Yr Ha-Ha
Beth yw’r Ha-ha? Mewn gwirionedd, un o nodweddion ffurfiol y dirwedd yw’r Ha-ha, a ddefnyddiwyd tipyn yn ystod y 18fed ganrif, sy’n cynnwys wal deras a ffos hir. Rhed Ha-ha Parc yr Esgob rhwng y Parc a’r Waun Fawr – a dyma un o’r hiraf yn y DU. Drwy gadw’r anifeiliaid sy’n pori allan ond heb amharu ar yr olygfa, mae’r Ha-ha’n gwneud i dirwedd y dyffryn ymddangos fel rhan o’r ardd.
Daw’r enw o’r sŵn o syndod a wneir wrth i bobl sylweddoli fod y wal a’r ffos fel rhyw fath o ffens anweledig – ah-hah!
Cymerwch ofal rhag mynd yn rhy agos!
bywyd gwyllt yn yr HA-HA
Cyn i’r Ymddiriedolaeth ddechrau ar y safle, roedd canopïau coed yn bargodi’n gysgod dros yr Ha-ha, yn ogystal ag ambell goeden oedd yn tyfu ar y Waun. Roedd ymyl y llinell ganopi’n cael ei ddominyddu gan ddinad cyffredin a ffromlys chwarennog, tra bod y rhan fwyaf o’r ffos ei hun yn dir noeth.
Coed ynn oedd yn dioddef o wyw ynn oedd cyfran helaeth o’r coed oedd yn bargodi a chysgodi ffos yr Ha-ha. Ymysg y coed chwyn eraill roedd y ddraenen wen, y rhododendron a choed masarn a dorrwyd yn ystod 2019 er mwyn agor y golygfeydd ar draws Dyffryn Tywi a galluogi trwsio wal gerrig yr Ha-ha.
Goroesodd fflora gweddol drwchus ac amrywiol yn yr un rhan ddigysgod o ffos yr Ha-ha oedd ar ôl – ar hyd ochr yr Ardd Furiog. Yn eu mysg roedd cyrs pendrwm pefrwellt yr adar, melyswellt mawr, y dinboeth, llysiau’r sipsiwrn, mintys y dŵr, sgorpionllys y dŵr, dyfrforon swp-flodeuog ac ychydig erwain a graban gogwydd.
Yn 2020, symudwyd mwd a deunydd planhigion o’r rhan hon o’r ffos a’u hadleoli ar hyd rhan flaenorol noeth yr Ha-ha. Mae hyn wedi arwain at ymlediad yr amrywiaeth helaeth o blanhigion gwlypdir diddorol yma.
Cyfyngwyd ar gynefin llygod y dŵr i’r rhan fechan hon o ffos ddigysgod ar hyd godre’r Ardd Furiog gydag ambell dwll yn y gwaith cerrig a allai fod yn addas i’w defnyddio. Yn 2019, cofnodwyd ambell lwybr a ddefnyddiwyd gan lygod y dŵr ac olion bwydo yn ystod archwiliad manwl ar y 24ain Gorffennaf ond ni welwyd unrhyw eudai na nythod. Cynhaliwyd archwiliad pellach ar y 9fed Medi 2019 gan gadarnhau nad oedd unrhyw lygod y dŵr yn bresennol. Ydyn nhw wedi cyrraedd bellach wedi i ni glirio’r coed a’r llwyni bargodol? Buasem wrth ein boddau’n cael gwybod!!