Ynghylch y Ymddiriedolaeth
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn fel Sefydliad Corfforedig Elusennol (rhif elusen 1167244) yn 2016 er mwyn:
“hyrwyddo cadwraeth, diogelwch, gwelliant a dealltwriaeth o’r amgylchedd adeiledig a naturiol er budd y cyhoedd ym Mharc yr Esgob a’i leoliad diwylliannol yn Abergwili.”
Ar gychwyn cyntaf cynllun Parc Yr Esgob, prosiect i adfer Parc yr Esgob gyda chefnogaeth o £2filiwn o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sefydlodd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yr Ymddiriedolaeth i gyflawni’r prosiect adfer ac ymgymryd â rheoli a gwneud gwaith cynnal a chadw yn y parc.
Yn 2018, arwyddodd yr Ymddiriedolaeth brydlesi 30 mlynedd gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a Chorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer gerddi Hen Balas yr Esgob, yr Ardd Furiog a’r Waun Fawr. Rydyn ni’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn dal i dderbyn gofal ac yn hygyrch i’r gymuned leol.
Caiff yr Ymddiriedolaeth ei gweinyddu gan fwrdd o 12 Ymddiriedolwr cymunedol lleol. Dyma ein huchelgais hir dymor ar gyfer y safle:
Rhoi Parc yr Esgob ar y map fel cyrchfan ardderchog i ymwelwyr allu crwydro drwy erddi wedi’u tirlunio a thiroedd ysblennydd gyda golygfeydd dros Ddyffryn Tywi, darganfod bywyd gwyllt a hanes hynod ddiddorol, a mwynhau manteision bod allan ynghanol byd natur.
Ar hyn o bryd, mae yna wyth aelod o staff:-
- Rheolwraig yr Ymddiriedolaeth – Tina Murphy
- Prif Arddwr – Blue Barnes-Thomas
- Rheolwraig Prosiect Yr Ardd Furiog – Louise Austin
- Swyddog Ymgysylltiad Cymdeithasol a Dysgu – Ffiona Jones
- Swyddogion Ymgysylltiad Cymdeithasol ar gyfer Prosiect Yr Ardd Furiog (Rhannu Swydd) – Anne May a Teresa Walters
- Hyfforddwraig Garddwriaethol/Garddwraig Cynorthwyol – Yvonne Lee
Mae’r ymddiriedolaeth, sy’n elusen, yn gwbl annibynnol ar lywodraeth ganolog a lleol ac nid yw’n derbyn unrhyw nawdd uniongyrchol. Rydyn ni’n dibynnu ar godi arian drwy grantiau a chyfraniadau ochr yn ochr ag incwm a gynhyrchwyd drwy’r parc ac ar garedigrwydd gwirfoddolwyr a chefnogwyr er mwyn gallu parhau â’n gwaith.
Allwch chi helpu i’n cefnogi?