Gwirfoddolwr garddio
“Rwy’n yn gwirfoddoli yn y parc ers mis Gorffennaf 2025
“Roeddwn i’n gyrru heibio’r Parc ar fy nhaith ddyddiol i’r gwaith yng Nghaerfyrddin am flynyddoedd lawer, ac yn galw heibio weithiau. Roedd yr awyrgylch heddychlon yma bob amser yn gwneud argraff arna i, yr ymdeimlad o hanes a harddwch yr adeiladau, y coed a’r golygfeydd. Roeddwn i bob amser yn meddwl ei fod yn lle arbennig – unigryw.
Yn fuan ar ôl ymddeol o waith llawn amser, fe wnes i daro i mewn i Yvonne, y Prif Arddwr Cynorthwyol ar daith feic i’r Parc, a dechrau siarad am ei gwaith yno a’r cynlluniau ar gyfer datblygu’r ardd. Rhoddodd hynny’r syniad o wirfoddoli i mi – mae’n rhywbeth rydw i eisiau bod yn rhan ohono.
Beth ydych chi’n ei fwynhau yn eich rôl wirfoddoli a pham?
“Llawer! Treulio amser o safon mewn amgylchedd hardd a heddychlon iawn.
Cwrdd â phobl newydd, sydd i gyd yn wych.
Cael awyr iach ac ymarfer corff.
Dysgu llawer yng nghwmni garddwyr arbenigol.
Gobeithio rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a gwneud ychydig i helpu i gynnal
a datblygu’r lle gwych hwn ymhellach.
“Rwyf hefyd yn hoffi gweld ac weithiau siarad â’r nifer o bobl sy’n ymweld â’r Parc, ac yn enwedig eu cŵn! Mae pawb sy’n mynd yno yn hapus.
“Rwy’n filfeddyg, wedi ymddeol yn ddiweddar o waith llawn amser. Rwyf wedi bod yn ffodus fy mod wedi cael gyrfa amrywiol a chyffrous , ac wedi gweithio mewn rhai rhannau diddorol o’r byd. Yn fwyaf diweddar yng Ngorllewin Cymru.
Rwyf bob amser wedi bod yn ymwneud â garddio – o helpu neiniau a theidiau pan oeddwn yn blentyn nes, erbyn hyn – heb baratoi’n iawn – gyda llain fawr fy hun. Mae fy ngarddio wedi bod yn bennaf yn dysgu o gamgymeriadau, a dyna pam mae gweld sut y dylid ei wneud, yn y Parc, mor bleserus.”

Straeon Gwirfoddolwyr – Gavin Watkins
Posted: 10/06/2026 by Anne

Category: Newyddion Diweddaraf