Pwll yr Esgob
Sylwch ar y bywyd gwyllt o gwmpas Pwll yr Esgob sy’n cynnwys popeth o bysgod i blanhigion y gwlypdir yn ogystal ag anifeiliaid prin megis dyfrgwn. Mae i’r lle statws ADdGA – a hanes hynod ddifyr hefyd.
Roedd yr Afon Tywi rymus yn arfer llifo dros y fan hon tan 1802 pan orlifodd yr afon a thorri’r glannau, gan droi’r rhan hon o’r afon yn ystumllyn!
Ystumllyn 5.5 hectar o faint yw Pwll yr Esgob a glustnodwyd yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (ADdGA), a’i hanner ar ein safle ni. Caiff ei ystyried fel yr enghraifft gorau o ystumllyn yng ngorllewin Cymru ac mae’n nodedig am felyswellt y gamlas ar y cyrion, gyda’i hesgen chwysigennaidd, cleddlys canghennog a rhywogaethau nodedig iawn yn cynnwys berwr melyn gogleddol, graban teiran, cleddlys bach, cleddlys di-gainc a llafnlys tafod y neidr. Mae lilïau dŵr melyn yn gorchuddio’r dŵr agored, ac ymysg y rhywogaethau eraill sydd i’w gweld mae’r dinboeth a llysiau’r-milwr coch.
Cyfyngwyd rhywfaint ar y llystyfiant islaw gan ganopi’r coed/llwyni uwchben oedd wedi ymledu dros y degawdau diwethaf gan greu mwy o gysgod ar hyd ffiniau gogleddol y pwll. Mae hwn bellach yn cael ei dorri yn ôl, gan leihau lefel y cysgod a rhoi hwb i’r bywyd gwyllt yno – a helpu i gynyddu’r gorchudd o lystyfiant ymylol y cynlluniwyd y safle ar ei gyfer.
Dyfrgwn
Mae dyfrgwn i’w gweld ar hyd yr Afon Tywi a’i llednentydd a chofnodwyd gwâl ar ynys Pwll yr Esgob yn y gorffennol, gyda thystiolaeth ar hyd ffos ffin y de. Yn ystod haf 2019 pan wnaeth ein Hecolegwyr arolwg o’r safle, cofnodwyd olion dyfrgwn yn croesi ffos ffin y de yn y fan lle mae’n ymuno â Phwll yr Esgob ger y cwlfer cerrig – ond doedden nhw ddim i’w gweld yn unman arall ar y safle. Mae’n debygol fod dyfrgwn yn bresennol drwy gydol y flwyddyn ond eu bod ond yn defnyddio ffosydd pan fydd lefel y dŵr yn uchel yn ystod y gaeaf.
Beth arall sy’n byw ym mhwll yr esgob?
Mae nadroedd y gwair yn debygol o fod yn bresennol ar ymyl y Waun Fawr a Phwll yr Esgob, ac mae gleision y dorlan yn byw yma hefyd – yn ogystal â’r alarch dof, yr hwyaden wyllt, y gwtiar, yr iâr ddŵr a’r trochydd. Mae’r Pwll hefyd yn gartref i amrywiaeth o bysgod, ac mae modd gweld pâr o grehyrod gleision yn pysgota yn y pen deheuol.