enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Tag: madarch

Gwylio Bywyd Gwyllt: Rhagfyr 2021

Louise, Ffiona a ? ar 20/12/21 Roedd yn ddiwrnod oer, mwll ar ddiwedd Rhagfyr. Sylwom ar fylbiau’n dechrau torri drwy’r pridd yng Ngardd Jenkinson – arwydd da fod y Gwanwyn ar droed. Heddiw roedd rhosyn dringo newydd gael ei blannu yn erbyn y pergola – mae’r gwaith plannu yng Ngardd Jenkinson bron yn gyflawn! Sylwon ni …

Bywyd Gwyllt

Mae gwarchod a chyfoethogi cyfleoedd i fflora a ffawna allu ffynnu’n ganolog i’n holl waith ym Mharc yr Esgob. Mae ein hadeiladau a’n parcdir yn gartref i gymaint o wahanol rywogaethau – a thrwy gyfrwng ein gwaith rydyn ni’n monitro’r hyn sydd gyda ni a sut y maen nhw’n gwneud eu cartref ar y safle, gan nodi unrhyw newidiadau yn ystod y tymhorau, a chynnig y cyfleoedd gorau iddyn nhw allu ffynnu. O ddyfrgwn i ystlumod, rhuddnadroedd i lyswennod, elyrch a gleision y dorlan – mae darganfod pwy sy’n byw yn y Parc yn hudol!