enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Adnoddau Dysgu

Rydym wrthi yn datblygu ystod o adnoddau dysgu wedi eu selio o amgylch ein 5 thema yma yn y Parc, sef: Ymdeimlad o Le, Parc Trwy Amser, Archwilio’r Tirwedd, Bwyd i Feddwl, Achub yr Amgylchedd. Bydd y rhain yn clymu i mewn gyda’r 6 Ardal Dysgu yn y Cwricwlwm i Gymru. Gallant gael eu haddasu ar gyfer ystod o oedrannau a lefelau.

Mae ein pecyn dysgu cyntaf wedi ei selio o amgylch y coed yma ym Mharc Yr Esgob. Mae’n cynnwys ystod o weithgareddau draws-gwriciwlar, gydag adnoddau a gellir eu hargraffu ar gyfer cynnal y dysgu. Mae’r pecyn yn dod a gweithgareddau gan sefydliadau eraill yr ydym yn gweithio’n agos gyda, yng nghyd a rhai sydd wedi eu datblygu yn benodol ar gyfer y Parc. Mae blas o’r adnoddau a’r gweithgareddau ar gael isod. Gall y pecyn cyflawn cael ei archebu drwy e-bost ac y mae copi caled ar gael i logi o’r Dderbynfa pan fyddwch yn ymweld â’r Parc.

Gallwch lawrlwytho copi o’r pecyn dysgu mewn ffurf folder zip gan glicio’r ddolen yma.

Os hoffech brynu’r pecyn cyflawn, ein hadnoddau eraill neu os hoffech drafod datblygu adnoddau wedi eu haddasu ar gyfer eich thema, cysylltwch drwy e-bost a’n Swyddog Ymgysylltu Cymunedol a Dysgu – FfionaJones@tywigateway.org.uk

 

Yn 2021 cynhyrchwyd ffilm am y Parc ar gyfer plant oed cynradd:

Mae adnoddau dysgu pellach yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.