Ffarwelio â Connie a Ben

Rydym wedi mwynhau cael Ben a Connie yma eleni yn fawr iawn. Mae wedi rhoi mwy o mwy o gynhwysedd i ni wneud ein gwaith, set ychwanegol o sgiliau ac, yn bwysicaf oll, persbectif ffres.

Ar ddechrau eu lleoliad, gofynnwyd i Connie a Ben ystyried sut y gallem ymgysylltu’n well â phobl ifanc. Yn ogystal â’n cynorthwyo mewn amrywiaeth o weithgareddau, o arddio i gyfweld ag ymwelwyr, i gefnogi mewn cyfarfodydd a sesiynau ysgol, mae Ben wedi cynhyrchu cynllun marchnata drafft ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc ac mae Connie wedi cynhyrchu sgript drafft ar gyfer taith ddeongliadol yr ydym yn gobeithio y bydd yn siarad â phobl o oedran ysgol gynradd i fyny.

Rydym wedi dysgu ganddynt fod darparu lleoliadau profiad gwaith i bobl ifanc, ynddo’i hun, yn ffordd wych o’u cynnwys. Maent wedi rhoi syniadau rhagorol i ni ar gyfer dal dychymyg ystod wahanol o bobl ac ysgogi diddordeb yn nhreftadaeth a hanes y parc.

Dyma beth sydd gan Connie a Ben i’w ddweud am y profiad:

Connie: “Rwy’n fyfyriwr Meistr Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth 22 oed ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf newydd orffen fy lleoliad ym Mharc yr Esgob, ac rwyf wedi cael amser mor anhygoel.

“Cyn i mi ymuno â Pharc yr Esgob roeddwn i’n poeni nad oeddwn i’n gwybod digon am y diwydiant treftadaeth i ddod o hyd i swydd ar ôl i mi raddio, ond trwy fy amser yma rwyf wedi dysgu cymaint ag rwyf gymaint yn fwy hyderus ym mhob agwedd ar y sector treftadaeth. Rwyf wedi dysgu am bwysigrwydd gwirfoddolwyr, sut i ymgysylltu ag ymwelwyr, a rôl dehongli. Rwyf hefyd wedi dod o hyd i angerdd dros ymgysylltu pobl ifanc â threftadaeth, yr wyf yn gobeithio ei barhau i’m gyrfa yn y dyfodol.

“Mwynheais fy amser ym Mharc yr Esgob yn fawr iawn, ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb yno am bopeth rwyf wedi’i ddysgu.”

Ben: “Rwyf wedi cael profiad gwych ym Mharc yr Esgob yn ystod fy lleoliad 100 awr. Mae fy lleoliad ym Mharc yr Esgob wedi bod yn amhrisiadwy, gan ei fod wedi rhoi profiad i mi o weithio mewn safle treftadaeth a dealltwriaeth o’r sgiliau sy’n angenrheidiol i wneud hynny, gan – cyn i mi wirfoddoli yn y parc – nad oedd gennyf unrhyw ddealltwriaeth wirioneddol o sut mae safleoedd treftadaeth yn cael eu rhedeg a sut beth yw gweithio yn un ohonynt.

“Mae fy amser yn y parc wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth a marchnata, ac mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â’r gwirfoddolwyr a’r staff yn y parc. Rwyf wedi mwynhau fy amser yn y parc yn fawr iawn, ac rwy’n diolch i’r holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud fy amser yn y parc mor bleserus. Rwy’n argymell unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes ac eisiau swydd yn y sector treftadaeth i wirfoddoli yn y parc: byddwch yn sicr o’i fwynhau.”