Cyfleoedd Gwirfoddoli
20/05/2024
By Ffiona Jones
Mae gennym gyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr i’n helpu gydag ein teithiau tywysedig dros fisoedd yr haf. Os oes gennych ddiddordeb yn hanes y safle ac yr ydych yn gallu rhoi awr neu ddau o’ch amser naill ai yn yr wythnos, gyda’r hwyr neu ar benwythnosau, cysylltwch â FfionaJones@tywigateway.org.uk am fwy o fanylion. Bydd hyfforddiant llawn …
Posted: 03/06/2024 by Ffiona Jones
Aelodaeth
Dod yn aelod Oes gennych ddiddordeb mewn safleoedd hanesyddol, gerddi, bywyd gwyllt neu gadwraeth? Neu, a ydych wrth eich bodd i gael y cyfle i fod allan yn yr awyr agored a mynd am dro? Efallai eich bod am ein helpu ni i achub y darn anhygoel hwn o’n hanes a threftadaeth leol er mwyn …
Posted: 17/11/2023 by Ffiona Jones
Tyfu i Bawb
Datganiad i’r Wasg – 17 Hydref 2023 Tyfu i Bawb – Bywyd newydd i ardd furiog hanesyddol Abergwili Cyn bo hir bydd mwy o bobl nag erioed yn medru fod yng nghlwm a’r dysgu a’r tyfu ym Mharc Yr Esgob, Abergwili, Sir Gaerfyrddin, sydd wedi cael ei drawsnewid yn ddiweddar. Mae Ymddiriedolaeth Drws …
Posted: 22/05/2023 by Ffiona Jones
Llwybrau ‘Actionbound’
Fel rhan o’n prosiect Treftadaeth Ddigidol 15 Munud ar ‘Atgofion o Barc Yr Esgob’, fe brynwyd ‘app’ sydd yn ein galluogi i greu llwybrau digidol o amgylch y parc, a’n cynnwys cwisiau, tasgau a chlipiau sain a ffilm sydd yn gallu cael eu cyrchu drwy côd QR neu drwy chwilio ar app Actionbound. Mae ein …
Posted: 24/01/2022 by Caroline Welch
Yr Arboretum
O gyrraedd y Parc drwy unrhyw un o’r pedair mynedfa, rydych chi’n siŵr o sylwi ar ein coed rhyfeddol, llawer ohonyn nhw wedi bod yn tyfu’n dawel yma dros gannoedd o flynyddoedd. Ond nid ein coetir hynafol lled-naturiol ddynodedig sy’n gartref i unigolion harddaf y safle. Yn yr Ardd Goed, yn union i’r de a’r …
Posted: 09/11/2021 by Caroline Welch
Gardd Coedtir
Ymlwybrwch drwy’r coed er mwyn cyrraedd ein Gardd Goetir newydd, sydd wedi’i lleoli o fewn powlen naturiol â choeden ffawydd aeddfed wedi’i thorri’n ganolbwynt iddi – y man delfrydol ar gyfer ymarfer eich sgiliau balansio! Ymlaciwch a mwynhau’r cysgod brith a chân yr adar; mwynhewch y golygfeydd ar draws yr Ha-ha a thros Ddyffryn Tywi. …
Posted: 09/11/2021 by Caroline Welch
Pwll yr Esgob
Sylwch ar y bywyd gwyllt o gwmpas Pwll yr Esgob sy’n cynnwys popeth o bysgod i blanhigion y gwlypdir yn ogystal ag anifeiliaid prin megis dyfrgwn. Mae i’r lle statws ADdGA – a hanes hynod ddifyr hefyd. Roedd yr Afon Tywi rymus yn arfer llifo dros y fan hon tan 1802 pan orlifodd yr afon …
Posted: 09/11/2021 by Caroline Welch
Gardd Furiog
Yr Ardd Furiog hanner erw, sy’n dyddio nôl i’r 1790au o leiaf, yw cyfrinach fawr Parc yr Esgob. A dweud y gwir, mae llawer yn dal i gyfeirio ati fel yr ardd ‘gyfrinachol’, am ei bod wedi’i chuddio ar ochr orllewinol y Parc. Er ei bod hi ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd, ein …
Posted: 09/11/2021 by Caroline Welch
Yr Ha-Ha
Beth yw’r Ha-ha? Mewn gwirionedd, un o nodweddion ffurfiol y dirwedd yw’r Ha-ha, a ddefnyddiwyd tipyn yn ystod y 18fed ganrif, sy’n cynnwys wal deras a ffos hir. Rhed Ha-ha Parc yr Esgob rhwng y Parc a’r Waun Fawr – a dyma un o’r hiraf yn y DU. Drwy gadw’r anifeiliaid sy’n pori allan ond heb …
Posted: 09/11/2021 by Caroline Welch
Y Caffi
Cegin Stacey’s Kitchen Mae’r caffi ar agor rhwng 9 o’r gloch y bore a 5 o’r gloch y prynhawn, 7 diwrnod yr wythnos (fel arfer). Cwmni lleol o Abergwili yw Stacey’s Kitchen ac y maent yn darparu cinio ysgafn, cacennau, te, coffi ayb. Maent yn cynnig Byrddau Pori a The Prynhawn, ond rhaid eu harchebu …
Posted: 09/11/2021 by Caroline Welch
Waun Fawr
Ar agor cyn hir i bawb, yr orlifwaun hon ffurfiodd leoliad parcdir Palas yr Esgob a chaiff ei rheoli nawr i hyrwyddo ac amddiffyn planhigion a phryfed prin. Unwaith y bydd y gwaith adfer wedi’i gwblhau, gellir cyrraedd y waun, (pan na fydd o dan ddŵr) o’r gerddi ffurfiol dros bont newydd a ramp sy’n …