enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Tag: hanes

Hanes

Mae Parc a Gerddi’r Esgob yn gyforiog o hanes. O’r coed hynafol sydd wedi bod yn cadw llygad ar bopeth yma ers canrifoedd, i’r Ardd Furiog sydd wedi darparu bwydydd egsotig a blodau ar gyfer bwrdd yr Esgob i’r ystumllyn a thirwedd gyfnewidiol gorlifdir Dyffryn Tywi, i Balas canoloesol yr Esgob y mae’r Parc yn ei gwmpasu a’r bobl fu’n byw ac yn gweithio yma.

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Dewch i ymweld ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin i ddarganfod gweithiau celf a hynafiaethau cyfareddol a hynod o orffennol Sir Gaerfyrddin. Dyma’r lle perffaith i fwynhau hanes rhan o Gymru sy’n llawn treftadaeth, mythau a chwedlau. Saif yr amgueddfa mewn parcdir ym mhrydferthwch Dyffryn Tywi ac am ganrifoedd yma yr oedd palas Esgob Tyddewi. Gan fod …

Crwydro o gwmpas y Parc

Gyda gerddi newydd prydferth, parcdir a choetir hanesyddol, ystumllyn cyfoethog mewn bywyd gwyllt a gorlifwaun ardderchog i’w harchwilio – mae cymaint mwy i’w ddarganfod ym Mharc yr Esgob. Ymlaciwch yn Y Caffi, ymgysylltwch ag 800 mlynedd o hanes yn ein canolfan ddysgu, neu ewch ar daith o gwmpas yr Ardd Furiog gyfrinachol â’i pherllan treftadaeth.

Edrych ar yr Ardd Furiog drwy Fapiau Hanesyddol

Yn 2017 ymgymerodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ag archwiliad yn yr Ardd Furiog, dan nawdd hael HLF ac Ymddiriedolaeth Elusennol Sabina Sutherland, a chyda chryn help gan wirfoddolwyr, yn cynnwys gwerthusiad desg a gwaith cloddio gofalus a chofnodi ar y safle. Dyma beth lwyddwyd i’w ddarganfod drwy astudio mapiau hanesyddol o’r safle. Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn …

Cynllun Rheoli Cadwraeth

Mae’r Cynllun Rheoli Cadwraeth (Partneriaeth Pearson Nicholas, Awst 2016) yn nodi’r materion a’r cyfleoedd i wireddu gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth ar gyfer cadwraeth Parc Esgob. Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffeil PDF.