enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Tag: garddwriaeth

Garddwriaeth

Mae garddwriaeth yn elfen allweddol o’n treftadaeth yma ym Mharc yr Esgob, ac yn rhan fawr o’r gwaith adfer parhaus. Drwy ddatgelu gorffennol garddwriaethol y safle, ein bwriad yw deall sut y gall dulliau a thechnegau hanesyddol y gorffennol gael eu defnyddio i lywio dyfodol mwy cynaliadwy, ar gyfer pobl a bywyd gwyllt sy’n rhannu’r lle unigryw ac arbennig yma.

Crwydro o gwmpas y Parc

Gyda gerddi newydd prydferth, parcdir a choetir hanesyddol, ystumllyn cyfoethog mewn bywyd gwyllt a gorlifwaun ardderchog i’w harchwilio – mae cymaint mwy i’w ddarganfod ym Mharc yr Esgob. Ymlaciwch yn Y Caffi, ymgysylltwch ag 800 mlynedd o hanes yn ein canolfan ddysgu, neu ewch ar daith o gwmpas yr Ardd Furiog gyfrinachol â’i pherllan treftadaeth.