!

Yr Ardd Furiog a Bwthyn y Garddwr – Dewch am daith dywys o gwmpas yr ardd gegin furiog, sy’n gynhyrchiol unwaith eto diolch i waith caled ein gwirfoddolwyr; mae Bwthyn y Garddwr o’r 19eg ganrif yma hefyd a ddefnyddiwyd i storio ffrwythau flynyddoedd yn ddiweddarach yn ogystal â’r berllan afalau treftadaeth. Yn ogystal â chyfoeth o fywyd gwyllt amrywiol mae’r Ardd Furiog yn gartref i ruddnadroedd a morgrug dôl prin.