Ynghylch a’r Adferiad
Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio i amddiffyn, adfer a rheoli’n gadarnhaol yr holl bethau sy’n gwneud y lle yma yn mor arbennig, gyda’r gymuned leol yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Mae Parc Yr Esgob yn safle poblogaidd iawn ac yn safle o ddiddordeb hanesyddol, diwylliannol a garddwriaethol eithriadol
Yn wreiddiol, yn dir Palas Esgobion Tyddewi, mae’r hafan heddychlon yma yn gartref i nifer o rywogaethau o fywyd gwyllt prin a gwarchodedig. Ers 2018 yr ydym wedi bod yn dod ag ef yn ôl yn fyw trwy osod llwybrau, seddu ac ardaloedd gerddi newydd, yn adfer ei golygfeydd prydferth ac amlhau i’r eithaf cyfleodd ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae’r gwaith wedi cael ei gefnogi gan Gronfa Treftadaeth Y Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Llywodraeth Cymru, yng nghyd a nifer o arianwyr eraill https://parcyresgob.org.uk/cy/home/our-supporters/
Wedi eu hadeiladu yn yr 1830’au, mae adeiladau allanol Hen Balas Yr Esgobion, sydd nawr wedi eu hadfer a’u trawsffurfio, yn wreiddiol yn olchdy, llaethdy a’n fragdy, lle’r oedd gweision a morynion tŷ’r Esgob yn gweithio. Mae’r rhain nawr yn darparu caffi, toiledau a gofod dysgu, lle fedrith ymwelwyr o bob oed archwilio treftadaeth, garddwriaeth a bioamrywiaeth y lle arbennig yma.
Bydd y gwaith yma yn helpu i gynnal y Parc yn yr hir dymor, er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau
Rydym yn creu adnodd a fydd o fudd i’r gymuned gyfan gyda lles yn wraidd iddo – lle i fwyhau, i ddysgu, i gymdeithasu ac i gysylltu â hanes, diwylliant, garddio a bywyd gwyllt.
Ac mae wastad mwy i wneud.
Ym mis Mehefin 2023, gwobrwywyd yr Ymddiriedolaeth a mwy nag £200,000 gan Gronfa Treftadaeth Y Loteri Genedlaethol fel rhan o’r ariannu am gyfnod datblygu adferiad yr ardd cegin furiog. Mae Prosiect Gardd Furiog Parc YR Esgob wedi derbyn £137,000 o Lywodraeth Y DU trwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin fel rhan o Gronfa Gymunedol Gynaliadwy.
Mae’r cyfnod nesaf o’r adferiad newydd ddechrau.
Fel rhan o’r cyfnod datblygu 15 mis cychwynnol, bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda grwpiau a mudiadau lleol i roi cynlluniau manwl at ei gilydd ar gyfer adferiad y tri thŷ gwydr hanesyddol, creadigaeth gardd addysgiadol gwbl hygyrch a gofod berfformio ymhlith y coed ffrwythau treftadol o fewn yr ardd furiog. Amcan y prosiect yn gyffredinol yw hybu amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith y gwirfoddolwyr a’r ymwelwyr i Barc Yr Esgob.
Wrth ein cefnogi https://parcyresgob.org.uk/cy/support-us/ fedrwch helpu i sicrhau bod gan bawb y cyfle i ddarganfod y lle arbennig yma nawr ac am genhedloedd i ddod – i fwynhau’r llonyddwch ac i’w hysbrydoli i gymryd rhan.