enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Y 10 Peth Gorau i’w gwneud yn y Parc

Mae cymaint i ddarganfod ym Mharc yr Esgob. Dyma ein rhestr o 10 Peth Gorau i’w gwneud yn ystod eich ymweliad!

1. Ystyried y gorffennol yng Ngardd Jenkinson.
Roedd unwaith yn lawnt fowlio, yna’n ardd flodau wedi’i chynllunio gan esgob dyngarol, yna’n gwrt tenis, ac am flynyddoedd lawer, yn ddarn truenus o borfa. Mae’r ardd newydd sbon hon yn fwrlwm o fywyd gwyllt, pergolau, planhigion persawrus a chyffyrddol, a’i chynllun crwn a’r plannu treftadaeth wedi eu hysbrydoli gan ardd yr Esgob Jenkinson ar yr un safle. Welwch chi’r goeden focs dal ar ymyl yr ardd? Plannwyd hon yn wreiddiol fel topiari addurnol fwy na 200 mlynedd yn ôl!

2. Rhyfeddu at Binwydd Chile.
P’un ai os ydych yn ei chasáu neu ei charu, cafodd y goeden hon – un o’r nifer o goed sbesimen aeddfed, ysblennydd yn y Parc – ei phlannu yn 1910 gan yr Esgob Owen er mwyn ychwanegu at ei gasgliad o blanhigion egsotig. Mae ein coed eraill yn go ryfeddol hefyd – chwiliwch am Gedrwydden Lebanon, cochwydden gollddail Tsieina – un o’r talaf o’i math yn Sir Gaerfyrddin – a’r planwydd Llundain urddasol, aruchel  sy’n 150 mlwydd oed. Gyda’u boncyffion brith, maen nhw’n werth eu gweld!

3. Crwydro drwy’r Coetir.
Mae manteision clir i fod yng nghanol byd natur ac wedi eich amgylchynu gan goed. Oedwch am ennyd yn yr Ardd Goetir, anadlwch a chanolbwyntio ar y golygfeydd a’r synau o’ch cwmpas. Yr amrywiol rywogaethau o goed, yn cynnwys derw a ffawydd, sy’n gartref i gannoedd o bryfed, bwyd ar gyfer y llu o adar sy’n byw ac yn nythu yma. Beth allwch chi weld?

4. Edrych am elyrch (a gleision y dorlan) ar Lyn yr Esgob.
Syllwch allan dros y pwll am ychydig, ac fe welwch sawl math gwahanol o hwyaid ac elyrch dof. Gyda thipyn bach o lwc, efallai y gwelwch chi las y dorlan neu hyd yn oed rai o’r dyfrgwn sy’n byw yma – ond maen nhw’n swil iawn! Oeddech chi’n gwybod fod yr Afon Tywi rymus yn arfer llifo dros y fan hon tan 1802 pan orlifodd a thorri dros ei glannau? Ffurfiwyd ‘ystumllyn’ yn y fan hon wedyn – un o’r enghreifftiau gorau yng ngorllewin Cymru sydd bellach yn cael ei hamddiffyn fel Safle o ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA) oherwydd y fflora a’r ffawna prin. Yn yr haf, mae’r dŵr agored yn drwch o lilïau dŵr, ac mae modd gweld pâr o grëyr glas yn pysgota ym mhen deheuol y Pwll.

5. Cael gwers am gynllunio gerddi hanesyddol. 
Wrth sefyll yn y Parc ac edrych allan dros y Waun, mae’r olygfa odidog dros ddyffryn Tywi’n ddi-dor. Mae hyn oherwydd dyfais ddylunio glyfar o’r 18fed ganrif, sef yr ‘ha-ha’ – sy’n cadw da byw allan ac yn gwneud i’r dyffryn cyfan ymddangos fel rhan o’r ardd. Rhed ha-ha Parc yr Esgob rhwng y prif Barc a’r Waun Fawr – a dyma un o’r hiraf yn y DU. Daw’r enw o’r ochenaid o ryfeddod a wneir gan bobl o sylweddoli fod y wal a’r ffos fel rhyw fath o ffens anweledig– ah hah!

6. Cydbwyso ar y Boncyff Ffawydd neu ddringo’r rhaffau (neu gwylio eraill yn gwneud hynny!)
Y Boncyff Ffawydd enfawr yw canolbwynt ein Gardd Goetir newydd. Bu’n rhaid torri’r goeden rai blynyddoedd yn ôl yn sgil haint – a chyda’r rhaffau dringo ychydig ffordd i lawr y llwybr, dyma fan chwarae naturiol perffaith ar gyfer yr hen a’r ifanc fel ei gilydd. Cymerwch ofal pan fydd hi’n wlyb – a chadwch lygad allan am ffwng rhyfeddol! Mwy o lwybrau a gweithgareddau teuluol.

7. Ystyried newid hinsawdd a thirwedd dynamig Dyffryn Tywi.
Dewiswch fainc yn wynebu’r Waun Fawr, ac edrychwch allan dros y cynefin gorlifdirol prin hwn. Yn ôl trigolion lleol, er bod llifogydd wedi digwydd yn flynyddol erioed, maen nhw’n digwydd yn fwy aml ac yn fwy difrifol bellach. Yn ystod yr Hydref a’r Gwanwyn mae dŵr i’w weld yn cyson lifo dros yr Ha-ha ac i mewn i’r Parc. Serch hynny, mae’r waun yn dal i fod yn gynefin eithriadol ar gyfer sawl rhywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid, sy’n cael eu monitro’n ofalus ar y cyd â phartneriaid lleol. Drwy adael defaid a gwartheg i bori yma’n achlysurol, a thrwy dorri gwair unwaith yn unig ganol neu ddiwedd yr haf, gallwn wella bioamrywiaeth y waun dros amser.

8. Chwilota o gwmpas gardd furiog breifat yr Esgob.
Wedi’i chofnodi gyntaf yn 1792, yr Ardd Furiog oedd un o dair gardd oedd yn tyfu blodau, ffrwythau a llysiau ar gyfer aelwyd yr Esgob dros nifer o flynyddoedd. Codwyd y waliau’n glyfar iawn â cherrig ar yr ochr allanol a brics ar yr ochr fewnol. Mae brics yn amsugno gwres y dydd, a’i belydru’n raddol yn ystod y nos i greu ardal dyfu di-rew. Yn y gorffennol, byddai’r garddwyr yma’n defnyddio’r dechnoleg tŷ gwydr ddiweddaraf i dyfu planhigion egsotig megis pinafalau a thegeirianau trofannol. Heddiw, mae’r Ardd Furiog yn cael ei hadfywio gan ddefnyddio dulliau amgylcheddol-gyfeillgar o dyfu planhigion ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Archebwch daith o gwmpas yr Ardd Furiog.

9. Ymlacio yn Y Caffi.
Dysgwch fwy am hanes y safle yn ein canolfan ymwelwyr; ac ymlaciwch gyda phaned o de, cacen neu gyfarfod â theulu a ffrindiau am ginio. Mae’r caffi yn cael ei rhedeg gan fusnes lleol, Stacey’s Kitchen ac y mae ar agor rhwng 10yb a 4yp, 7 diwrnod yr wythnos.  Mae popeth sy’n cael ei brynu yn y caffi’n ein helpu i gadw’r lle yma ar agor – cynnal a chadw a gofalu am y Parc er mwyn sicrhau ei fod yn dal ar agor i ymwelwyr a’r gymuned. (Rhag ofn bod eisiau esgus arnoch i fwyta mwy o gacen …!)

10.  Rhoi Rhywbeth Nôl …
Fyddai’r Parc prydferth hwn ddim yma heblaw am gefnogaeth ein hymwelwyr a’n cymuned a gwaith caled eithriadol ein gwirfoddolwyr. P’un ai os ydych yn rhannu ein postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dod â’ch ffrindiau a’ch teulu am dro i’r parc, yn casglu sbwriel, yn cyfrannu, yn gadael cymynrodd, neu’n gwirfoddoli’n gyson gyda ni – mae rhoi rhywbeth nôl i’r Parc yn helpu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn adnodd rhyfeddol i bob un ohonom allu ei fwynhau.