Taith Gerdded Bywyd Gwyllt – 21ain Mehefin 2022

Taith Gerdded Bywyd Gwyllt – 21ain Mehefin 2022, 2.00yp

Arweiniwyd yr 8 person a ddaeth i’r daith gan Max Pulford. Roedd hi’n ddiwrnod crasboeth, hirddydd haf, gyda thymheredd o 27⁰C gyda gwyntoedd ysgafn, a ddaeth a’r nifer mwyaf allan ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn. Wrth i ni gerdded trwy Ardd Jenkinson, roedd nifer fawr o wenyn (mêl, hofran, cachgi bŵm a chardwenyn) a chlêr hofran yn casglu paill. Roedd y Blanwydden Llundain hynafol yn cael cwymp dail mis Mehefin – dydyn ddim yn siŵr os mae hyn oherwydd y tywydd twyn, diffyg glaw yn ddiweddar neu os yw’n rhywbeth sy’n digwydd, ond roedd y nyth gwenyn gwyllt yn weithgar iawn o fewn gau yn y boncyff chwith. Clywyd bronfraith yn canu ac yna glywyd cân telor penddu gwrw gan y grŵp tra oeddent yn edrych ar hesgen bendrwm wrth ochr coedir llaith. Mae hesg yn rhwydd adnabod gan fod ymyl i’w coesau. Roedd rhosyn gwyllt yn ei flodyn, a blodau neidr yn gyfagos, yn ogystal â’r planhigion coedir arferol, gan gynnwys eurinllys trydwll, hocys a briwlys y gwrych. Roedd u’n o’r grŵp yn gyn-feddyg coed, ac fe wnaeth ein difyrru gyda ffeithiau diddorol am y coed.

 

Wrth Bwll Yr Esgob (sy’n isel iawn ar hyn o bryd), fe welwyd dwy hwyaden wyllt a chrëyr glas rhwng y mat lili’r dŵr melyn, sy’n dechrau blodeuo. Gwelwyd pryfed mursen glas yn gwibio ar draws y dŵr. Clywyd dryw a ji-binc ac fe welwyd jac-y-do, ond yr uchafbwynt oedd gweld pâr o wybed gyda bwyd yn eu pigau a oedd yn awgrymu fod nyth a chywion ganddynt yn agos. Gobeithiwyd gweld neidr defaid yn yr ardd furiog, ond roedd hi hyd yn oed rhy boeth i hwythau. Mwynhawyd hufen iâ ar ddiwedd y dydd ac, er ni welwyd nifer mawr o adar, cafwyd dro diddorol a hyfryd gan bawb. Bydd y daith nesaf ar ddydd Mawrth 19eg o Orffennaf.

Max Pulford