enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Bywyd Gwyllt

(c) Emma Reardon

Mae gwarchod a chyfoethogi cyfleoedd i fflora a ffawna allu ffynnu’n ganolog i’n holl waith ym Mharc yr Esgob. Mae ein hadeiladau a’n parcdir yn gartref i gymaint o wahanol rywogaethau – a thrwy gyfrwng ein gwaith rydyn ni’n monitro’r hyn sydd gyda ni a sut y maen nhw’n gwneud eu cartref ar y safle, gan nodi unrhyw newidiadau yn ystod y tymhorau, a chynnig y cyfleoedd gorau iddyn nhw allu ffynnu.

O ddyfrgwn i ystlumod, rhuddnadroedd i lyswennod, elyrch a gleision y dorlan – mae darganfod pwy sy’n byw yn y Parc yn hudol!

Ystlumod ym mhantri’r Esgob

Rydyn ni wrth ein boddau fod nifer o ystlumod yn galw adeiladau allanol yr Esgob yn gartref – mae nythfeydd bridio’r ystlumod Natterer a chlwydau llai o ystlumod hirglust, ystlumod lleiaf a soprano yn fathau cyffredin a chyfarwydd, ond mae yma hefyd glwyd o hyd at saith ystlum pedol mwyaf prin ar y safle a gafodd eu gwarchod drwy gydol y broses adeiladu drwy gyfrwng agoriadau a luniwyd yn arbennig yn y to er mwyn sicrhau na fydden nhw’n cael eu haflonyddu. Darllen mwy am ein hystlumod.

yn y parc

Mae llawer o goed aeddfed yn goroesi yn y prif Barcdir, ac ochr yn ochr â’r coed brodorol yn cynnwys yr ywen, y geiriosen wyllt a’r dderwen. Drwy fabwysiadu trefn dorri porfa sy’n garedig i fywyd gwyllt, rydyn ni wedi gwella’r cyfleoedd i flodau gwyllt ffynnu ac roedden ni wrth ein boddau â’r amrywiaeth a welwyd yn sgil y drefn newydd hon yn 2021 – yn cynnwys briallu, llysiau’r wennol, clychau glas, cribellau melyn, effros blodau mawrion, rhwyddlwyni’r mynydd, briwylys y gwrych a nifer o redynnau yn cynnwys y Dryopteris felix-mas a thafod yr hydd yn ogystal â’r pidyn y gog nodweddiadol. Darllen mwy am y Parc. 

Bywyd gwyllt y coetir

Mae’r Coetir ym Mharc yr Esgob yn cynnwys amrywiaeth o goed aeddfed brodorol ac anfrodorol ac mae yno orchudd canopi sydd bron yn gyflawn – y man delfrydol i ymlacio mewn cysgod brith a sylwi ar fywyd gwyllt. Yn 2021, cafodd nifer o focsys adar ac ystlumod newydd eu gosod – a byddwn ni’n monitro eu defnydd drwy gydol y flwyddyn.

Yn ganolog i’n Gardd Goetir newydd mae coeden ffawydd anferth, a dorrwyd i lawr rai blynyddoedd yn ôl wedi iddi ansefydlogi yn sgil effaith ffyngau. Bellach mae’n gartref i sawl math o ffwng diddorol yr hoffem ddysgu mwy amdanyn nhw.

Yn anffodus, yn sgil effaith andwyol gwyw ynn ledled Parc yr Esgob, bu’n rhaid torri ein coed ynn, ond mae’r rhywogaethau brodorol sydd ar ôl yn cynnwys ffawydd, coed derw coesog, coed gwern, coed celyn ochr yn ochr â choed anfrodorol megis coed derw bythwyrdd, castanwydd y meirch ac ambell goeden gonwydd fel y llarwydden Japaneaidd. Rydyn ni hefyd wedi torri rhai o rhywogaethau anfrodorol ymledol o’r isdyfiant, yn cynnwys y rhododendron a choed llawrgeirios a llawrgeirios Portiwgal, er mwyn i ni allu gwerthfawrogi fflora llawr dwysach drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â iorwg, mwsog a rhedyn, yn cynnwys tafod yr hydd a gwrychredyn caled. Darllen mwy am y coetir.

Y Waun fawr

Pan gymeron ni awenau safle’r Waun Fawr nid oedd wedi’i ffermio ar gyfer cadwraeth ac o ganlyniad gellid ei ddisgrifio fel ‘glastir rhywogaethol dlawd’ (doedd yno ddim llawer o flodau gwylltion na mathau gwahanol o weiriau brodorol). Rydyn ni nawr yn newid y modd y mae’r waun yn cael ei rheoli er mwyn sicrhau y gall bywyd gwyllt ffynnu yma, ac yn gyffrous iawn, yn 2021, cawsom gyfraniad o wair gwyrdd o ddolydd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Roedd y gwair yma’n cynnwys hadau gwahanol rywogaethau o flodau gwyllt a ddylai weithio’n dda ar ein gorlifwaun. Croeswn ein bysedd am ddigonedd o fflora ar y Waun Fawr yn 2022! Darllen mwy am y Waun Fawr.

Diolch i Jack o Ysgol Abergwili am y llun hyfryd hwn o beilliwr

Coed Y WAUN FAWR

Mae tair hen goeden dal ar y Waun: pisgwydden dail bach ger y cornel gorllewinol; derwen goesog hynafol ger y canol a chastanwydden y meirch ychydig i’r gogledd-ddwyrain wrth honno. Mae gofod mawr y tu mewn i foncyff yr olaf y gellid ei ddefnyddio’n ymarferol gan y dylluan wen, a gallai’r ddwy olaf fod yn gartref i amrywiaeth o infertebratau a ffyngau.

Ceir coed hefyd ar hyd y ffiniau, ac er nad oes trwch o gloddiau, maen nhw bellach wedi tyfu’n rhesi o goed helyg, masarn, ynn a llwyfenni llydanddail.

bywyd gwyllt yn yr HA-HA

Cyn i’r Ymddiriedolaeth ddechrau ar y safle, roedd canopïau coed yn bargodi’n gysgod dros yr Ha-ha, yn ogystal ag ambell goeden oedd yn tyfu ar y Waun. Roedd ymyl y llinell ganopi’n cael ei ddominyddu gan ddinad cyffredin a ffromlys chwarennog, tra bod y rhan fwyaf o’r ffos ei hun yn dir noeth. Darllen mwy am sut yr ydym yn gwarchod bywyd gwyllt yn yr Ha-ha.  

llysywen ar y waun

Ym mhen dwyreiniol y Waun Fawr, mae cwlfer mawr yn arwain o dan y trac amaethyddol cyfagos sy’n rhedeg oddi yno ar hyd y ffin ddeheuol. Gwelwyd llysywen Ewropeaidd yma yn ystod ein harolwg Ecolegol ym mis Mehefin 2019.

PWLL YR ESGOB

Caiff Pwll yr Esgob, sy’n ystumllyn a glustnodwyd fel Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (ADdGA), ei ystyried fel yr enghraifft gorau o ystumllyn yng ngorllewin Cymru. Mae’n gartref i amrywiaeth o blanhigion ymylol a dyfrol, yn ogystal ag adar dŵr, nadroedd y gwair a dyfrgwn (sy’n bresennol ar hyd y Tywi a’i llednentydd). Cofnodwyd gwâl yn y gorffennol ar ynys Pwll yr Esgob ond dydyn ni ddim wedi gweld rhai’n ddiweddar – ydych chi? Rhowch wybod!

Darllen mwy am fywyd gwyllt Pwll yr Esgob. 

yr ARDD FURIOG

Wedi’i gadael i dyfu’n wyllt am flynyddoedd lawer cyn ymyrraeth yr Ymddiriedolaeth, rydyn ni wrthi’n gwneud popeth posibl i sicrhau fod bywyd gwyllt yn ffynnu yma. Gyda’r muriau cerrig hynafol, strwythurau cerrig palmant a brics/cerrig yn cynnwys hen bwll trochi (ar gyfer llenwi caniau dŵr i ddyfrhau’r llysiau), mae’n bosib fod rhai infertebratau ac amffibiaid dyfrol yn byw yma.

Cofnodwyd brogaod cyffredin, llyffantod cyffredin a rhuddnadroedd yma ddwywaith, yn ogystal â sawl nyth fawr morgrug melyn y ddôl.

Dydyn ni ddim yn siŵr eto os yw’r selar adfeiledig, a arferai fod yn gartref i foeler system wresogi’r tŷ gwydr, yn cael ei ddefnyddio gan ystlumod!

cynllun rheolaeth ecolegol

Fel rhan o adfer y Parc, gwnaethom asesiad o’r bywyd gwyllt sy’n bodoli yma eisoes – gan adnabod cyfleoedd i gyfoethogi’r safle ar gyfer bioamrywiaeth. Casglwyd y canfyddiadau at ei gilydd yn ein Cynllun Rheolaeth Ecolegol 2019 (lawrlwytho pdf), a luniwyd gan Laurence Brooks a Rebecca Bohane o Ecology Planning. Noda ragnodiadau rheoli manwl ar gyfer cynefinoedd presennol a chreu/addasu cynefinoedd arfaethedig o fewn y Parc, y Waun a’r Ardd Furiog.

cymryd rhan!

Rydyn ni’n cynnal teithiau cerdded bywyd gwyllt misol i fonitro newidiadau yn y Parc – gan gofnodi pa adar sydd i’w gweld, newidiadau i’r coed, ac ar y ddaear a’r mathau o fflora a ffawna sydd i’w gweld – o’r blagur cyntaf i ymddangos i’r hyn sy’n nofio ar y pwll. Buasem wrth ein boddau’n croesawu mwy o wirfoddolwyr i helpu gyda hyn – cysylltwch os hoffech gymryd rhan!