enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Gardd Coedtir

Ymlwybrwch drwy’r coed er mwyn cyrraedd ein Gardd Goetir newydd, sydd wedi’i lleoli o fewn powlen naturiol â choeden ffawydd aeddfed wedi’i thorri’n ganolbwynt iddi – y man delfrydol ar gyfer ymarfer eich sgiliau balansio!

Ymlaciwch a mwynhau’r cysgod brith a chân yr adar; mwynhewch y golygfeydd ar draws yr Ha-ha a thros Ddyffryn Tywi.

Yr ardd goetir

Gorwedd ardal Gardd Goetir newydd Parc yr Esgob ar ymyl y prif goetir ac fe’i hagorwyd gyntaf 5 mlynedd yn ol pan fu’n rhaid torri coeden ffawydd aeddfed wedi i ffyngau ei hansefydlogi. Dyma ardal gysgodol, agored a deniadol mewn powlen naturiol, sy’n edrych allan ar draws yr Ha-ha a’r orlifwaun lle gall ymwelwyr eistedd a mwynhau’r plannu gyda Dyffryn Tywi’n gefndir i’r cyfan a mwynhau buddion llesol bod mewn coetir.

Mae llwyni addurnol, coed bychain a bylbiau blodau’r gwanwyn yn ogystal â’r bocsys adar ac ystlumod newydd yn cyfoethogi’r fflora a’r ffawna brodorol ac o fudd i fywyd gwyllt y coetir yma.

FFLORA’R coetir

Mae coetir Parc yr Esgob yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau brodorol ac anfrodorol o goed mawr aeddfed gan ffurfio gorchudd canopi sydd fwy neu lai’n gyflawn – y man delfrydol ar gyfer ymdrochi mewn coetir! A man perffaith ar gyfer bywyd gwyllt hefyd. Yn anffodus, yn sgil effaith andwyol gwyw ynn, mae pob coeden onnen ledled y Parc wedi gorfod cael eu cwympo. Ymysg y rhywogaethau brodorol bellach mae’r ffawydd, y dderwen goesog, y wernen, y gelynnen ac ymysg yr anfrodorol mae’r dderwen fythwyrdd, castanwydden y meirch ac ambell gonwydden megis y llarwydd Japaneaidd.

Rheoli’r coetir ar gyfer bywyd gwyllt

Rydyn ni wedi tynnu ychydig o’r rhywogaethau brodorol ymledol o rododendron a choed lawrgeirios a llawrgeirios Portiwgal o’r isdyfiant am fod y cysgod trwm yr oedden nhw’n ei greu’n effeithio’n ddrwg ar y fflora llawr brodorol. Yn yr ardaloedd hynny lle cliriwyd llwyni ymledol yn y gorffennol, gallwn weld fflora llawr dwysach o lawer yn cynnwys blodau’r gwanwyn megis clychau glas, blodau’r gwynt, yn ogystal â llau’r offeiriad, llysiau Steffan, blodau neidr, hesg pendrwm, codwarth coediog, a rhywogaethau cynefinol tal yn cynnwys dinad cyffredin, marchysgall, ysgall y maes a helyglysg pêr. Gellir gweld iorwg, mwsogl a rhedyn, yn cynnwys tafod yr hydd a rhedyn gwrychredyn caled yma hefyd yn ogystal ag ychydig coedfrwyn blewog a briallu.

Ar ymylon y coetir

Ar ymyl orllewinol y coetir mae’r canopi’n fwy agored, gyda chysgod llai dwys a llai o orchudd llwyni ymledol ac mae amrywiaeth y fflora llawr yn adlewyrchu hynny. Yma gallwch weld gweiriau cwrs cyffredin megis maswellt penwyn, maeswellt rhedegog a throed y ceiliog yn ogystal â dinad cyffredin, dail tafol, llwyni mieri gwasgarog a blodau gwyllt y coetir yn cynnwys y goesgoch, mapgoll, blodau neidr, llygad doli, gorthyfail a rhai clychau glas. Ymysg y llwyni mae llusern eira, rhododendron a chyrens duon gwyllt gydag ychydig aildyfiant llawryf ac eginblanhigion coed brodorol.

Ym mhen dwyreiniol eithaf y safle mae coetir llydanddail lled-naturiol wedi goroesi yn cynnwys y dderwen goesog, masarnen a draenen wen. Mae’r isdyfiant yn weddol drwchus ac yn cynnwys mieri gyda choesgoch a blodau neidr. Mae’r ardal yma’n debygol o gynnwys casgliad gwell o infertebratau, ac mae adar yn fwy cyffredin o lawer yma – gyda chyfleoedd nythu lawer gwell o fewn yr haen ddaear fierog/brysgog yn ogystal â chanopi’r coed. Rydyn ni wedi gweld ambell ddryw, robin, llinos werdd, ysguthan, mwyalch a llwyd y gwrych yma. Beth welwch chi?