enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Tag: hanes yr ardd

Gardd Furiog

Yr Ardd Furiog hanner erw, sy’n dyddio nôl i’r 1790au o leiaf, yw cyfrinach fawr Parc yr Esgob. A dweud y gwir, mae llawer yn dal i gyfeirio ati fel yr ardd ‘gyfrinachol’, am ei bod wedi’i chuddio ar ochr orllewinol y Parc. Er ei bod hi ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd, ein …

Gardd Jenkinson

Yn croesawu ymwelwyr i Barc yr Esgob mae un o uchafbwyntiau pennaf y safle – Gardd Jenkinson. Cynlluniwyd y man arbennig iawn yma fel teyrnged i’r ardd ffurfiol a gafodd ei chreu yma yng nghyfnod yr Esgob John Jenkinson rhwng 1825 ac 1840. Dyma’r tro diwethaf yn ei hanes i’r safle gael ei drawsnewid yn sylweddol, …

Hanes

Mae Parc a Gerddi’r Esgob yn gyforiog o hanes. O’r coed hynafol sydd wedi bod yn cadw llygad ar bopeth yma ers canrifoedd, i’r Ardd Furiog sydd wedi darparu bwydydd egsotig a blodau ar gyfer bwrdd yr Esgob i’r ystumllyn a thirwedd gyfnewidiol gorlifdir Dyffryn Tywi, i Balas canoloesol yr Esgob y mae’r Parc yn ei gwmpasu a’r bobl fu’n byw ac yn gweithio yma.

Edrych ar yr Ardd Furiog drwy Fapiau Hanesyddol

Yn 2017 ymgymerodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ag archwiliad yn yr Ardd Furiog, dan nawdd hael HLF ac Ymddiriedolaeth Elusennol Sabina Sutherland, a chyda chryn help gan wirfoddolwyr, yn cynnwys gwerthusiad desg a gwaith cloddio gofalus a chofnodi ar y safle. Dyma beth lwyddwyd i’w ddarganfod drwy astudio mapiau hanesyddol o’r safle. Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn …

Cynllun Rheoli Cadwraeth

Mae’r Cynllun Rheoli Cadwraeth (Partneriaeth Pearson Nicholas, Awst 2016) yn nodi’r materion a’r cyfleoedd i wireddu gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth ar gyfer cadwraeth Parc Esgob. Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffeil PDF.  

Cadwraeth ac Archeoleg

  Lawrlwythwch yr adroddiad Gwerthusiad Archeolegol Gardd Furiog  a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ym mis Mawrth 2017 ar ffurf PDF.   Lawrlwythwch yr Arolwg Tirwedd Hanesyddol a wnaethwyd gan Archeoleg Cambria yn 2005 mewn ffurf PDF.   Lawrlwythwch yr Adroddiad Archaeolegol a wnaethwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn 2019 mewn ffurf PDF.   Mae’r Cynllun Rheoli Cadwraeth …