Cyfleoedd Gwirfoddoli
20/05/2024
By Ffiona Jones
Mae gennym gyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr i’n helpu gydag ein teithiau tywysedig dros fisoedd yr haf. Os oes gennych ddiddordeb yn hanes y safle ac yr ydych yn gallu rhoi awr neu ddau o’ch amser naill ai yn yr wythnos, gyda’r hwyr neu ar benwythnosau, cysylltwch â FfionaJones@tywigateway.org.uk am fwy o fanylion. Bydd hyfforddiant llawn …
Posted: 20/04/2023 by Ffiona Jones
Teithiau Misol i Nodi Bywyd Gwyllt
Ebrill 2024 Taith Nodi Bywyd Gwyllt, 16 Ebrill 2024 Dechreuwyd am 2.10yp, gorffennwyd am 3.15yp. Un gwirfoddolwr yn bresennol. Roedd hi’n brynhawn braf, gydag awel dwym yn yr haul, ond yn oerach yn y cysgod. Dilynwyd yr un llwybr ag arfer o amgylch y parc, gan ddechrau a gorffen wrth y dderbynfa. Gardd Jenkinson …
Posted: 25/01/2023 by Ffiona Jones
Taith Nodi Bywyd Gwyllt Ionawr 2023
Taith Nodi Bwyd Gwyllt Ionawr – 17/01/2023 Fe ymunodd rhyw 6 neu 7 aelod o’r cyhoedd gyda ni ar gyfer taith mis Ionawr. Yn anffodus, doedd ddim arbenigwr adar yn ein plith, felly ni lwyddwyd adnabod llawer o’r adar a glywyd yn hytrach na’i gweld. Er hynny, fe wnaethom weld nifer o rywogaethau adar ar …
Posted: 10/01/2023 by Ffiona Jones
Taith Nodi Bywyd Gwyllt Rhagfyr 2022
Taith Nodi Bywyd Gwyllt 20fed Rhagfyr 2022 Roedd taith mis Rhagfyr yn un eithaf byr oherwydd cyfyngiadau amser wrth i’r Nadolig agosáu. Er hyn ni rwystrodd hyn y nifer o rywogaethau o adar a chlywyd a gwelwyd wrth gerdded o amgylch y Parc. Wrth i ni adael Gardd Jenkinson, lle’r oedd y bylbiau’r gwanwyn yn …
Posted: 30/11/2022 by Ffiona Jones
Hydref 2022
Taith Nodi Bywyd Gwyllt Parc Yr Esgob – Hydref 18fed 2022 Presennol: Ffiona a 3 o’n gwirfoddolwyr Gardd Jenkins – rhan fwyaf o’r blodau yn gwywo a marw nôl ond nifer fawr o wenyn dal o amgylch. Wrth gerdded lawr y llwybr gogleddol, sylwyd ar ffwng yn tyfu ar hen foncyff sy’n pydru yn …
Posted: 24/06/2022 by Ffiona Jones
Taith Gerdded Bywyd Gwyllt – 21ain Mehefin 2022
Taith Gerdded Bywyd Gwyllt – 21ain Mehefin 2022, 2.00yp Arweiniwyd yr 8 person a ddaeth i’r daith gan Max Pulford. Roedd hi’n ddiwrnod crasboeth, hirddydd haf, gyda thymheredd o 27⁰C gyda gwyntoedd ysgafn, a ddaeth a’r nifer mwyaf allan ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn. Wrth i ni gerdded trwy Ardd Jenkinson, roedd nifer fawr o …
Posted: 05/04/2022 by Caroline Welch
Gwylio Bywyd Gwyllt – Mawrth 2022
Posted: 15/02/2022 by Caroline Welch
Gwylio Bywyd Gwyllt – Chwefror 2022
15 Chwefror 2022, 2-3.30pm. Gyda Caroline, Suzie, Huw, Max, Ruth, a Malcolm Diwrnod llwyd arall i’n sesiwn Chwefror – ond braf oedd cael cymaint o naturiaethwyr arbenigol yma yn y Parc heddiw! Yn ymuno â ni roedd Huw, sy’n lleol, yn wirfoddolwr garddio ac yn frwd dros fywyd gwyllt, Ruth a Malcolm, gyda chefndir ecolegol, …
Posted: 22/12/2021 by Caroline Welch
Gwylio Bywyd Gwyllt: Rhagfyr 2021
Louise, Ffiona a ? ar 20/12/21 Roedd yn ddiwrnod oer, mwll ar ddiwedd Rhagfyr. Sylwom ar fylbiau’n dechrau torri drwy’r pridd yng Ngardd Jenkinson – arwydd da fod y Gwanwyn ar droed. Heddiw roedd rhosyn dringo newydd gael ei blannu yn erbyn y pergola – mae’r gwaith plannu yng Ngardd Jenkinson bron yn gyflawn! Sylwon ni …
Posted: 16/12/2021 by Caroline Welch
Coed yn y Parc
Er bod esgobion wedi mynd a dod, mae’r coed a blannwyd ganddyn nhw’n parhau hyd heddiw. Plannwyd rhai gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Ym Mharc yr Esgob mae gennym nifer o enghreifftiau ardderchog o goed aeddfed. Mae’r mwyafrif yn y parcdir lle gall ymwelwyr eu mwynhau yn ystod bob tymor. Ar ymyl Gardd Jenkinson gallwch …
Posted: 02/12/2021 by Caroline Welch
Ystlumod Parc yr Esgob
Mae cyfanswm o chwe rhywogaeth o ystlumod wedi eu cofnodi ym Mharc yr Esgob yn cynnwys ystlumod lleiaf a soprano, ystlumod hirglust, ystlumod Natterer, ystlumod mawr a’r ystlum pedol mawr prin ac arbennig. Rydyn ni wrth ein boddau fod y creaduriaid arbennig yma wedi ymgartrefu yma ym Mharc yr Esgob ac yn ffynnu yma. Mae’r ystlumod pedol mawr a gofnodwyd …