enquiries@tywigateway.org.uk Parc a Gerddi yr Esgob, Abergwili, Sir Caerfyrddin SA31 2JG

Y Parc

Adferwyd a chyfoethogwyd Parcdir Parc yr Esgob i’w wneud yn lle hardd i ymlacio a hamddena gyda ffrindiau a theulu. Mae ein coed sbesimen mawr yn hynod drawiadol; ymysg rhain mae pinwydd Chile, planwydd Llundain, cochwydd collddail Tsieineaidd a phisgwydd.

Dewch am bicnic gyda ffrindiau a theulu, ewch am dro o gwmpas y lle a mwynhau’r lawntydd ffurfiol a’r dolydd blodau gwyllt neu eisteddwch ac edmygu’r golygfeydd a’r bywyd gwyllt sydd yma.

bywyd gwyllt yn y parc

Yn y prif barcdir rydyn ni wedi gwella’r cyfleoedd i flodau gwyllt ffynnu ac wrth ein boddau â’r amrywiaeth o blanhigion a ddaeth i’r golwg yn sgil y trefniant torri gwair newydd yn 2021 – yn cynnwys briallu, llysiau’r wennol, clychau glas, cribellau melyn, effros blodau mawr, rhwyddlwyni, briwlys y gwrych a sawl math o redyn yn cynnwys Dryopteris felix-mas a thafod yr hydd yn ogystal â phidyn y gog.

Yn ogystal â’r coed brodorol yn y prif Barc (ywen, ceirios gwyllt a derw) coed anfrodorol addurnol yw’r mwyafrif yn cynnwys planwydd Llundain, masarn Norwy, coed ginco a sawl math o gonifferau yn cynnwys pinwydd Himalaiaidd, cedrwydd, pren y bywyd a’r ffynidwydden arian.

Gwyddom fod nifer o infertebratau cyffredin yn debygol o fod yn bresennol ond ni chynhaliwyd archwiliad infertebratau hyd yn hyn! Mae ystlumod yn bwydo ar chwilod mawr ac amrywiol rywogaethau o wyfynod mwy o fewn y Parc (yn dibynnu ar beth sy’n weddill mewn clwydau).