enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Tag: bywyd gwyllt

Ystlumod Parc yr Esgob

Mae cyfanswm o chwe rhywogaeth o ystlumod wedi eu cofnodi ym Mharc yr Esgob yn cynnwys ystlumod lleiaf a soprano, ystlumod hirglust, ystlumod Natterer, ystlumod mawr a’r ystlum pedol mawr prin ac arbennig. Rydyn ni wrth ein boddau fod y creaduriaid arbennig yma wedi ymgartrefu yma ym Mharc yr Esgob ac yn ffynnu yma. Mae’r ystlumod pedol mawr a gofnodwyd …

Pwll yr Esgob

Mae pwll coetir wedi'i amgylchynu gan goed noeth a mwsoglyd â gwreiddiau troellog, yn adlewyrchu yn y dŵr llonydd. Mae golau'r haul yn hidlo trwy'r canghennau, ac mae dail syrthiedig yn gorchuddio'r ddaear yn y blaendir.

Sylwch ar y bywyd gwyllt o gwmpas Pwll yr Esgob sy’n cynnwys popeth o bysgod i blanhigion y gwlypdir yn ogystal ag anifeiliaid prin megis dyfrgwn. Mae i’r lle statws ADdGA – a hanes hynod ddifyr hefyd. Roedd yr Afon Tywi rymus yn arfer llifo dros y fan hon tan 1802 pan orlifodd yr afon …

Gardd Furiog

Mae gardd gyda glaswellt gwyrdd, gwelyau llysiau, a choed di-ddail yn sefyll o flaen wal frics o dan awyr gymylog. Mae twll eglwys yn codi yn y cefndir pell. © Caryl Thomas wedi'i ysgrifennu ar y gwaelod ar y dde.

Dysgwch fwy am ein Prosiect Adferiad yr Ardd Furiog newydd a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2025. Sylwch nad yw’r Ardd Furiog ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd oherwydd y gwaith adfer. Byddwn yn cyhoeddi diwrnodau agored cyhoeddus yn y dyfodol yma. Yr Ardd Furiog hanner erw, sy’n dyddio nôl i’r 1790au o leiaf, …

Bywyd Gwyllt

Mae person mewn cap yn defnyddio dril diwifr i gysylltu blwch adar du â boncyff coeden, wedi'i amgylchynu gan ddail gwyrdd a golau haul yn hidlo trwy'r canghennau.

Mae gwarchod a chyfoethogi cyfleoedd i fflora a ffawna allu ffynnu’n ganolog i’n holl waith ym Mharc yr Esgob. Mae ein hadeiladau a’n parcdir yn gartref i gymaint o wahanol rywogaethau – a thrwy gyfrwng ein gwaith rydyn ni’n monitro’r hyn sydd gyda ni a sut y maen nhw’n gwneud eu cartref ar y safle, gan nodi unrhyw newidiadau yn ystod y tymhorau, a chynnig y cyfleoedd gorau iddyn nhw allu ffynnu. O ddyfrgwn i ystlumod, rhuddnadroedd i lyswennod, elyrch a gleision y dorlan – mae darganfod pwy sy’n byw yn y Parc yn hudol!

Blog Piers

Parc golygfaol gyda choed tal yn y blaendir, glaswellt gwyrddlas, ac afon neu ardal wedi'i llifogydd yn adlewyrchu'r awyr las, gyda mwy o goed a chymylau yn y cefndir.

“Mewn fel llew ac allan fel oen” medden nhw am fis Mawrth; gwir iawn am yr hanner cyntaf a gobeithio felly am yr ail hanner! Cafwyd cyfnodau o dywydd gwyllt dros yr wythnosau diwethaf, ond er gwaetha holl ymdrechion gwyntoedd cryfion, llifogydd a rhew i drechu, mae’r gwanwyn wedi egino ym Mharc yr Esgob, gan …

Plannu gerddi newydd cyfeillgar at fywyd gwyllt ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, Sir Gâr

Mae pedwar o bobl yn sefyll mewn ardal goediog, yn gweithio ar brosiect garddio neu dirlunio. Mae offer, pridd a berfâu i'w gweld o'u cwmpas. Mae coed a llwybr cerdded yn y cefndir ar ddiwrnod heulog.

DATGANIAD I’R WASG 05-03-21 Plannu gerddi newydd cyfeillgar at fywyd gwyllt ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, Sir Gâr Bydd dwy ardd newydd yn ymddangos ym Mharc yr Esgob, Abergwili fis yma, diolch i grant o £22,900 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ‘Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur’.  Mae’r parc yn amgylchynu hen …

Crwydro o gwmpas y Parc

Mae dyn a merch ifanc yn cerdded gyda'i gilydd trwy ddôl laswelltog, llawn blodau ar ddiwrnod heulog, wedi'i hamgylchynu gan goed a gwyrddni. Mae'r dyn yn dal tusw bach o flodau gwyllt ac maen nhw'n ymddangos yn mwynhau taith gerdded natur heddychlon.

Gyda gerddi newydd prydferth, parcdir a choetir hanesyddol, ystumllyn cyfoethog mewn bywyd gwyllt a gorlifwaun ardderchog i’w harchwilio – mae cymaint mwy i’w ddarganfod ym Mharc yr Esgob. Ymlaciwch yn Y Caffi, ymgysylltwch ag 800 mlynedd o hanes yn ein canolfan ddysgu, neu ewch ar daith o gwmpas yr Ardd Furiog gyfrinachol â’i pherllan treftadaeth.