GQT gyda ffocws ar fywyd gwyllt
30/09/2026
By Admin2
Mae Parc yr Esgob yn Abergwili, yn cynnal Amser Cwestiynau i Arddwyr yr Hydref, gyda ffocws arbennig ar fywyd gwyllt, ar Hydref 7fed, 6pm, yng Nghegin Stacey, Parc yr Esgob. Bydd y gynulleidfa’n gallu gofyn eu cwestiynau am sut i arddio’n wych mewn ffordd sy’n annog peillwyr, yn creu mosaig o gynefinoedd ac sy’n garedig …
















Cyfrannu
Er mwyn sicrhau rheolaeth a chadwraeth hir dymor ym Mharc yr Esgob, a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn amgylchedd hardd, diogel a chyfoethog ar gyfer ymwelwyr a’r gymuned leol, mae angen eich help arnom.
Gall cyfraniad untro neu fisol wneud gwahaniaeth mawr i’n gwaith ni – gan ein galluogi i barhau i gynnal a chadw ymddangosiad y Parc, cefnogi bywyd gwyllt, croesawu ymwelwyr a’r gymuned leol i ddigwyddiadau arbennig megis Sioe Arddwriaethol Parc yr Esgob, gan ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd addysgiadol ar gyfer gwirfoddolwyr.