enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Aelodaeth

Dod yn aelod Oes gennych ddiddordeb mewn safleoedd hanesyddol, gerddi, bywyd gwyllt neu gadwraeth? Neu, a ydych wrth eich bodd i gael y cyfle i fod allan yn yr awyr agored a mynd am dro? Efallai eich bod am ein helpu ni i achub y darn anhygoel hwn o’n hanes a threftadaeth leol er mwyn …

Y Caffi

Cegin Stacey’s Kitchen Mae’r caffi ar agor rhwng 9 o’r gloch y bore a 5 o’r gloch y prynhawn, 7 diwrnod yr wythnos (fel arfer). Cwmni lleol o Abergwili yw Stacey’s Kitchen ac y maent yn darparu cinio ysgafn, cacennau, te, coffi ayb. Maent yn cynnig Byrddau Pori a The Prynhawn, ond rhaid eu harchebu …

Bywyd Gwyllt

Mae gwarchod a chyfoethogi cyfleoedd i fflora a ffawna allu ffynnu’n ganolog i’n holl waith ym Mharc yr Esgob. Mae ein hadeiladau a’n parcdir yn gartref i gymaint o wahanol rywogaethau – a thrwy gyfrwng ein gwaith rydyn ni’n monitro’r hyn sydd gyda ni a sut y maen nhw’n gwneud eu cartref ar y safle, gan nodi unrhyw newidiadau yn ystod y tymhorau, a chynnig y cyfleoedd gorau iddyn nhw allu ffynnu. O ddyfrgwn i ystlumod, rhuddnadroedd i lyswennod, elyrch a gleision y dorlan – mae darganfod pwy sy’n byw yn y Parc yn hudol!

Hanes

Mae Parc a Gerddi’r Esgob yn gyforiog o hanes. O’r coed hynafol sydd wedi bod yn cadw llygad ar bopeth yma ers canrifoedd, i’r Ardd Furiog sydd wedi darparu bwydydd egsotig a blodau ar gyfer bwrdd yr Esgob i’r ystumllyn a thirwedd gyfnewidiol gorlifdir Dyffryn Tywi, i Balas canoloesol yr Esgob y mae’r Parc yn ei gwmpasu a’r bobl fu’n byw ac yn gweithio yma.

Garddwriaeth

Mae garddwriaeth yn elfen allweddol o’n treftadaeth yma ym Mharc yr Esgob, ac yn rhan fawr o’r gwaith adfer parhaus. Drwy ddatgelu gorffennol garddwriaethol y safle, ein bwriad yw deall sut y gall dulliau a thechnegau hanesyddol y gorffennol gael eu defnyddio i lywio dyfodol mwy cynaliadwy, ar gyfer pobl a bywyd gwyllt sy’n rhannu’r lle unigryw ac arbennig yma.