Yn 2017 ymgymerodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ag archwiliad yn yr Ardd Furiog, dan nawdd hael HLF ac Ymddiriedolaeth Elusennol Sabina Sutherland, a chyda chryn help gan wirfoddolwyr, yn cynnwys gwerthusiad desg a gwaith cloddio gofalus a chofnodi ar y safle. Dyma beth lwyddwyd i’w ddarganfod drwy astudio mapiau hanesyddol o’r safle.
Dengys Map o’r Ystâd 1796 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ardd cegin rhwng clos gwair a stablau i’r dwyrain a mynwent i’r gorllewin. Ymddengys fod yr ardd yn amgaeedig ar yr ochr ddeheuol a gorllewinol. Ni ddangosir defnydd tir ar y map.
Map o’r Ystâd 1811
Ar Fap yr Ystâd 1811 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) mae’r clos gwair a’r stablau’n amlwg o hyd ond i’r gorllewin mae’r ardd gegin bellach yn furiog ar dair ochr: i’r gogledd, dwyrain a’r gorllewin. I’r de, mae’r ardd yn amgaeedig ac ymddengys fod y tir ar hyd yr ochr ddeheuol yn disgyn i lawr i nant ar y ffin.
Dangosir yr Ardd Furiog wedi’i rhannu’n dri gwely trin mawr yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin. Does dim tystiolaeth o unrhyw strwythurau na thai gwydr o fewn yr ardd yn ystod y cyfnod hwn.
Map yr Ystâd 1843
Erbyn Map yr Ystâd 1843 (Swyddfa Gofnodion Sir Gaerfyrddin) mae’r clos gwair a’r stablau wedi eu dymchwel a’r ardd gegin bresennol wedi’i sefydlu gyda muriau ar bedair ochr. Dangosir yr adeilad bychan a ddisgrifir fel ‘Bwthyn y Garddwr’ (wedi’i gylchu’n goch) wedi’i leoli ar ochr ogledd-orllewinol yr ardd. O fewn yr ardd furiog, mae’r adeilad y cyfeiriwyd at fel yr ‘Orendy’ yn cael ei ddylunio fel adeilad petryal yn erbyn mur y gogledd a dangosir strwythur sgwâr (heb eu lliwio ar y map) lle mae Tai Gwydr 2 a 3 wedi eu lleoli heddiw. Rhennir gweddill yr ardal yn welyau trin amrywiol eu maint ond ni ddangosir Tŷ Gwydr 1. Yn yr ardal lle’r oedd y clos gwair, dangosir adeilad petryal yn erbyn mur yr ardd sy’n wynebu’r dwyrain.
Argraffiad 1af Arolwg Ordnans (1899)
Dengys map argraffiad 1af Arolwg Ordnans ardd furiog yn cynnwys tri strwythur. Mae’r ‘Orendy’ fwy neu lai wedi dyblu mewn hyd. Dangosir Tai Gwydr 2 a 3, i’r de o’r Orendy, fel dau adeilad petryal ar wahân. Mae Tŷ Gwydr 1 wedi’i adeiladu yn erbyn y mur sy’n wynebu’r gorllewin. Nid yw’r adeilad ar y mur sy’n wynebu’r dwyrain i’w weld bellach, ac ni chaiff llwybrau ffurfiol y 1840au eu dangos chwaith, ond yn hytrach dangosir dwy goeden ar y tu mewn.
2il Argraffiad Arolwg Ordnans (1906)
Prin yw’r newidiadau rhwng yr argraffiad cyntaf 1:25000 Arolwg Ordnans 1889 sy’n dangos yr ardal ddatblygu wedi’i hamlinellu’n goch, â map 2il argraffiad 1:25000 yr Arolwg Ordnans 1906.
Edrych ar yr Ardd Furiog drwy Fapiau Hanesyddol
Yn 2017 ymgymerodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ag archwiliad yn yr Ardd Furiog, dan nawdd hael HLF ac Ymddiriedolaeth Elusennol Sabina Sutherland, a chyda chryn help gan wirfoddolwyr, yn cynnwys gwerthusiad desg a gwaith cloddio gofalus a chofnodi ar y safle. Dyma beth lwyddwyd i’w ddarganfod drwy astudio mapiau hanesyddol o’r safle.
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn (pdf) yma.