Swyddi Gwag – 3 x Lleoliad Hyfforddiant Garddwriaethol â Thâl
14/07/2026
By Admin2
14-16 awr yr wythnos am 16 wythnos (oriau hyblyg trwy gytundeb) £177.94-£203.36 yr wythnos Manylion: 260707.Cym.HorticulturalTraineesRD.PyE2 Anfonwch e-bost at teresawalters@tywigateway.org.uk erbyn dydd Mercher 19eg Awst, yn esbonio pam yr hoffech weithio gyda ni a sut mae eich profiad a’ch diddordebau’n cyd-fynd â’r rhinweddau a amlinellir yn y Manyleb Person, gan roi rhai enghreifftiau. Cynhelir cyfweliadau ar y 9fed …
















Straeon Gwirfoddolwyr – Nigel Bailey
Posted: 10/06/2026 by Anne
“Gwirfoddolwr garddio ac, yn fwy diweddar, gwneud model o’r tai gwydr fel yr
oeddent yn oes Fictoria
“Rwy’n gwirfoddoli yn y parc ers dechrau’r prosiect, gan helpu i ddechrau gyda’r archaeoleg yn yr Ardd Furiog
“Roeddwn i wedi gwirfoddoli o’r blaen ar brosiect arall gyda’r Rheolwr Prosiect felly fe’i
“dilynais” hi i’r un hwn.
“Roeddwn i’n awyddus i helpu gyda phrosiect Treftadaeth gwerth chweil, yn weddol agos at ble rwy’n byw.
“Ym Mharc yr Esgob, rydw i wedi gallu gweithio ar nifer o brosiectau sylweddol fel
adeiladu wal gerrig sych, gwella mynediad i’r Ardd Furiog, ac amrywiol swyddi
yn cynnal a chadw waliau, ffensys a llwybrau. Mae’n foddhaol gweld y gwelliannau hyn
yn gwella’r parc.
“Rydw i’n ddarlithydd Coleg wedi ymddeol sydd â diddordeb brwd mewn Treftadaeth.”
Category: Newyddion Diweddaraf