Dysgu
Lle arbennig, diogel, hygyrch agored a gwyrdd yw Parc yr Esgob gyda thros 800 mlynedd o hanes yn gysylltiedig â ffydd, diwylliant, cymuned, gerddi a thyfu, yn ogystal â bywyd gwyllt anhygoel.
Cynigia gyfoeth o gyfleoedd dysgu ar gyfer ymwelwyr o bob oed a gallu, boed yn gysylltiedig â chwricwlwm ysgolion, dysgu yn y cartref, dysgu gydol oes, sgiliau ymarferol neu anffurfiol drwy weithgareddau a digwyddiadau.
ein hadnoddau dysgu
Drwy weithio ar y cyd ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin mae’r Ymddiriedolaeth yn datblygu adnoddau dysgu ar gyfer ymwelwyr â Pharc yr Esgob ar sail 5 thema allweddol:-
- synnwyr o ofod. Cyn balas Esgobion Tyddewi oedd unwaith yn ganolfan ysbrydolrwydd, y celfyddydau a’r iaith Gymraeg – er mwyn ysbrydoli dyfodol newydd
- parc drwy’r oesoedd. Gardd bleser breifat a gafodd ei hadfer ar sail ei chynllun 19eg ganrif – ar gyfer deall newidiadau’r gorffennol a meithrin dyfodol dan arweiniad y gymuned
- ffrwyth meddwl. Yr ardd gegin furiog a’i hatogfion o foethusrwydd bwrdd yr Egob yn y gorffennol – er mwyn hyrwyddo hunan-ddibyniaeth ac arloesedd garddwriaethol
- amddiffyn yr amgylchedd. Y Waun Fawr a Phwll yr Esgob ar y cyd sy’n arbennig o arwyddocaol o safbwynt ecolegol – er mwyn ymgysylltu â materion cynaliadwyedd cyfoes
- archwilio’r dirwedd. Cysylltiadau corfforol a gweledol o fewn Dyffryn Tywi a thu hwnt – er mwyn sefydlu cysylltiadau a rhwydweithiau rhwng llefydd a phobl.
Ysgolion ac addysgwyr cartref
Ymweliadau tywys
Ymweliadau hunan dywys
Wrth i adnoddau dysgu newydd gael eu creu i gefnogi a hybu’r defnydd o Barc yr Esgob fel ystafell ddosbarth awyr agored, byddwn ni’n sicrhau eu bod ar gael yma.
Am wybodaeth bellach neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â enquiries@tywigateway.org.uk
hyfforddiant a gweithdai
Fel rhan o raglen ddigwyddiadau a gweithgareddau Parc yr Esgob, ceir amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithdai ar gyfer bob oed. Mae’r rhain yn cynnwys gweithdai teuluol hwyliog yn ogystal â rhai sgiliau ymarferol mwy difrifol.
Edrychwch i weld Beth sy’n digwydd.
A chofiwch y gallwch wirfoddoli er mwyn helpu i ofalu am Barc yr Esgob, cyfarfod â phobl newydd, cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a datblygu gwybodaeth a sgiliau newydd.